Cost of Living Support Icon

 

Dathlu Diwrnod VE gartref!

Dyma rai syniadau gwych i'ch helpu i gynnal eich dathliadau Diwrnod VE eich hun yn ystod y cyfyngiadau presennol.

 

  • Dydd Mercher, 06 Mis Mai 2020

    Bro Morgannwg



VE Day celebrations

Cofiwch, er na fydd yr orymdaith Diwrnod VE arferol yn cael ei chynnal yn Swyddfeydd Dinesig yn y Barri, bydd baner Jac yr Undeb yn cael ei chodi ac yn parhau i hedfan drwy gydol penwythnos Gŵyl y Banc.

Gwnewch eich baneri bach eich hun

Mae gan dîm Chwarae’r Fro syniadau gwych ar gyfer crefftau a gweithgareddau, gan gynnwys cynnal helfa sborion i greu eich baneri bach eich hun. 

 

 

 

Gwnewch hetiau arbennig gyda’r tiwtorial hwn gan dîm Dechrau’n Deg.

 

Cynhaliwch arddwest!

Yn hytrach na pharti stryd, beth am gynnal garddwest! Ewch i nôl eich blanced picnic, mefus a diod befriog (neu ddiod arall!) ac ewch i’r ardd i ddathlu gydag aelodau eich aelwyd.

 

Wrth gwrs, ni fyddai dathliadau Diwrnod VE yr un fath heb de a sgons. Os ydych yn teimlo’n anturus, ewch ati i bobi eich sgons eich hun.

 

Rysáit Sgons y BBC

Cymerwch ran!

Bydd BBC One yn darlledu amrywiaeth o raglenni arbennig drwy gydol y dydd, gan gynnwys dau funud o dawelwch.

 

  • 11am

Y Genedl yn Cofio: Bydd BBC One yn arwain dau funud o dawelwch i nodi bod 75 mlynedd wedi mynd heibio ers diwedd yr Ail Ryfel Byd

 

  • 2.45pm - 3.45pm

Cyhoeddi Buddugoliaeth: Darllediad o araith hanesyddol Winston Churchill, yn cyfleu beth fyddai’r DU wedi’i glywed ar Ddiwrnod VE 75 mlynedd yn ôl. 

 

  • 8pm

Yn y rhaglen arbennig hon bydd rhai o sêr mwyaf y DU yn canu ‘We’ll Meet Again’ gan y Fonesig Vera Lynn. Drwy gydol y sioe, cewch glywed gan y rhai a fu'n dyst i'r dathliadau gwreiddiol.

 

Geiriau We’ll Meet Again

 

  • 9pm

Araith gan y Frenhines: Bydd y Frenhines yn annerch y genedl ar 8 Mai - ar yr un adeg y siaradodd ei thad, Brenin Siôr VI, â’r DU 75 mlynedd yn ôl.

Dewch i gynnal cwis Diwrnod VE

Mae pawb yn gyfarwydd â Zoom, Houseparty a FaceTime erbyn hyn. A chithau’n feistr y cwis, lawrlwythwch ein Cwis ar  Ail Ryfel Byd i gynnal eich cwis Diwrnod VE eich hun.

 

Cwis ar yr Ail Ryfel Byd