Cost of Living Support Icon

Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol

Gwybodaeth am gyrsiau hyfforddiant gofal cymdeithasol sydd ar gael ym Mro Morgannwg.

 

Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (PDGGC)

Mar Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr a rhaglen ddatblygu mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol ym Mro Morgannwg.

  

Mae mynediad i'r rhaglen ddatblygu trwy system rheoli dysgu'r Fro o'r enw iDev.  Os ydych yn ddarparwr gofal yn y Fro ac nad oes gennych fynediad at iDev, e-bostiwch y tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol - socialcarewfdev@valeofglamorgan.gov.uk

 

Darperir cyrsiau am ddim i ddarparwyr gofal y Fro, er bod lleoedd wedi'u cyfyngu i 2 bob digwyddiad. Disgwylir i staff fynychu am gyfnod llawn yr hyfforddiant neu ni fyddant yn derbyn tystysgrif presenoldeb. 

 

 

Gofalwyr Maeth

Cefnogir Gofalwyr Maeth gan dîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol trwy eu gweithiwr cymdeithasol cefnogol.
  

Mae hyfforddiant Gofalwyr Maeth yn cael ei fapio i'r Safonau Sefydlu Gofalwyr Maeth yn ystod y flwyddyn gyntaf, ac wedi hynny mae'n cael ei arwain gan anghenion datblygu unigol. 

 

Gall Gofalwyr Maeth hefyd fynychu unrhyw Hyfforddiant Maethu Cymru sydd ar gael.   

 

  

Cysylltu â ni

Ar gyfer unrhyw ymholiadau cysylltwch â:

Tîm Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

3ydd Llawr,

Y Swyddfa Ddinesig,

Heol Holltwn

Y Barri,

CF63 4RU