Cost of Living Support Icon

Lleoedd Gwag Llywodraethwyr Ysgol Ar Gael

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd Ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol fel llywodraethwyr ysgol Awdurdod Lleol (ALl).

Bydd Panel Penodiadau Llywodraethwyr yr ALl yn ystyried ar sail y cyfraniad y gall ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad.

 

Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys: 

 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol wedi ei fesur o ran meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyd-fynd â heriau'r ysgol unigol.

  • Y cyfraniad a wneir yn ystod cyfnod yn y swydd a phresenoldeb rheolaidd.

  • Awydd gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg o fewn yr ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.

  •  

    Gwybodaeth a diddordeb yn y gymuned y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.

  • Gwybodaeth am faterion addysg fodern

  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn rheolaidd yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau o'r corff llywodraethu y maent yn cael eu hethol iddynt.

  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr i ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu gallu a'u heffeithiolrwydd fel llywodraethwr.

Currently there are vacancies at the following schools:

 

Ysgol Gynradd Albert             

Ysgol Gynradd Oak Field

Ysgol Gynradd Ynys y Barri      

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pendeulwyn

Ysgol Gynradd Tregatwg 

Ysgol Gynradd Sain Tathan

Ysgol Gynradd Colcot  

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant

Ysgol Gynradd Evenlode  

Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen 

Ysgol Gynradd Fairfield  

Ysgol Gynradd Illtud Sant

Ysgol Gynradd Gladstone

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Gwenfô   

Stanwell

Ysgol Gynradd High Street

Ysgol Gynradd Fictoria

Ysgol Gynradd Parc Jenner   

Ysgol Uwchradd Whitmore

Ysgol Gynradd Llandochau     

Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Wig a Marcroes

Ysgol Gynradd Llanfair 

Ysgol Iolo Morganwg

Ysgol Gynradd Llanganna

Ysgol St Curig

Ysgol Llanilltud Fawr           

Ysgol Y Ddraig

Ysgol Gynradd Sully

 

Nodwch nad yw cyfarfodydd Ysgolion Cymraeg i gyd yn cael eu cynnal yn Gymraeg, a lle bynnag y maent, darperir cyfleusterau cyfieithu ar y pryd.

 

Os gallwch gyflawni'r meini prawf uchod a bod gennych ddiddordeb cael eich ystyried fel llywodraethwr ALl yn un o'r ysgolion uchod, cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr drwy e-bost yn governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ar 01446 709107 (llinell uniongyrchol) neu llenwch ffurflen Cofrestru Cais a Sgiliau.

 

LA Ffurflen gais Llywodraethwr

LA Ffurflen Cofrestru Sgiliau Llywodraethwyr

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pecynnau cais wedi'u cwblhau yw dim hwyrach na Dydd Mercher 27 Medi 2023 am hanner dydd.