Gwahodd ceisiadau am y Cynnig Gofal Plant 30 awr
Bydd Cyngor Bro Morgannwg yn dechrau cymryd ceisiadau ar gyfer y Cynnig Gofal Plant 30 awr o 9am ddydd Llun.

Gall rhieni cymwys nawr fanteisio ar hawl i 12 awr a hanner o ofal meithrin Cyfnod Sylfaen a 17 awr a hanner o ofal plant yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.
Disgwylir y bydd gofal plant ar gael ar ôl Gwyliau’r Pasg ar ddydd Llun 29 Ebrill.
I fod yn gymwys mae’n rhaid i’r plentyn fod yn dair neu’n bedair oed a bod â’r hawl i le dosbarth Meithrin Cyfnod Sylfaen naill ai mewn ysgol neu mewn lleoliad addysg cofrestredig.
Mae’n rhaid i riant neu rieni fod yn gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig ac yn breswylwyr sefydlog yng Nghymru.
Mae’n rhaid i'r ddau riant fod yn gweithio mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu unig riant; a gallu profi eu bod yn ennill isafswm wythnosol o 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol (ICC) neu'r cyflog byw cenedlaethol (CBC).
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael i rieni ar gyfnod mamolaeth/tadolaeth, ac ar rai mathau o fudd-daliadau wrth wneud cais.
Dim ond darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac sy'n cytuno â thelerau ac amodau'r cynnig a all ddarparu lleoedd gofal plant.
Bydd yn rhaid i’r rhiant neu’r rhieni dalu unrhyw ffioedd ychwanegol, gan gynnwys bwyd a chludiant.
Telir y cyllid ar gyfer gofal plant yn uniongyrchol i ddarparwyr gofal plant sy'n cymryd rhan.
Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd:
Gwneud cais am Gynnig Gofal