Cost of Living Support Icon

Astudiaeth Rhwydwaith Trafnidiaeth Dinas Powys 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorydd technegol annibynnol i ddatblygu dewisiadau posibl ar gyfer gwella’r rhwydwaith trafnidiaeth.

Dinas Powys to Merrie Harrier Bus Lane Opening event banner sizeMae ardal yr astudiaeth yn cynnwys coridorau trafnidiaeth cyfredol o Gylchfan Biglis, y Barri, trwy Ddinas Powys, i Gaerdydd trwy Lecwydd, Cogan a Phenarth. Bydd yr asesiad o goridorau trafnidiaeth cyfredol yn ystyried y rhwydwaith priffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus o fewn Dinas Powys ac o’i chwmpas.

 

Roedd angen yr Astudiaeth oherwydd llifau mawr o draffig yn yr ardal gyda thagfeydd yn aml yn achosi oedi ac amser teithio na ellir dibynnu arno. Hefyd, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal yn llawn yn ystod yr amserau teithio prysuraf ac mae cyfleoedd cerdded a beicio’n gyfyngedig. Mae’r Astudiaeth yn rhoi cyfle cyffrous i wella ansawdd cysylltiadau yr holl ddulliau teithio rhwng Dinas Powys a’r ardaloedd o’i chwmpas.  

 

Ymgynghoriadau

 

Cynhaliwyd gweithdy i randeiliaid ddydd Mawrth 7 Mawrth 2017 yn Neuadd y Plwyf, Britway Road, Dinas Powys, y gwahoddwyd cynrychiolwyr o randeiliaid allweddol, sefydliadau cyhoeddus, darparwyr trafnidiaeth a’r awdurdod lleol iddo.  

 

Cynhaliwyd digwyddiadu ymgynghori â’r cyhoedd ddydd Llun 13 Mawrth 2017 rhwng 13:30 a 18:30 yn Neuadd y Plwyf. Rhoddodd y digwyddiad gyfle i aelodau’r cyhoedd roi adborth ar ddewisiadau, cyfleoedd a chyfyngiadau a nodwyd, yn ogystal ag ystyriaeth ac awgrymadiau ar gyfer yr amcanion a’r dewisiadau trafnidiaeth posibl.

 

Aeth aelodau o’r tîm project Arcadis a swyddogion Cyngor Bro Morgannwg i’r digwyddiad i hwyluso trafodaeth, gyda gorsafoedd gwaith penodol a ffurflenni adborth wedi’u darparu i gael gwybodaeth allweddol gan fynychwyr.

 

Adroddiad Cam 1 WelTAG 

Adroddiad Cam 1 WelTAG - Cofnodion Cabinet

 

Ffurflenni Cais Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru

 

Yn adroddiad Cam Un WelTAG, ystyriwyd y problemau, y cyfleoedd a’r cyfyngiadau, yr amcanion a nodwyd ac arfarnwyd rhestr hir o ddewisiadau. Cyflwynwyd yr astudiaeth Cam Un i’r Cabinet a chadarnhawyd y byddai’r dewisiadau canlynol yn cael eu hystyried ymhellach, yn dilyn argymhelliad gan Bwyllgor Craffu Adfywio a’r Amgylchedd y Cyngor ar 14 Medi 2017.

 

  • Gwneud y lleiaf
  • Ffordd osgoi
  • Dewis Aml-foddol
  • Dewis Ffordd Osgoi ac Aml-Foddol

Ar ôl hynny, cyflwynodd draft adroddiad Cam 2 WelTAG i’r Cabinet ar 18 Chwefror 2019

 

Yn dilyn yr adroddiad, nodwyd ystyriaethau ychwanegol i ymchwilio iddynt ymhellach.  

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi darparu dros £50,000 i gwblhau astudiaeth Cam 2 WelTAG i welliannau trafnidiaeth posibl yn Ninas Powys.

 

Y Contractwyr Arcadis Consulting Ltd sydd wedi cael eu dewis i gyflawni’r gwaith ac ymgynghorir â’r cyhoedd ar ei ganfyddiadau ddechrau’r flwyddyn nesaf.Gall y rhain gynnwys gwelliannau i deithio llesol a thrafnidiaeth cyhoeddus yn ogystal â’r posibilrwydd o adeiladu ffordd osgoi ar gyfer y pentref.Yn bennaf, bydd y gwaith yn cynnwys y canlynol:

  • Ymgysylltu â Network Rail i ddeall y cyfyngiadau a’r costau posibl sy’n gysylltiedig ag adeiladu ffordd osgoi a chyffordd yn ardal y twnel rheilffordd cyfredol.

  • Dylunio cysyniadau, modelu a chostio gwelliannau wedi’u hargymell i gyffordd y Merrie Harrier i wella capasiti. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghyd-destun y costau sy’n gysylltiedig â’r llwybrau pinc a gwyrdd.

  • Comisiynu Trafnidiaeth Cymru i gyflawni gwaith modelu strategol gan ddefnyddio cynigion model ffordd osgoi Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.

  • Diweddaru’r gwerthusiad economaidd ar gyfer alinio’r llwybrau gwyrdd/pinc a diweddaru’r achos trafnidiaeth ac adroddiad Cam 2.

  • Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ganfyddiadau adroddiad Cam 2, ei gwblhau a gwneud argymhellion i’w cyflwyno i Achos Busnes Llawn Cam 3 WelTAG.