Ad-daliadau
Ni roddir ad-daliadau fel arfer, ac eithrio pan fyddwn ni’n dirwyn cwrs i ben. Fodd bynnag, rhoddir ystyriaeth i geisiadau ysgrifenedig gan ddysgwyr sydd wedi gadael cwrs am resymau meddygol. Codir tâl gweinyddol o £10 am wneud hyn. Gwneir pob ymdrech i osgoi diddymu neu gwtogi cyrsiau.
Newidiadau i’r Amserlen
Ceidw Cyngor y Fro yr hawl i newid tiwtor, cwrs ac amser ar unrhyw adeg.
Anabledd
Rhowch wybod i ni os oes gennych anabledd a allai effeithio ar eich gallu i fynychu’ch cwrs detholedig cyn cofrestru os gwelwch yn dda.
Talebau
Ar gael ar gyfer pob cwrs a gweithdy.