Cost of Living Support Icon

Oeddech chi'n gwybod bod gan Gyngor Bro Morgannwg Rwydwaith LHDTCRh+?

Fel cyflogai Cyngor Bro morgannwg, gallwch ymuno â GLAM, ein Rhwydwaith LHDTCRh+.

 New GLAM logo 2021

 

 

Rhwydwaith staff o gydweithwyr a chynghreiriaid LHDTCRh+ yw GLAM, sy'n:

  • gweithio i gael effaith gadarnhaol ar gydweithwyr LHDTCRh+ yn y gweithle;

  • codi ymwybyddiaeth am ei waith yn gyffredinol, a pha mor weladwy y mae; ac

  • sy’n darparu amgylchedd cymdeithasol a chefnogol.

 

Dywedodd Tom Narbrough, Cadeirydd Rhwydwaith GLAM am ein cynnydd ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall:

Hoffwn ddweud diolch o galon i'n cydweithwyr a'n cynghreiriaid ledled y Fro.Bob blwyddyn rydyn ni’n annog staff i gwblhau arolwg Stonewall fel rhan o'n cyflwyniad ar gyfer y Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle. Rydyn ni bob amser yn cael lefel dda o fewnbwn ac roedden ni’n ddiolchgar o weld y duedd honno'n parhau. Roedd y broses ar gyfer cais y llynedd ychydig yn wahanol wrth i wobrau Efydd, Arian ac Aur newydd gael eu cyflwyno.

 

Cawsom ein hadborth yn gynharach yn y flwyddyn ac rwy'n falch o gyhoeddi, ar ôl cynyddu ein sgôr yn raddol dros amser o dan y system flaenorol, fe gawson ni sgôr addawol iawn (63.5%) ar gyfer mynegai 2021, yn rhoi statws Arian i ni. Y trothwyon oedd; 24% i gael Efydd, 43% i gael Arian. 72% i gael Aur. Mae'n braf nodi ein bod bron yn 40% yn uwch na’r trothwy efydd a heb fod ymhell o'r lefel aur. Roedd ein hadborth penodol hefyd yn galonogol iawn, gyda llawer o feysydd lle credwn y gallen ni fod wedi codi sgorio’n uwch. Rydyn ni’n llwyr fwriadu manteisio ar hynny yn y cyflwyniad eleni.

 

Mae ein cynnydd cyson dros y blynyddoedd wedi helpu i ddangos ein bod yn Gyngor sy'n cofleidio amrywiaeth a chynhwysiant ac yn un sy'n gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau er budd yr holl grwpiau staff. Rwy'n falch o ddatgelu'r canlyniadau hyn fel cadeirydd rhwydwaith GLAM ac rwy'n edrych ymlaen at weld o aur yn disgleirio yn y dyfodol wrth i ni ddechrau'r broses casglu adborth ar gyfer cyflwyniad eleni i’r mynegai!

 

Mae GLAM bob amser yn chwilio am aelodau newydd a chyfleoedd i’n gwneud yn fwy gweledol. Roedd gan un o'n haelodau sylwadau gwych am eu profiad eu hunain gyda GLAM ac wrth ddathlu Amlygrwydd Deurywiol.

Doeddwn i erioed wedi teimlo'n wirioneddol gynwysedig o fewn y gymuned prif ffrwd LHDT+ oherwydd, fel llawer o bobl ddeurywiol, doeddwn i ddim yn teimlo bod fy hunaniaeth yn cyfrif. Mae GLAM wedi fy helpu i deimlo bod fy hunaniaeth yn ddilys a fy mod i'n rhan o gymuned. Rydw i wedi bod yn aelod o GLAM ers iddo ddechrau gan fy mod i eisiau cwrdd â chydweithwyr a chynghreiriaid LHDT+ eraill a thrafod y materion sy'n effeithio ar grwpiau LHDT+. Rwyf wedi dysgu llawer am hanes LGBT+, yr heriau sydd wedi eu goresgyn, a ffyrdd o fynd i'r afael â'r problemau sy'n parhau. Rwy'n gobeithio y bydd rhwydwaith GLAM yn parhau i gryfhau a chyrraedd mwy o gydweithwyr.

Mae'r rhwydwaith yn un o nifer o fuddion a chefnogaeth y byddwch yn eu derbyn wrth ymuno â Chyngor Bro Morgannwg.

 

Penarth Pier Sunset

Gyrfaoedd gyda Chyngor Bro Morgannwg

Porwch drwy'r swyddi gwag presennol, sefydlwch rybuddion swyddi a gwnewch gais ar-lein.