Cost of Living Support Icon

 

Anogir Grwpiau Cymunedol i wneud cais am Gronfa Grant Sefydliad y Maer

 

  • Dydd Mercher, 27 Mis Gorffenaf 2022

    Bro Morgannwg


 

 

Mae'r dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o ymgeiswyr ar gyfer Cronfa Grant Sefydliad y Maer yn prysur agosáu.

 

Gall grwpiau wneud cais am grantiau o rhwng £100 a £250 i helpu i gefnogi gwaith sefydliadau gwirfoddol ac elusennol ym Mro Morgannwg.


Anogir ceisiadau gan y rhai sy'n cefnogi gweledigaeth y Cyngor o "gymunedau cryf sydd â dyfodol disglair."

 

Headshot photo of the Mayor

Mae'r Gronfa Grant wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y gorffennol a dyfarnwyd y rownd olaf o geisiadau i sefydliadau fel Cylch Meithrin, Tywyswyr y Rhws, Neuadd Bentref Pen-marc a Chlwb Syrffio'r Fro.

 

Mae'r cylch hwn o geisiadau ar gyfer Cronfa Grant Sefydliad y Maer yn cau ar 1 Medi 2022 a bydd angen i ymgeiswyr sy'n dymuno gwneud cais am gyllid lawrlwytho'r ffurflen gais ar y wefan a'i dychwelyd at TheMayor@valeofglamorgan.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Susan Lloyd-Selby, Maeres Bro Morgannwg: "Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb. Mae grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol ac elusennol wedi dod yn bwysicach ac yn gweithio'n galetach nag erioed.

 

Roedd y rownd olaf o geisiadau ar gyfer y gronfa yn hynod lwyddiannus a hoffwn felly annog pawb sy'n gymwys i wneud cais am gyfran o'r gronfa i helpu cefnogi a gwella eu gwaith amhrisiadwy."

 

Mae manylion llawn am y gronfa grant a meini prawf cymhwysedd i'w gweld ar wefan Cyngor Bro Morgannwg .