Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod      Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser           DYDD LLUN, 6 MAWRTH, 2023 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod             

 

Lleoliad                          CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar:

            (a)       5 Rhagfyr, 2022;

            (b)       Cyfarfod Arbennig, 11 Ionawr, 2023;

            (c)       Cyfarfod Arbennig, 30 Ionawr, 2023.

[Gweld Cofnod]

 

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Prif Weithredwr a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

Cyfeiriad –

5.         Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Dirprwy a Enwebwyd gan y Cydbwyllgor Craffu – Pwyllgor Craffu’r Amgylchedd ac Adfywio: 13 Rhagfyr, 2022.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Prif Weithredwr –

6.         Defnydd o Bwerau Brys y Prif Weithredwr.

[Gweld Cofnod]

  

Adroddiadau’r Swyddog Monitro / Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd –

7.         Ymgynghoriad â Threthdalwyr Annomestig.

[Gweld Cofnod]

8.         Diwygiadau i Gyfansoddiad y Cyngor

[Gweld Cofnod]

 

9.         Ystyried y canlyniad(au) canlynol gan y Weithrediaeth o ran Fframwaith Polisi a Chyllideb y Cyngor –   

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Cynllun Busnes Cyfrif Refeniw Tai 2023/53  (2)

[Gweld Cofnod]

2 Chwefror, 2023

C215

(b)       Anheddau gwag y Dreth Gyngor: 2024/25 (1‑4)

[Gweld Cofnod]

16 Chwefror, 2023

C224

(c)      Cynllun Cyflawni Blynyddol Drafft Cyngor Bro Morgannwg 2023-24 (3) 

[Gweld Cofnod]

16 Chwefror, 2023

C226

(d)       Strategaeth Gyfalaf 2023/24 a Chynigion Terfynol y Rhaglen Gyfalaf 2023/24 i 2027/28 (1-8) (Gweld Cyfeiriad)

[Gweld Cofnod]

27 Chwefror, 2023

C236

(e)      Strategaeth Rheoli'r Trysorlys a Buddsoddi 2023/24 a Diweddariad 2022/23 (2&3) (Gweld Cyfeiriad)

[Gweld Cofnod]

27 Chwefror, 2023

C237

(f)      Cyllideb Derfynol 2023/24 a CATC 2023/24 i 2028/29 (2&3) (Gweld Cyfeiriad) [Gweld Gwybodaeth Atodol]

[Gweld Cofnod]

27 Chwefror, 2023

C238

(g)       Polisi Tâl 2023/2024 (2)

[Gweld Cofnod]

2 Chwefror, 2023

C213

(h)      Cynllun Arfarnu Prif Swyddogion – Diwygiadau Arfaethedig (2)

[Gweld Cofnod]

16 Chwefror, 2023

C223

 

O.N.  Mae'r adroddiadau sy'n destun y cyfeiriadau mewn perthynas ag Eitemau Agenda 9(a) – (h) uchod eisoes wedi'u dosbarthu i Aelodau gydag agendâu'r Cabinet ar gyfer 2, 16 a 27 Chwefror, 2023.   Fodd bynnag, er mwyn cynorthwyo'r Aelodau i ystyried cynigion y Gyllideb, mae copïau o'r adroddiadau mewn perthynas ag Eitemau 9(d) i 9(f) wedi'u cynnwys yn yr agenda.

 

**Mae rhagor o gopïau ar gael gan Swyddfa Gwasanaethau Democrataidd yn ôl y gofyn**. 

 

10.       Gosod y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24.  [Gweld Gwybodaeth Treth y Cyngor Diwygiedig]

[Gweld Cofnod]

 

11.      I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 15.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Anheddau gwag y Dreth Gyngor: 2023/24 (2)

[Gweld Cofnod]

1 Rhagfyr, 2022

C158

(b)       Sylfaen y Dreth Gyngor: 2023/24 (2)

[Gweld Cofnod]

15 Rhagfyr, 2022

C168

(c)       Cynigion Cyllideb Terfynol y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) 2023/24 a Phennu Rhenti 2023/2024 (5)

[Gweld Cofnod]

5 Ionawr, 2023

C176

(d)       Cynnig i Drosglwyddo Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Llandochau i Ysgol Y Ddraig (3)

[Gweld Cofnod]

5 Ionawr, 2023

C177

(e)       Cyllideb 2023/24 ar gyfer Ymgynghori a Diweddariad Pellach o'r CATC (6)

[Gweld Cofnod]

19 Ionawr, 2023

C189

(f)        Pecyn Cymorth Cynhwysiant Trawsrywiol Drafft a Dogfen Ganllaw ar gyfer Ysgolion a Lleoliadau Eraill (5)

[Gweld Cofnod]

19 Ionawr, 2023

C193

(g)       Ymateb y Cyngor i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Papur Gwyn Gweinyddu Etholiadol a Diwygio (2)

[Gweld Cofnod]

19 Ionawr, 2023

C200

(h)       Cynllun Cyflawni Blynyddol Drafft Cyngor Bro Morgannwg 2023-24 (4)

[Gweld Cofnod]

16 Chwefror, 2023

C226

 

 

12.      I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

13.      Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Derbyniwyd 19 cwestiwn.

[Gweld Cofnod]

 

14.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

15.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

28 Chwefror, 2023

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: democratic@valeofglamorgan.gov.uk  

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH: Mae'r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd. Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu'n gyson yn seiliedig ar ganllawiau sy’n dod i law gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor ac mae manylion ym mharagraffau 21.2 a 21.3 ynghylch pa gyfarfodydd fydd yn cael eu cynnal ar sail hybrid ac o bell yn unig.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg hefyd yn cael eu ffrydio'n fyw, ac eithrio pan fo materion Rhan II yn cael eu hystyried yn llwyr neu'n rhannol, yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-Leoliad y Cyngor.

 

Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor arDPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Bydd cyfarfodydd sy'n cael eu cynnal ar sail hybrid yn cael eu cynnal yn Siambr y Cyngor ac ar-lein.  Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus yn y Siambr.  Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar gyfer ffrydio’n fyw neu at ddibenion hyfforddi.

 

Cyfarfodydd a gynhelir o Bell

 

Gall Aelod sy’n dymuno mynychu’r Swyddfeydd Dinesig e.e. o Siambr y Cyngor, er mwyn cael mynediad/mynychu cyfarfod o bell, drwy ddefnyddio dyfais y Cyngor. Gan ddefnyddio rhwydwaith TGCh y Cyngor i ymuno â’r cyfarfod wneud hynny.  Hysbysu'r Gwasanaethau Democrataidd cyn y cyfarfod yn enwedig pan gynhelir y cyfarfod gyda'r nos fel y gellir hysbysu diogelwch adeiladau.

 

Bydd aelodau o'r cyhoedd a allai ddymuno arsylwi darllediad byw o drafodion cyfarfod a gynhelir ar sail cyfarfod o bell ac nad ydynt yn gallu gwneud hynny o gartref, yn gallu gweld y darllediad byw o ardal ddynodedig yn y Swyddfeydd Dinesig. yn y Barri, yn amodol ar dderbyn hysbysiad o bresenoldeb ddim hwyrach nag un diwrnod gwaith cyn amser cychwyn y cyfarfod.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â democratic@valeofglamorgan.gov.uk  neu ffôn. 01446 709413

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx