Cost of Living Support Icon

 

Cyngor yn cyhoeddi adroddiad hunan-asesu blynyddol

Mae'r adroddiad Hunan-Asesu Blynyddol yn manylu ar ein hasesiad ein hunain o sut rydym wedi cyflawni ein hamcanion dros y flwyddyn ddiwethaf.  

 

  • Dydd Mercher, 07 Mis Rhagfyr 2022

    Bro Morgannwg



Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ein llwyddiannau allweddol dros y deuddeg mis diwethaf, sy'n cynnwys:         

 

  • Cwblhau gwelliannau i adeiladau Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Ysgol Gynradd Trwyn y De, Ysgol Uwchradd Whitmore, Ysgol Gynradd Gladstone, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant ac Ysgol Uwchradd Pencoedtre fel rhan o'r rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu 
  • Cyflwyno pecyn o gefnogaeth i drigolion yn ystod yr Argyfwng Costau Byw, sy'n cynnwys cymorth ariannol, cefnogaeth i fanciau bwyd a phrosiectau eraill yn y gymuned.
  • Cynyddu'r dewis ar gael i drigolion sy'n oedolion agored i niwed er mwyn cefnogi a gwella eu llesiant drwy'r fenter 'Eich Dewis' gyda 5 asiantaeth ychwanegol yn ymuno â'r cynllun.
  • Cynyddu lefelau cyfranogiad gweithgarwch corfforol drwy amrywiaeth o fentrau sy'n cynnwys bron i 280 o sefydliadau partner. Cymerodd dros 74,500 ran mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol drwy gynlluniau fel y Rhaglen Pobl Ifanc Actif.
  • Sicrhau bron i £18.75m o gyfraniadau cynllunio sydd wedi eu hymrwymo i gynlluniau gwella seilwaith economaidd mewn cymunedau ledled Bro Morgannwg
  • Buddsoddwyd £4.111m mewn mentrau i wella trafnidiaeth 
  • Cefnogwyd trigolion yn profi ansicrwydd bwyd tra’n lleihau gwastraff bwyd drwy gynlluniau ledled y Fro, fel Pod Bwyd Penarth, Mynediad at Fwyd Llanilltud Fawr - Rhannu Bwyd CF61, y Big Bocs Bwyd yn y Barri, Fan Cadfeld ac Ysgol y Draig.
  • Mae 22 o wardiau a 26 grŵp cymunedol wedi elwa ar £1.127m o gyllid i gefnogi asedau lleol fel rhan o'n Cronfa Cymunedau Cryf. 
  • Cyfranogodd 1,400 o bobl ifanc agored i niwed mewn amrywiaeth o brosiectau gwaith ieuenctid, ymyriadau, gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth llesiant trwy gyfrwng cyfleoedd digidol ac wyneb yn wyneb.
  • Datblygu prosiect uchelgeisiol i leihau digartrefedd a chefnogi pobl i symud ymlaen i lety mwy parhaol
  • Fe wnaeth 771 o drigolion ddefnyddio Siop Un Stop y Cyngor a chael nifer o sesiynau cymorth dros y flwyddyn ar ystod o faterion gan arwain at effaith gadarnhaol o ran gwell sefyllfa dai, gwell sefyllfa economaidd ac ariannol a gwell iechyd personol a llesiant cyffredinol.

Nod yr adroddiad hunanasesu yw rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru, ein Rheoleiddwyr, dinasyddion Bro Morgannwg a rhanddeiliaid eraill sut yr ydym yn perfformio, ac ein bod yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored, ac yn  defnyddio'n harian ac adnoddau eraill yn effeithiol i gyflawni ymrwymiadau ein Cynllun Cyflawni Blynyddol a chyfrannu at yr amcanion llesiant cenedlaethol.  


Ochr yn ochr â chanfyddiadau ein hunan-asesiad, rydym hefyd wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y cyhoedd, i ofyn iddynt beth maen nhw'n ei feddwl am ein perfformiad a'r meysydd y mae angen i ni ganolbwyntio arnynt yn y flwyddyn sydd i ddod.  


Gyda'i gilydd, mae'r rhain wedi ein hysbysu o’r meysydd i ni ganolbwyntio ymhellach arnynt ac a gaiff eu hadlewyrchu yng Nghynllun Cyflawni Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2023/24.  Yn ogystal, mae pwyslais arbennig yn Cynllun Cyflawni Blynyddol eleni ar dair her allweddol y bydd llawer o gamau gweithredu’r Cynllun yn cyfrannu atynt. Ein heriau allweddol:

 

  • Argyfwng Costau Byw - cefnogi ein trigolion, sefydliadau a busnesau lleol yn wyneb costau cynyddol yn enwedig o ran ynni, bwyd a thai.
  • Prosiect Sero - ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur a chyflawni’r ymrwymiadau yn ein Cynllun Her Hinsawdd.
  • Gwydnwch Sefydliadol - sicrhau y gallwn barhau i addasu i’r heriau a darparu ein gwasanaethau er gwaethaf y pwysau ariannol a'r heriau o ran y gweithlu sy'n ein hwynebu ni a llawer o'n sefydliadau partner.

Rydym yn ymgysylltu ar ein Cynllun Cyflawni Blynyddol ar hyn o bryd, a fydd yn gael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Gweler: Cynllun Cyflawni Blynyddol 2023-24 | Cymryd Rhan y Fro (valeofglamorgan.gov.uk)

 

Am fwy o wybodaeth, darllenwch yr adroddiad hunan-asesiad llawn.