Cost of Living Support Icon

Gwelliannau Trafnidiaeth M4 (Cyffordd 34)

Cefndir

 

Mae’r Cyngor wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorydd technegol allanol annibynnol i lunio cynigion ar gyfer ffordd newydd yn cysylltu'r M4 â’r A48 a chyfleuster parcio a theithio yng Nghyffordd 34 yr M4. 

  

Nodwyd dau lwybr posibl fel rhan o astudiaeth Cam 2 WelTAG, y byddai'r ddau ohonynt yn gwella cysylltiadau rhwng yr M4 a’r A48, lleihau amseroedd teithio i’r maes awyr a helpu i fynd i'r afael â thagfeydd traffig yn yr ardal leol.

 

Gofynnwyd i'r cyhoedd a grwpiau buddiant eraill i roi sylwadau ar y cynigion hyn yn 2018. Ystyriodd y Grŵp Adolygu (a benodwyd i wneud argymhellion) y mater ar 02 Hydref 2018. 

 

Penderfynodd y Grŵp Adolygu a Chabinet y Cyngor wneud rhagor o waith dichonoldeb gan edrych ar wneud gwelliannau i'r ffordd bresennol a gynhaliwyd fel astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG.

  

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar Gam Dau a Mwy WelTAG rhwng 30 Medi a 23 Rhagfyr 2020 a chaiff yr adroddiad ar yr ymgynghoriad ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Mawrth 2021.

 

Diweddaru:   
Nid yw'r cynllun hwn yn cael ei ddatblygu mwyach gan nad oedd yn denu cyllid gan Lywodraeth Cymru y tu hwnt i WelTAG Cam 2 a mwy.

 

Astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG - Opsiynau Ffyrdd 

 

Astudiaeth Cam Dau a Mwy WelTAG – Gorsaf Barcffordd  

 

Os hoffech drafod y cynigion gydag aelod o'n tîm trafnidiaeth yna cysylltwch â ni.

 

Gwasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth

Cyngor Bro Morgannwg,

The Alps, 
Alps Quarry Road, 
Gwenfo
CF5 6AA

 

  • 01446 700111