Gwybodaeth am Ymgeiswyr ac Asiantau y Senedd
Sesiynau briffio
Bydd Rob Thomas, y Swyddog Canlyniadau (SC) yn cynnal sesiynau briffio cyn y cyfnod enwebu ac ar ôl cau'r enwebiadau:
- Y cyfnod cyn-enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu gwybodaeth bwysig am y broses enwebu, gan gynnwys gwybodaeth am daliadau ernes, ymgyrchu, gwariant a rhoddion.
Cynhelir y sesiwn friffio ddydd Llun 23 Mawrth 2026 am 5pm.
Os hoffech ymuno â'r sesiwn friffio, e-bostiwch Rachel Starr, rmstarr@valeofglamorgan.gov.uk a bydd dolen yn cael ei hanfon atoch.
- Y cyfnod ar ôl enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu gwybodaeth ynghylch y broses a’r amserlen ar gyfer pleidleisiau post, diwrnod yr etholiad a chyfrif y pleidleisiau.
Cynhelir y sesiwn friffio ddydd Gwener 24 Ebrill 2026 am 5pm.
Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig - ymgeiswyr anabl
Gall ymgeiswyr anabl ar gyfer y Senedd neu Lywodraeth Leol nawr wneud cais am gyllid o dan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, a weithredir gan Anabledd Cymru. Diben y cyllid yw helpu ymgeiswyr anabl gyda chostau ychwanegol, anochel - fel trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, neu gymorth personol. Mae’n cynnwys:
- Help i nodi'r cymorth angenrheidiol.
- Cymorth i gwblhau ceisiadau.
- Asesiad teg o geisiadau i sicrhau tegwch.
- Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.
Mae'r gronfa yn darparu cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy'n gysylltiedig ag amhariad, gan gynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch, a thechnoleg gynorthwyol. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei weinyddu'n annibynnol gyda didueddrwydd a chyfrinachedd. Bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad - o enwebu i gyhoeddi canlyniadau.
Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Anabledd Cymru neu lawrlwythwch y ffurflen gais yma.
Canllawiau ac adnoddau ar gyfer yr ymgeiswyr a’u hasiantiaid
Mae gan y Comisiwn Etholiadol wybodaeth ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried sefyll yn yr etholiad, gan gynnwys gwybodaeth am bwy sy’n gymwys i sefyll mewn etholiad.
Enwebiadau
Mae ffurflenni enwebu a gwybodaeth am y broses enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Noder – bydd gwahaniaethau yn y ffurflenni enwebu os ydych chi’n ymgeisydd ar restr plaid neu’n ymgeisydd unigol. Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Etholiadol am restr lawn o’r gofynion ar gyfer y broses enwebu.
Derbynnir enwebiadau o 10am ddydd Gwener 27 Mawrth 2026 tan 4pm ddydd Gwener 9 Ebrill 2026 (ac eithrio penwythnosau a Gwyliau Banc).
Gwirio’r Papurau Enwebu’n Anffurfiol
Byddwn yn cynnig gwiriadau anffurfiol o'ch papurau enwebu i ymgeiswyr cyn i chi eu cyflwyno nhw’n swyddogol.
Gallwch e-bostio eich papurau enwebu drafft at nominations@valeofglamorgan.gov.uk am sylwadau.
Cyflwyno eich Papurau Enwebu
Gallwch gyflwyno eich ffurflenni enwebu wyneb yn wyneb neu’n electronig:
- Wyneb yn wyneb – gellir gwneud apwyntiadau rhwng 10am a 4pm i gyflwyno'r papurau enwebu. Gellir gwneud apwyntiadau drwy ffonio 01446 709304 neu drwy e-bostio rmstarr@valeofglamorgan.gov.uk.
