Cost of Living Support Icon

 

Ysgolion y Fro yn ennill gwobrau treftadaeth

  • Dydd Mercher, 13 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg



Daeth dwy ysgol gynradd ym Mro Morgannwg yn Gyntaf yn eu categorïau ym Mentrau Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig.

 

Aeth y wobr gyntaf ar gyfer y categori 'Cyfnod Sylfaen' i Ysgol Gynradd Cogan am eu prosiect arloesol a diddorol yn archwilio gwaith y perlysiewr lleol, Royston Smith.

 

Yn dilyn hyn, aeth y wobr am 'Brosiect Ysgol Gyfan Cynradd Gorau' i Ysgol Gynradd Rhws am eu prosiect uchelgeisiol ar y pwnc 'Pwy ydym ni fel cenedl?'.

 

Cyhoeddwyd yr enillwyr ddydd Gwener 8 Gorffennaf yn 30ain seremoni wobrwyo'r Fenter, a gynhaliwyd yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

 

Dathlodd cyfanswm o 33 o ysgolion Cymru ar ôl derbyn gwobr yn y digwyddiad gydag enillwyr y categori gorau yn mynd â gwerth £1,300 o wobrau yr un a chrysau a gyflwynwyd gan Amgueddfa Cymru adref.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Mae'r gwobrau hyn yn gyflawniad gwych, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch a diolch i ddisgyblion a staff am eu holl waith caled.

 

"Mae'r gwaith dan sylw yn bwysig ac yn helpu i gyfoethogi dealltwriaeth plant o dreftadaeth Cymru a'n cysylltu ni i gyd gyda'n gilydd."

 

Roedd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, yn bresennol ar y diwrnod i gyflwyno rhai gwobrau i'r enillwyr, meddai: "Mae'n anhygoel gweld bod 3,000 o blant ledled Cymru wedi bod yn rhan o'r gystadleuaeth eleni.

 

"Rwy'n gobeithio bod y profiad wedi cynyddu eu gwybodaeth am eu treftadaeth ac y byddant yn eu hysbrydoli i ddarganfod mwy. 

 

"Mae hanes yn bwysig a dylem annog cenedlaethau sydd ar y gweill i archwilio, gwerthfawrogi a gwarchod eu treftadaeth, yn ogystal â mwynhau'r llwyddiannau gwych o'r gorffennol."

 

Dywedodd Angharad Williams, Cadeirydd WHSI: "Adroddodd y beirniaid ar rai enghreifftiau eithriadol o sut mae themâu hanesyddol a threftadaeth wedi'u hymgorffori yng ngofynion y Cwricwlwm newydd i Gymru.

 

"Dylai'r enillwyr fod yn falch iawn ac yn sicr maent yn haeddu'r cyfle i gydnabod a dathlu eu gwaith rhagorol.

 

"Er mwyn ein galluogi i ddyfarnu gwobrau mor wych, mae WHSI yn hynod ddiolchgar ac yn ddyledus i bob un o'n noddwyr ffyddlon, gan gynnwys y Sefydliadau Moondance a Hodge, am eu haelioni."

 

Mae rhestr o'r holl enillwyr ynghyd â'r dyfarniadau ar gael ar wefan y WHSI.