Cost of Living Support Icon

 

Ailagor cyrtiau tennis Parc Romilly ar ôl gwaith uwchraddio

 

Mae’r cyrtiau tennis ym Mharc Romilly wedi ailagor ar ôl cael eu gwella'n sylweddol yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Tennis Cymru a Chwaraeon Cymru.

 

  • Dydd Llun, 04 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



Romilly Tennis Courts UpgradeMae’r gwaith wedi'i gwblhau mewn pryd ar gyfer Wimbledon, gan gynnig cyfle i chwaraewyr lleol efelychu eu harwyr ar y cwrt.


Mae'r cyrtiau bellach yn cynnwys arwynebau hynod fodern ynghyd â system mynediad giât sy'n defnyddio ClubSpark. Mae hynny'n galluogi pobl i chwilio am gyrtiau, i’w cadw ac i dalu amdanynt ar-lein – sy'n golygu nad oes angen aros am gwrt neu wynebu ansicrwydd o ran a yw cwrt ar gael i chwarae arno. Mae'r system mynediad giât yn helpu i reoli’r cyrtiau wedi’u cadw ac yn creu lle diogel i bobl chwarae tra'n atal fandaliaeth i’r cyrtiau.


Er y codir tâl i gadw cwrt, ni fydd aelodaeth na system flaenoriaeth ar waith. Mae gan ddefnyddwyr rheolaidd yr opsiwn i brynu pàs teulu blynyddol, neu bàs myfyriwr, sy'n cynnig ffi untro isel am 12 mis o chwarae.


Romilly Tennis Courts Re-openingMae'r Cyngor bob amser wedi pennu taliadau ar gyfer defnyddio ei gyrtiau tennis ond nid yw wedi casglu ffioedd ers nifer o flynyddoedd gan nad yw wedi bod yn economaidd gwneud hynny.  Bydd y cyrtiau’n gweithredu ar sail ddielw, gydag arian yn cael ei ailfuddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ac unrhyw warged yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithgarwch tennis ym Mharc Romilly a bro ehangach Morgannwg.  


Drwy gydol y flwyddyn, bydd cyfleoedd rheolaidd hefyd i chwarae tennis am ddim ac mae Tennis Cymru yn bwriadu cynnal gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y gamp. 


Bydd rhaglen hyfforddi helaeth hefyd yn gweithredu o'r cyrtiau drwy garedigrwydd Academi Tennis y Fro, a fydd yn cynnig ystod o sesiynau i bobl o bob oedran a gallu gan annog pobl i chwarae a chymdeithasu.

Dywedodd y Cynghorydd Gwyn John, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Hamdden, Chwaraeon a Lles: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cyfleusterau gorau posibl i'w drigolion fwynhau ffordd actif ac iach o fyw.


"Mae Tennis Cymru a Chwaraeon Cymru, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn y cynllun i adnewyddu'r cyrtiau ym Mharc Romilly, yn rhannu'r amcan hwn.


"Mae gobaith y bydd y gwaith yn helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n chwarae tennis yn rheolaidd yn y lleoliad poblogaidd hwn." 


Dywedodd Jamie Clewer, Pennaeth Cyfranogiad Tennis Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i hwyluso tennis a’i wneud yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae adnewyddu cyrtiau tennis mewn parciau, fel y cyfleusterau gwych hyn ym Mharc Romilly, yn allweddol i gyflawni'r nod hwn.


"Edrychwn ymlaen at weld y cyrtiau hyn yn cael eu defnyddio gan y gymuned leol am flynyddoedd lawer i ddod, gan godi proffil tennis yn yr ardal a gweld mwy o bobl yn chwarae tennis hamddenol a chlwb."