- Yn electronig –
- Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost i nominations@valeofglamorgan.gov.uk;
- Ni dderbynnir enwebiadau os cânt eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost gwahanol;
- Dylai llinell pwnc yr e-bost nodi’n glir beth yw enw’r blaid gofrestredig neu enw’r ymgeisydd unigol;
- Wedi i ni dderbyn y papurau, byddwn yn anfon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Ni fydd yr e-bost hwnnw’n cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys;
- Bydd e-bost arall yn cael ei anfon i gadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys neu a oes unrhyw broblemau o ran yr wybodaeth a gyflwynwyd;
- Bydd angen i’r taliadau ernes priodol gael eu gwneud cyn y ceir cadarnhad bod yr enwebiad wedi’i gadarnhau fel un dilys;
- Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi eu cyflwyno a bod eu dilysrwydd wedi ei gadarnhau, a hynny heb fod yn hwyrach na 4.00p.m. ar 9 Ebrill 2026.
Talu’r Ernes
Gellir talu’r ernes i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig). Mae'r taliadau ernes sydd eu hangen fel a ganlyn:
- Ymgeisydd unigol – ernes o £500.00;
- Ymgeiswyr rhestr plaid – ernes o £500.00 ar gyfer yr ymgeisydd cyntaf ar restr y blaid; ac ernes o £200.00 ar gyfer pob un o'r pum ymgeisydd nesaf sy'n ymddangos ar restr y blaid gofrestredig.
Ni fydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich papurau enwebu oni bai eich bod wedi talu’r ernes cywir.
Fforffedu’r ernes
- Bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
- Bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
Cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol.
Ceir manylion pellach ar wefan y Comisiwn Etholiadol
Dyddiadau pwysig
Dyddiadau pwysig
|
Digwyddiad
|
Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (amser cau os nad yw’n ganol nos)
|
Dyddiad (amser cau os nad yw’n ganol nos)
|
|
Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
|
Heb fod yn llai na 25 o ddiwrnodau
|
Dydd Gwener 27 Mawrth
|
|
Cyflwyno papurau enwebu
|
Unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad
|
O 10am ar 27 Mawrth tan 4pm ddydd Iau 9 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
|
19 diwrnod (4pm)
|
4pm ddydd Iau 9 Ebrill
|
|
Gwneud gwrthwynebiadau i’r papur enwebu
|
19 diwrnod (5pm) cyn yr etholiad, yn amodol ar y canlynol:
Cyn 12 canol dydd gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad.
Rhwng 12 canol dydd a 5pm, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau.
|
Cyn 12 canol dydd, ddydd Iau 9 Ebill, gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill.
Rhwng 12 canol dydd a 5pm ddydd Iau 9 Ebrill, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill y gellir gwneud gwrthwynebiadau.
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl
|
19 diwrnod (4pm)
|
4pm ddydd Iau 9 Ebrill
|
|
Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad
|
19 diwrnod
|
Dydd Iau 9 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi
|
Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)
|
Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill
|
|
Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad a lleoliad y gorsafoedd pleidleisio
|
Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)
|
Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru
|
12 diwrnod
|
Dydd Llun 20 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes
|
11 diwrnod (5pm)
|
5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill
|
|
Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad
|
Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod
|
Dydd Mercher 22 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng)
|
6 diwrnod (5pm)
|
5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill
|
|
Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad
|
5 diwrnod
|
Dydd Mercher 29 Ebrill
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio ac asiantiaid cyfrif wedi’u penodi.
|
5 diwrnod
|
Dydd Mercher 29 Ebrill
|
|
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd
|
4 diwrnod
|
Dydd Iau 30 Ebrill
|
|
Y dyddiau cau ar gyfer penodi is-asiantiaid
|
2 ddiwrnod
|
Dydd Mawrth 5 Mai
|
|
Diwrnod yr etholiad
|
0 (7am tan 10pm)
|
7am tan 10pm ddydd Iau 7 Mai
|
|
Yr amser olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd
|
0 (5pm)
|
5pm ddydd Iau 7 Mai
|
|
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
|
0 (5pm)
|
5pm ddydd Iau 7 Mai
|
|
Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl gan y llys
|
0 (9pm)
|
9pm ddydd Iau 7 Mai
|
|
Dilysu a chyfrif
|
|
9am ddydd Gwener 8 Mai
|
Manylion Cyswllt
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â:
Rheolwr y Gwasanaethau Etholiadol, Rachel Starr
rmstarr@valeofglamorgan.gov.uk
01446 709304
Neu
Ddirprwy’r Gwasanaethau Etholiadol, Hayley Hanman
hhanman@valeofglamorgan.gov.uk
01446 709345