Cost of Living Support Icon

Didyniadau Person Annibynnol

Person annibynnol yw oedolyn 18 mlwydd oed neu hŷn sy’n byw yn eich cartref nad yw yn ŵr, gwraig neu’n bartner i chi, plentyn yr ydych yn cael budd-dal plant ar ei gyfer neu rywun sy’n atebol ar y cyd â chi dros dalu rhent neu dreth gyngor.

 

Er enghraifft, mae person annibynnol fel arfer yn blentyn sy’n oedolyn, perthynas arall neu ffrind. Gwneir gwahanol ddidyniadau ar gyfer pobl annibynnol yn seiliedig ar eu henillion neu incwm ond mewn rhai achosion nid yw’r didyniadau hyn yn berthnasol.

 

Caiff y didyniad ei wneud o’ch Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor. Mae'r didyniadau yn symiau penodol sy’n berthnasol hyd yn oed os nad yw'r person annibynnol yn talu’r un geiniog i chi.

 

Mae rhai sefyllfaoedd pan na wneir didyniad fel gydag is-denant, lletywr, person dan 20 mlwydd oed y mae’r hawlydd neu bartner yn gyfrifol amdano, neu rai gofalwyr. 

Mewn rhai achosion mae’n rhaid i’r Cyngor wneud didyniad person annibynnol sy’n swm penodol yn seiliedig ar incwm ac amgylchiadau’r person dan sylw - dangosir y didyniadau hyn isod.

 

Ni wneir didyniad person annibynnol yn y sefyllfaoedd canlynol:

1. Ni wneir didyniadau am unrhyw berson annibynnol os ydych chi neu’ch partner:

  • Wedi’ch cofrestru’n ddall
  • Yn cael y Lwfans Gweini
  • Yn cael yr elfen ofal o’r Lwfans Byw i'r Anabl neu elfen byw bob dydd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol

2. Ni wneir didyniadau o un ai’r Budd-dal Tai neu o Ostyngiad y Dreth Gyngor os yw’r person annibynnol:

  • Dan 18 mlwydd oed
  • Dan 25 mlwydd oed ac yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm/ Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn seiliedig ar incwm (cam asesu)
  • Yn dilyn hyfforddiant seiliedig ar waith i bobl ifanc (Hyfforddiant Ieuenctid gynt) ac yn cael lwfans hyfforddi
  • Yn fyfyriwr neu’n fyfyriwr nyrsio llawn amser
  • Wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 52 wythnos
  • Yn y carchar (yn aros prawf neu ar ôl cael dedfryd)
  • Fel arfer yn byw yn rhywle arall (ond mae'n rhaid i chi roi ei gyfeiriad parhaol i ni neu byddwn fel arfer yn gwneud y didyniad)
  • Yn cael Credyd Pensiwn (un ai’r rhan gwarantedig, y rhan cynilo neu’r ddau)

3. Ni wneir didyniad o Ostyngiad y Dreth Gyngor os yw’r person annibynnol:

  • Dan 25 mlwydd oed ac yn cael Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn gysylltiedig ag incwm (prif gam)
  • Yn 25 neu hŷn ac yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm/Lwfans Cymorth Cyflogaeth yn gysylltiedig ag incwm (prif gam neu gam asesu)
  • Yn brentis
  • Yn berson ag anabledd meddyliol difrifol
  • Yn ofalwr

Gofalwr

Mae rhywun yn ofalwr os yw’r person y maent yn gofalu amdano yn cael un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Elfen Ofal Uwch y Lwfans Byw i’r Anabl 
  • Cynnydd o ran faint o bensiwn anabledd y maent yn ei gael
  • Neu gynnydd o ran faint o lwfans gweini cyson a gânt
  • Unrhyw un o gyfraddau Byw Bob Dydd y Taliadau Annibyniaeth Bersonol

 

Mae'n rhaid i'r gofalwr hefyd fod yn byw gyda'r person AC yn gofalu amdano am 35 awr yr wythnos ar gyfartaledd AC ni all fod yn ŵr neu wraig neu riant a gofalwr y person os ydynt dan 18 mlwydd oed.

