Cost of Living Support Icon

Erioed wedi bod eisiau gyrfa mewn Gwaith Ieuenctid?

Os gwnewch hynny, byddech yn ymuno â thîm sydd wedi ennill gwobrau!

Youth Work Week - Llantwit Youth ClubYn ddiweddar, dathlodd Gwasanaeth Ieuenctid y Fro Wythnos Gwaith Ieuenctid ym mis Mehefin 2022 a’i defnyddio fel cyfle i ddathlu’r straeon cadarnhaol a’r llwyddiannau o’r 12 mis diwethaf.

 

Ym Mro Morgannwg, mae gennym Wasanaeth Ieuenctid ffyniannus, sy’n cefnogi pobl ifanc ar draws y sir rhwng 11 a 25 oed. Mae amrywiaeth eang o wasanaethau sy’n cynnig y cymorth hwn, o ddarpariaethau cyffredinol mynediad agored fel clybiau ieuenctid a chlybiau ar ôl ysgol, i dimau wedi’u targedu sy’n canolbwyntio ar les, digartrefedd ac atal NEETs. Mae’r Gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr mewnol ac allanol i gynnig safon uchel o ddarpariaeth sy’n bodloni anghenion pobl ifanc ar draws y Fro.

 

Mae gan yr holl staff gymwysterau proffesiynol ac wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, gan helpu i sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei ddarparu. Mae rhestr lawn o’n gwasanaethau i’w gweld ar ein gwefan neu ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, trwy Instagram, Facebook a Twitter.

 

Youth Work Week - Music ProjectMae staff o’r gwasanaeth wedi cael eu cydnabod trwy enwebiadau a gwobrau ar amrywiaeth o lefelau yn y flwyddyn ddiwethaf am y gwaith sydd wedi’i wneud drwy’r pandemig ac o fewn y sector gwaith ieuenctid ehangach.

 

Youth Work Week - the hubDrwy ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid, gallwch gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu a bod yn rhan o dîm gwaith ieuenctid arloesol a chyffrous. Fel tîm, mae’r Gwasanaeth Ieuenctid hefyd wedi cyflawni’r Marc Ansawdd Efydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan ddangos rhagoriaeth mewn darpariaeth o ansawdd sydd wedyn wedi’u defnyddio fel astudiaethau achos i wasanaethau ieuenctid eraill ledled Cymru. Mae'r Gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio tuag at y Marc Ansawdd Arian, sydd i'w asesu ym mis Medi eleni.

 

Yn ogystal â hyn, ym mis Gorffennaf 2021, dyfarnwyd y Siarter Safonau Cyfranogiad i Wasanaeth Ieuenctid y Fro, sy’n dangos ein hymrwymiad i gyfranogiad plant a phobl ifanc.

 

 Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r Gwasanaeth Ieuenctid, cysylltwch â ni:

  • 01446 709308

Penarth Pier Sunset

Gyrfaoedd gyda Chyngor Bro Morgannwg

Porwch drwy'r swyddi gwag presennol, sefydlwch rybuddion swyddi a gwnewch gais ar-lein.