Cost of Living Support Icon

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn (TTD)

Nid yw Taliad Tai yn ôl Disgresiwn (TTD) yn fudd-dal - mae’n daliad argyfwng.  Mae’r gyllideb yn gyfyngedig a chaiff ei gosod gan y Llywodraeth.  Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. 

 

Mae hyn yn golygu, er eich bod o bosibl yn wynebu anawsterau mae’n bosibl y bydd pobl eraill, y mae angen mwy o gymorth arnynt, yn gwneud cais ac felly mae’n bosibl na fyddwch yn llwyddo i gael TTD. Fel arfer telir TTD am gyfnod byr i’ch helpu i gael rhagor o gymorth tymor hir megis cyngor ar ddyledion neu i’ch cynorthwyo gyda newid yn eich amgylchiadau megis symud i eiddo llai/rhatach. 

 

Ni all y Cyngor warantu cymorth TTD hirdymor oherwydd y gosodir y gyllideb gan y Llywodraeth ganolog o flwyddyn i flwyddyn a bydd nifer y ceisiadau y mae’r cyngor yn eu derbyn bob blwyddyn yn amrywio.

 

 

Gallwch wneud cais am TDD os:

  • - bydd gennych ddiffyg rhwng maint y Budd-dal Tai a ddyfernir i chi a maint y rhent rydych yn ei dalue
  • - ydych chi'n hawlio Credyd Cynhwysol ac mae maint yr elfen tai yn llai na'ch rhent

Cofiwch fod rhaid i chi fod yn derbyn Budd-dal Tai neu gostau tai trwy Gredyd Cynhwysol er mwyn gwneud cais am TTD

 

Yr hyn y gellir defnyddio TTD ar ei gyfer

  • gostyngiadau yn y Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol lle y defnyddiwyd y cap budd-daliadau 
  • gostyngiadau yn y budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn dilyn dileu'r cymhorthdal ar ystafelloedd sbâr yn y sector rhentu cymdeithasol
  • gostyngiadau yn y Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol o ganlyniad i gyfyngiadau ar lwfansau tai lleol
  • cyfyngiadau swyddogion rhent
  •    diddymiadau'r rhai nad ydynt yn ddibynyddion or ran Budd-dal Tai neu gyfraniadau i gostau tai o ran Credyd Cynhwysol
  • diffygion mewn rhent er mwyn atal aelwyd rhag mynd yn ddigartref tra bod yr awdurdod tai yn chwilio dewisiadau amgen
  • gostyngiadau oherwydd eich incwm

 

Byddwn hefyd yn ystyried:

  • Blaendaliadau rhent a rhent ymlaen llaw – ar gyfer eiddo rydych yn symud iddo
  • Cymorth gyda chostau symud tŷ

 

I fod yn gymwys ar gyfer hyn mae’n rhaid i chi fod

  • Yn derbyn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd yn eich cartref presennol
  • Dangos nad oes unrhyw drefniadau amgen y gallwch eu gwneud
  • Mae’r swm yn rhesymol - mae’n bosibl y byddwn yn gwneud ein cymhariaeth ein hunain gyda chwmnïau symud tŷ.

Sylwer, telir blaendaliadau a chostau symud tŷ yn uniongyrchol i’r landlord newydd neu’r cwmni symud tŷ. Bydd angen i chi ddarparu ei fanylion BACs ac ar gyfer costau symud tŷ, bydd hefyd angen i chi roi o leiaf tri dyfynbris

 

Gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Bydd angen i chi lenwi ffurflen TTD a’i dychwelyd i ni yn:

Adran Budd-daliadau Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, Bro Morgannwg, CF63 4RU

 

Os byddwch yn e-bostio eich ffurflen wedi’i chwblhau, bydd angen i chi sicrhau y cafodd ei llofnodi cyn ei hanfon yn ôl atom.

 

Os ydych yn llenwi’r ffurflen ar ran rhywun arall, sicrhewch y cadarnheir hyn ar y ffurflen. Hefyd bydd angen i’r ffurflen TTD fod yn enw’r un sy’n hawlio.

 

Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod:

 

Ffurlen TTD

Fel arall, gallwch ein ffonio ar 01446 709244, e-bostio benefits@valeofglamorgan.gov.uk, neu alw heibio i’r cownter Budd-daliadau yn y Swyddfeydd Dinesig, Heol Holltwn, Y Barri, CF63 4RU i ofyn am ffurflen.

 

 


  • Beth allwch chi ei wneud i'ch helpu eich hun?

     

     

    DHP awards are a short term solution as they are from a fund.  They are nearly always awarded for any period from a few weeks but can be awarded up to 12 months to give you time to look for longer term solutions. There are exceptions and each application is looked at individually giving discretion to your circumstances.

     

    What kind of action could you take to make up the short-fall between HB and your rent? Suggestions include:

     - Start work or work more hours

     - Cut spending on things that you would consider non-essential.

     - Move to a smaller/cheaper property with your current landlord.

     - Move to a smaller/cheaper property with a different landlord.

     - Rent out a room.

     - Ensure other adults in your home are contributing fairly

  • A allaf apelio yn erbyn y penderfyniad?

     

     

    Yes, you can ask for a reconsideration of the decision.  This will need to be made in writing and received within a calendar month of the date on the decision letter. 

     

    You will need to provide reasons why you feel the decision needs to be looked at again.  We may ask for more supporting information such as bills, receipts, and letters to support your request.  We may also ask about other expenses such as details of any support you receive or extra items of household products or personal items you may need as a result of a disability.  We ask for a lot of information because we need to have a good picture of your financial situation and your circumstances.

     

    If you are still unsuccessful you can appeal against the decision.  Appeals must be made in writing within a calendar month from the date on the revision letter.  Your appeal will then be heard in front of a panel

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

  •  

     

 

Cyllid, Cyllidebu a Chyngor ar Ddyledion

Os ydych yn cael profiad o galedi ariannol oherwydd dyledion, mae sefydliadau a all eich cynghori ar reoli eich cyllid, eich dyledion a’ch credydwyr. 

 

Cyngor ar Bopeth Y Barri a’r Fro 

Cyngor ar sut i reoli eich dyled neu ble gallwch gael cymorth i reoli a chyllidebu ar gyfer eich dyled a budd-daliadau eraill y gallwch eu hawlio o bosibl.

  • 0845 120 3756

 

 

Tîm Cyngor Ariannol Bro Morgannwg

  • 01446 709512 / 01446 709513

 

 

Newid Sylweddol

Elusen dyledion sy’n cynnig cyngor ar ddyledion sydd am ddim ac yn ddiduedd.

  • 0800 138 1111

 

 

Mind

Mae MIND yn elusen ym Mro Morgannwg sy’n gweithio gyda phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl a throstynt.

  • Y Barri: 01446730792 - Tynewydd Road 

  • Penarth: 02920350330 - 56 Windsor Road, CF64 1JJ

  • Llanilltud Fawr: 01446730792 - 29 Crawshay Drive, Llanilltud Fawr

 

 

Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro

Mae Undeb Credyd Caerdydd a’r Fro yn sefydliad cymuned leol sy’n cynnig cynilon a benthyciadau.

 

    

Cronfa Cymorth Dewisol

Mae’n gronfa a sefydlwyd i’ch helpu gydag unrhyw gostau tai sydd gennych y tu allan i’r rhai a gefnogir gan y gronfa taliadau tai yn ôl disgresiwn.  Mae’n bosibl y bydd y rhain yn cynnwys cymorth tuag at ddodrefn os ydych chi wedi symud tŷ yn ddiweddar. 

  • 0800 8595924 / 03301 015000