 

Os yw’r newid hwn yn effeithio arnoch chi a’ch bod yn awyddus i gael cyngor neu gymorth i ddelio ag effeithiau hyn

Cysylltwch â:

 

 

Ebrill 2022

 

Didyniadau Person Annibynnol ar gyfer Budd-dal Tai

Dan 25 mlwydd oed ar gam asesu’r Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) 

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

£16.45

Dros 18 mlwydd oed ar brif gam y Lwfans Cymorth Cyflogaeth

£16.45

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£16.45

Dan 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw ennill unrhyw incwm

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw incwm a enillwyd

£16.45

Credyd Pensiwn

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £153.00

£16.45

Incwm gros rhwng £154.00 a £223.99

£37.80

Incwm gros rhwng £224.00 a £291.99

£51.85

Incwm gros rhwng £292.00 a £388.99

£84.85

Incwm gros rhwng £389.00 a £483.99

£96.60

Incwm gros o fwy na £484.00

£106.05


Didyniadau person annibynnol ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor

Credyd Pensiwn Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) Credyd Cynhwysol heb unrhyw enillion

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£5.30

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £224.00

£5.30

Incwm gros rhwng £224.00 a £389.00

£10.60

Incwm gros rhwng £389.00 a £484.00

£13.35

Incwm gros o fwy na £484.00

£15.95

 

Ebrill 2021

 

Didyniadau Person Annibynnol ar gyfer Budd-dal Tai

Dan 25 mlwydd oed ar gam asesu’r Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) 

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

£15.95

Dros 18 mlwydd oed ar brif gam y Lwfans Cymorth Cyflogaeth

£15.95

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£15.95

Dan 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw ennill unrhyw incwm

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw incwm a enillwyd

£15.95

Credyd Pensiwn

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £149.00

£15.95

Incwm gros rhwng £149.00 a £216.99

£36.65

Incwm gros rhwng £217.00 a £282.99

£50.30

Incwm gros rhwng £283.00 a £376.99

£82.30

Incwm gros rhwng £377.00 a £468.99

£93.70

Incwm gros o fwy na £469.00

£102.85


Didyniadau person annibynnol ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor

Credyd Pensiwn Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) Credyd Cynhwysol heb unrhyw enillion

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£5.10

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £217.00

£5.10

Incwm gros rhwng £217.00 a £377.00

£10.20

Incwm gros rhwng £377.00 a £469.00

£12.85

Incwm gros o fwy na £46900

£15.35

 

 

Ebrill 2020

 

Didyniadau Person Annibynnol ar gyfer Budd-dal Tai

Dan 25 mlwydd oed ar gam asesu’r Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) 

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

£15.85

Dros 18 mlwydd oed ar brif gam y Lwfans Cymorth Cyflogaeth

£15.85

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£15.85

Dan 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw ennill unrhyw incwm

Dim

Dros 25 mlwydd oed yn cael y Credyd Cynhwysol heb unrhyw incwm a enillwyd

£15.85

Credyd Pensiwn

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £148.99

£15.85

Incwm gros rhwng £149.00 a £216.99

£36.45

Incwm gros rhwng £217.00 a £282.99

£50.05

Incwm gros rhwng £283.00 a £376.99

£81.90

Incwm gros rhwng £377.00 a £468.99

£93.25

Incwm gros o fwy na £469.00

£102.35


Didyniadau person annibynnol ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor

Credyd Pensiwn Cymhorthdal Incwm/Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)/Lwfans Cymorth Cyflogaeth (yn gysylltiedig ag incwm) Credyd Cynhwysol heb unrhyw enillion

Dim

Dros 18 mlwydd oed ac nid mewn gwaith â thâl

£4.85

Dros 18 mlwydd oed ac mewn gwaith â thâl gyda neu heb y Credyd Cynhwysol:

 

Incwm gros o lai na £217.00

£4.85

Incwm gros rhwng £217.00 a £377.00

£9.75

Incwm gros rhwng £377.00 a £469.00

£12.25

Incwm gros o fwy na £469.00

£14.65