Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 01 Mis Gorffenaf 2022
Bro Morgannwg
Mae ysgol Gymraeg ym Mro Morgannwg wedi dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed yn ddiweddar. Cydnabu Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant y garreg filltir bwysig drwy gynnal wythnos o ddathliadau, gan gynnwys Eisteddfod a thrip ysgol i Fferm Folly.Cyn y dathliadau, cymerodd disgyblion o'r ysgol ran mewn taith gerdded wedi’i noddi gan godi £2,864.51 tuag at y trip.Agorodd yr ysgol, a leolwyd yn wreiddiol ar safle Ysgol Sant Curig, ei drysau'n swyddogol ar ei safle presennol yn Gibbonsdown yn 2001 ac ers hynny mae'r ysgol wedi tyfu'n sylweddol o 26 i 250 o ddisgyblion. Mae dalgylch yr ysgol yn cynnwys Gibbonsdown, ond hefyd ardal lawer ehangach gan
Dywedodd Rhydian Lloyd, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant: "Yn anffodus fe wnaeth cyfyngiadau COVID ein hatal rhag dathlu'r llynedd ond o'r diwedd rydym wedi cael wythnos wych o ddathliadau! "Mae’r plant wedi dysgu am hanes yr ysgol a sut rydym wedi tyfu dros y blynyddoedd. Mae'n bwysig i ni gydnabod gwaith caled y pennaeth cyntaf, Mrs Glenna Griffith, ynghyd â staff, Llywodraethwyr a rhieni a weithiodd yn ddiflino i sefydlu'r ysgol ac i sicrhau sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol."Rydym yn ysgol gyfeillgar iawn ac rwy'n hynod falch o fod yn rhan o dîm gweithgar iawn. Mae gennym ethos arbennig iawn yng Ngwaun y Nant, wedi'i adeiladu ar ein gwerthoedd a diwylliant yr ysgol."Yn ysgol Gymraeg, rydym yn amlwg yn dathlu popeth yn ymwneud â Chymru ac yn mwynhau paratoi ein disgyblion ar gyfer dyfodol dwyieithog. "Roeddem eisiau i'r dathliadau fod yn gofiadwy i'r plant, felly beth well na thrip! Diolch byth roedd y tywydd yn braf. Cafodd pawb ddiwrnod gwych, er roedd yn flinedig iawn!"Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Rwy'n falch iawn o longyfarch Ysgol Gwaun y Nant ar ei phen-blwydd yn 25 oed."Mae'r dathliad hwn o 25 mlynedd yn cynnig amser i fyfyrio ar gyflawniadau'r ysgol yn y gorffennol ac i edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a llewyrchus addysg Gymraeg yng Nghymru."Bydd Ysgol Gwaun y Nant, ac ysgolion Cymraeg tebyg eraill yn chwarae rhan hanfodol yn y blynyddoedd i ddod wrth i Lywodraeth Cymru obeithio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Dywedodd Rhydian Lloyd, Pennaeth Ysgol Gymraeg Gwaun y Nant: "Yn anffodus fe wnaeth cyfyngiadau COVID ein hatal rhag dathlu'r llynedd ond o'r diwedd rydym wedi cael wythnos wych o ddathliadau! "Mae’r plant wedi dysgu am hanes yr ysgol a sut rydym wedi tyfu dros y blynyddoedd. Mae'n bwysig i ni gydnabod gwaith caled y pennaeth cyntaf, Mrs Glenna Griffith, ynghyd â staff, Llywodraethwyr a rhieni a weithiodd yn ddiflino i sefydlu'r ysgol ac i sicrhau sylfeini cadarn ar gyfer y dyfodol."Rydym yn ysgol gyfeillgar iawn ac rwy'n hynod falch o fod yn rhan o dîm gweithgar iawn. Mae gennym ethos arbennig iawn yng Ngwaun y Nant, wedi'i adeiladu ar ein gwerthoedd a diwylliant yr ysgol."Yn ysgol Gymraeg, rydym yn amlwg yn dathlu popeth yn ymwneud â Chymru ac
"Roeddem eisiau i'r dathliadau fod yn gofiadwy i'r plant, felly beth well na thrip! Diolch byth roedd y tywydd yn braf. Cafodd pawb ddiwrnod gwych, er roedd yn flinedig iawn!"Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Celfyddydau a'r Gymraeg, y Cynghorydd Rhiannon Birch: "Rwy'n falch iawn o longyfarch Ysgol Gwaun y Nant ar ei phen-blwydd yn 25 oed."Mae'r dathliad hwn o 25 mlynedd yn cynnig amser i fyfyrio ar gyflawniadau'r ysgol yn y gorffennol ac i edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous a llewyrchus addysg Gymraeg yng Nghymru."Bydd Ysgol Gwaun y Nant, ac ysgolion Cymraeg tebyg eraill yn chwarae rhan hanfodol yn y blynyddoedd i ddod wrth i Lywodraeth Cymru obeithio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050."
Os oes gennych ddiddordeb mewn Addysg Gymraeg ac os hoffech ymweld â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth, Rhydian Lloyd. 01446 421723.