Cost of Living Support Icon

Pwyllgor Cynllunio

Mae’r Pwyllgor Cynllunio yn cynnwys 17 o gynghorwyr sy’n ymwneud â cheisiadau am ganiatâd cynllunio ym Mro Morgannwg

 

Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod bob mis, ac eithrio mis Awst, yn y Swyddfeydd Dinesig yn y Barri. Mae cyfarfodydd fel arfer yn dechrau am 4.00pm.

 

Mae hawl gan y cyhoedd i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio i wrando ar y trafodaethau. Gellir cyflwyno achos yn ysgrifenedig, neu i unrhyw Gynghorydd, cyn y cyfarfod, ac mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus yn y cyfarfod.

 

Adroddiadau’r Pwyllgor a Dogfennau Cysylltiedig

Pan fydd cais yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Cynllunio, cynhyrchir adroddiad ysgrifenedig sydd ar gael i’r cyhoedd ei ddarllen (oni bai ei fod yn gyfrinachol). Mae adroddiadau’r Pwyllgor ar gael pedwar diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. O bosib bydd sylwadau hwyr yn cael eu derbyn ar ôl i’r adroddiad gael ei ysgrifennu.

 

 

 

Gweddarlledu

Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor Cynllunio eu gweddarlledu.

 

Nodwch: mae’r dudalen gweddarlledu yn fyw yn ystod cyfarfodydd yn unig.

 

Gweddarlledu’r Pwyllgor Cynllunio

 

  • Preifatrwydd

     

    Gweddarlledu - Cofiwch bod rhai cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu darlledu, cewch wybod ar lafar os bydd y cyfarfod yr ydych chi ynddo yn cael ei ddarlledu.  

     

    Os bydd yn cael ei ddarlledu, mae’n golygu eich bod chi’n cael eich recordio’n weledol ac o ran sain a bydd hynny ar gael ar y rhyngrwyd.  Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.

     

     Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   

     

    Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn.  Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk /.

     

    Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar  dpo@valeofglamorgan.gov.uk. - Cyngor Bro Morgannwg

 

 

Cofrestru i Siarad mewn Pwyllgor Cynllunio

Pan mae’r Pwyllgor Cynllunio’n ystyried cais am ddatblygiad newydd, mae darpariaeth ar gyfer siarad cyhoeddus yn y Cyfarfod perthnasol hwnnw.

 

Siarad Cyhoeddus yng Nghyfarfodydd y Pwyllgor

 

Gwneud sylwadau ar geisiadau cynllunio sydd i gael eu hadrodd i'r Pwyllgor.

Pan gyflwynir sylwadau mewn perthynas â cheisiadau cynllunio sy’n cael eu hadrodd i'r Pwyllgor Cynllunio y tu hwnt i’r cyfnod ymgynghori statudol o 21 diwrnod, dylid nodi y gallai’r sylwadau hynny gael eu derbyn yn rhy hwyr i’w cynnwys o fewn adroddiad ffurfiol y pwyllgor. Mae hyn oherwydd bod adroddiadau fel arfer yn cael eu paratoi ryw bythefnos cyn Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio.


Er mwyn sicrhau nad oes anfantais i aelodau o’r cyhoedd a sefydliadau/cyrff eraill sydd â diddordeb mewn cais penodol, bydd yr Awdurdod yn derbyn ac yn adrodd ar sylwadau a dderbynnir hyd at 12.00pm ar y diwrnod cyn cyfarfod y Pwyllgor. Caiff y sylwadau hyn eu dosbarthu ar ffurf adroddiad hwyr i aelodau’r Pwyllgor drwy e-bost ar y noson cyn y cyfarfod, ac fe’u cyflwynir ar ffurf copi caled yn y cyfarfod ei hun.

 

Gallwch weld archif adroddiadau’r pwyllgor yn yr Adran Craffu a Gwasanaethau Pwyllgor yn y Swyddfeydd Dinesig, Holton Road, Y Barri.