Ardaloedd Gwahardd Cŵn
Er mwyn helpu i gadw mannau cyhoeddus yn lân, yn ddiogel ac yn bleserus i bawb, mae gwaharddiadau cŵn ar waith mewn rhai ardaloedd. Mae hyn yn golygu na chaniateir cŵn mewn lleoliadau penodol, fel ardaloedd chwarae i blant, tir ysgolion, a chaeau chwaraeon wedi'u marcio.
Gwahardd Cŵn ar Draeth
Rhwng 01 Mai a 30 Medi mae cŵn wedi'u gwahardd o nifer o draethau ym Mro Morgannwg.
I wirio pa draethau y mae'r gwaharddiad yn berthnasol iddynt, a pha draethau sy'n parhau i fod yn gyfeillgar i gŵn drwy gydol yr Haf, gweler:
Gwahardd Cŵn ar Draeth
Sylwch fod y Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus sy'n cwmpasu Aberogwr yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac yn destun ymgynghoriad pellach gyda'r gymuned leol, felly ni fydd unrhyw waharddiad traeth yn cael ei gymhwyso i Aberogwr yn ystod haf 2025.