Mae FfotoBARRIthon yn dychwelyd ar gyfer Haf 2022
Mae Cyngor Bro Morgannwg yn falch o gyhoeddi y bydd y FfotoBARRIthon yn dychwelyd fel rhan o raglen Haf o Hwyl y sefydliad.
Bydd tri digwyddiad yn cael eu cynnal yn ystod mis Awst.
Y cyntaf fydd digwyddiad chwe awr, a gynhelir ddydd Sul, 07 Awst, gan ddechrau yng Nghanolfan Gelfyddydau Memo yn y Barri. Bydd cyfranogwyr yn cael thema i dynnu lluniau arni bob awr. Bydd y pynciau hyn yn cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol neu gellir eu casglu mewn lleoliadau ar draws y dref.
Yna bydd cyfranogwyr yn dychwelyd i'r Memo i lanlwytho eu delweddau. Gellir dal ffotograffau ar gamerâu neu ffonau clyfar. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim i gymryd rhan ynddo ond mae'n rhaid i chi archebu tocynnau ymlaen llaw.
Bydd digwyddiadau llai, dwy awr yn cael eu cynnal bob dydd rhwng 08 a 12 Awst mewn lleoliadau amrywiol ar draws y Barri, gan gynnwys Ynys y Barri, Canol Tref y Barri, y Glannau, Tregatwg a Phorthceri.
Darperir pedwar pwnc dros y cyfnod o ddwy awr. Gall cyfranogwyr ddewis cymryd rhan yn un, dau neu bob un o'r digwyddiadau hyn, sydd eto'n rhad ac am ddim.
Dywedodd y Cynghorydd Rhiannon Birch, yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg: "Rydyn ni mor falch o gyhoeddi bod y FfotoBARRIthon yn dychwelyd fel rhan o Haf o Hwyl. Bydd hyn yn gyfle gwych i blant a phobl ifanc dynnu lluniau o rai o asedau gorau'r Barri.
"Mae detholiad gwych o feirniaid wedi'i gasglu ynghyd a bydd gwobrau a thystysgrifau yn cael eu rhoi i enillwyr.
"Mae wedi bod yn wych gweld busnesau lleol yn cymryd rhan, gan gynnwys Marco's Cafe, Awesome Wales, Craft Republic a Mr Villas. Byddan nhw'n cynnal rhai o'r pwyntiau casglu ar gyfer yr her."
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ar gyfer y digwyddiad newydd hwn, ewch i'r wefan neu cysylltwch â Mererid Velios neu Michael Goode.
Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bro Morgannwg a'r ffotograffydd lleol, Michael Goode.