Cost of Living Support Icon

 

Yr Oriel Gelf Ganolog yn arddangos gwaith gan Y Grwp Cymreig

Mae Oriel Gelf Ganolog Cyngor Bro Morgannwg yn y Barri yn arddangos gwaith gan Y Grŵp Cymreig yn ystod tymhorau’r hydref a'r gaeaf.  

 

  • Dydd Mawrth, 05 Mis Hydref 2021

    Bro Morgannwg

    Barri



Art Central LogoYn un o'r grwpiau artistiaid mwyaf sefydledig yng Nghymru, mae’r Grŵp Cymreig yn gydweithfa i artistiaid sydd wedi bod yn rhoi llais i'r celfyddydau gweledol yng Nghymru ers dros 70 mlynedd. 


Ar hyn o bryd mae ganddynt tua 40 o artistiaid yn aelodau gweithredol sydd ymhlith yr ymarferwyr celfyddydau gweledol mwyaf adnabyddus ac uchel eu parch yng Nghymru. 


Paentwyr a cherflunwyr yw'r artistiaid yn bennaf, y mae eu gwaith yn dangos trawstoriad o arddulliau mewn ymarfer celfyddydau gweledol cyfoes drwy ystod eang o gyfryngau a phrosesau. 


Maent wedi arddangos yn eang fel grŵp, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, ac wedi dathlu sawl carreg filltir arwyddocaol. 


Cafodd eu pen-blwydd diweddar yn 70 oed ei nodi gyda chyhoeddiad gan David Moore yn ystyried gwaith yr artistiaid presennol ac yn tynnu sylw at hanes y grŵp. 


Mae nifer o'r artistiaid yn byw ym Mro Morgannwg, gan gynnwys Alan Salisbury, yr Athro Gerda Roper, Kay Keogh, Ivor Davies, Mary Husted, Shirley Anne Owen ac Angela Kingston. Mae pobl eraill wedi byw yn yr ardal neu'n byw ac yn gweithio ledled Cymru. 

Dywedodd y Cynghorydd Kathryn McCaffer, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, y Celfyddydau a Diwylliant: "Rydym yn falch iawn o fod yn dangos gwaith artistiaid Y Grŵp Cymreig, yn enwedig gan fod llawer ohonynt yn byw yng Nghymru a bod rhai ohonynt yn byw ym Mro Morgannwg.  Mae'n gyfle gwych i ysgolion, trigolion ac ymwelwyr weld peth o'r gwaith anhygoel a grëwyd gan yr artistiaid hyn ar garreg eu drws."

Dywedodd cadeirydd Y Grŵp Cymreig, Sue Hiley Harris: "Mae'r grŵp yn falch iawn o arddangos yn Oriel Gelf Ganolog y Barri. Mae'n gyfle gwych i bob aelod ddangos detholiad o'i waith mewn lle mor wych." 

Wedi'i sefydlu yn 1948, roedd Grŵp De Cymru fel y'i gelwid bryd hynny yn cynnwys artistiaid proffesiynol ac amatur o chwe chymdeithas gelf flaenllaw yn Ne Cymru. 


Erbyn 1975 roedd wedi newid yn sylweddol, gan ddod yn gydweithfa i artistiaid proffesiynol a chafodd yr enw newydd Y Grŵp Cymreig.


Bydd yr arddangosfa yn agor ddydd Sadwrn, 9 Hydref ac yn rhedeg tan ddydd Sadwrn, 8 Ionawr.


Oriau agor yr Oriel yw dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9:30am a 4:30pm a dydd Sadwrn rhwng 9:30am a 3:30pm.