Cost of Living Support Icon

 

Llyfrgelloedd y Fro i ailgyflwyno dirwyon llyfrgell ar ôl eu hatal am 3 blynedd

Ar ôl rhoi’r gorau i godi dirwyon llyfrgell yn ystod pandemig Covid-19, mae Cyngor Bro Morgannwg yn ailgyflwyno'r system i annog defnyddwyr llyfrgelloedd i ddychwelyd eitemau.

 

  • Dydd Iau, 25 Mis Mai 2023

    Bro Morgannwg



Ym mis Ebrill 2023, cyflwynwyd ffioedd a thaliadau newydd ar draws llyfrgelloedd y Fro a fydd yn gweld dirwyon bach yn cael eu codi pan na ddychwelir eitemau ar amser.

 

O fis Mai 2023, mae taliadau sy'n ddyledus ar bob cyfrif wedi'u clirio, a bydd y system newydd yn berthnasol i eitemau na ddychwelir ar amser ar ôl 5 Mehefin. Gellir adnewyddu neu ddychwelyd eitemau llyfrgell ar wefan Bro Morgannwg, drwy’r ap PORI, yn bersonol neu dros y ffôn.

 

Mae gan holl aelodau llyfrgelloedd y Fro hawl hefyd i gael mynediad am ddim ac ar unwaith i ystod eang o eLyfrau, llyfrau sain, cylchgronau digidol a phapurau newydd, y gellir eu cyrchu i gyd trwy wefan Bro Morgannwg.

 

Dywedodd llefarydd ar ran Llyfrgelloedd y Fro:"Y llynedd, gwnaethom groesawu cyfanswm o 277,014 o bobl i lyfrgelloedd ledled y sir - mae'r ffigurau hyn yn cynrychioli pa mor hanfodol yw ein gwasanaethau i gymunedau lleol.

 

"Bydd y taliadau newydd yn helpu i liniaru costau cynyddol ac yn annog pobl i ddychwelyd eitemau y gallai pobl eraill fod eisiau eu defnyddio.

 

"Mae ein llyfrgelloedd ar agor i bobl o bob oed, yn cynnig lle cyfeillgar a chroesawgar ac yn cynnig cyfleusterau gwych ac amrywiaeth o wasanaethau am ddim sy'n cefnogi ein cymunedau."

 

Mae manylion am ffioedd a thaliadau Llyfrgelloedd ar gael ar wefan Bro Morgannwg: https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/enjoying/Libraries/Fees-and-Charges.aspx