Cost of Living Support Icon

Grŵp Darllen Llanilltud Fawr

Heart reflected onto a bookMae Grŵp Darllen Llyfrgell Llanilltud Fawr yn cyfarfod unwaith y mis 

 

Os hoffech chi gyflwyno adolygiad o’r teitl i’r grŵp gael ei drafod yn y cyfarfod nesaf, gadewch gopi wrth y ddesg yn y llyfrgell cyn y cyfarfod. 

 

Os hoffech chi ymuno â’r grŵp, cysylltwch â Deborah Morgan ar:

 

 

Mae Grŵp Llyfrau Llyfrgell Llanilltud Fawr wrthi’n darllen The Rabbit Back Literature Society gan Pasi Ilmari Jaaskelainen. 

 

Gadewch eich adolygiad wrth y ddesg cyn 17 Awst 2016 os ydych yn dymuno rhannu eich barn ag aelodau eraill y grŵp. 

 

The Legacy of Elizabeth Pringle

Ni orffennodd pawb yn y grŵp y nofel hon. I ddechrau arni, roedd rhai aelodau wedi’u drysu gan agweddau technegol y wybodaeth ariannol ac fe benderfynon nhw beidio â dyfalbarhau â’r darllen. Roedd hi hefyd yn anodd cofio’r cymeriadau niferus a gyflwynwyd o fewn yr un paragraff (gwahoddedigion i’r cinio), yn ogystal â gwybodaeth gefndir amdanynt, a bu’n rhaid i ambell ddarllenydd gadw nodiadau i gofio pwy oedd pwy! Wedi dweud hynny, roedd y rhan fwyaf yn teimlo ei fod yn destun difyr wedi’i ysgrifennu’n gelfydd ac yn rhoi portread o fywyd yn Llundain mewn gwahanol haenau o’r gymdeithas dros gyfnod byr. Roedd y lleoliadau’n ddiddorol, megis eistedd yn sedd flaen trên tanddaearol wrth iddo fynd i mewn i dwnnel. 

 

Cyhoeddwyd y llyfr yn 2009 ac mae wedi’i osod yn y cyfnod cyn y chwalfa economaidd. Mae elfennau cyfochrog realiti a ffantasi yn cael eu hadleisio mewn byd rhithiol a’r byd go iawn, drwy niwl cyffuriau a chwestiynau fel ‘i ble’r aeth yr arian?’ yn derbyn ateb swta: ‘fuodd e erioed yma.

 

’Roedd gweithredoedd anfad nifer o gymeriadau’n ymylu ar fod yn bantomeimaidd, ac ynghyd â bywydau trasig cymeriadau eraill, gwnaeth hyn y llyfr yn ddiflas i rai o aelodau’r grŵp. Sgôr o 6.5–7 allan o 10 a roddwyd, ac er ei fod yn ddifyr, gostyngwyd y marc i adlewyrchu cymhlethdod strwythurol y gwaith. 

 

Adolygiadau blaenorol

  • The Age of Innocence gan Edith Wharton 

    Nid oedd y rhan fwyaf o aelodau’r grŵp yn teimlo bod y nofel hon yn berthnasol i le menywod mewn cymdeithas gyfoes, nac o ddiddordeb iddynt, er y bu holi pa fath o gyfyngiadau tebyg fyddai’n wir o fewn cylchoedd y teulu brenhinol heddiw.

     

    Ni orffennodd y rhan fwyaf ohonom yn llyfr, ac o blith y rhai a wnaeth, roedd teimlad bod y diwedd yn anfoddhaol iawn. Holwyd pam na fyddai’r prif gymeriad, Newland Archer, yn dewis peidio â gweld y Fonesig Ellen Olenska … a’i gadawyd yn agored i ddilyniant posibl?

     

    Er bod ambell aelod wedi mwynhau arddull ddisgrifiadol yr ysgrifennu, y plot oedd yn denau yn eu barn nhw. Un aelod o’r deg fyddai’n argymell hwn fel llyfr da i’w ddarllen. 

  • Jamrach’s Menagerie gan Carol Birch 

    Roedd dau begwn barn ymhlith y grŵp ar y llyfr hwn, ond roedd y mwyafrif yn teimlo bod yr ysgrifennu’n rymus ac yn gelfydd, ac roeddent yn awyddus i ddarllen llyfrau eraill gan yr awdur. 

     

    O’r dechrau’n deg, cewch eich trwytho ym mywyd elfennol a hynod ddynol Llundain yn Oes Fictoria gyda’i harogleuon atgofus a’i golygfeydd herfeiddiol. Mae hon yn stori ag iddi nifer o themâu, ond cyfeillgarwch a goroesi sy’n greiddiol iddi – ynghyd ag ambell anifail egsotig. Llwyddodd y rhai nad oedd mor hoff o’r nofel i’w gorffen, ond wrth i’r stori ddatblygu, roeddent yn teimlo bod y cywair yn newid ac aeth y golygfeydd yn rhy graffig at eu dant nhw. 

     

    Mae Grŵp Darllen Llyfrgell Llanilltud Fawr yn argymell Jamrach’s Menagerie. 

  • The Root of the Tudor Rose gan Mari Griffiths 

    Bu Grŵp Darllen Llyfrgell Llanilltud Fawr yn ffodus iawn i gael ymweliad gan yr awdur yn syth ar ôl ein trafodaeth o’r nofel. Wrth iddi egluro pa mor werthfawr y bu adnoddau’r llyfrgell yn hynod werthfawr iddi wrth iddi ymchwilio i hanes Catherine de Valois, roedd Mari’n medru manylu ar dwyll ewythr Harri VI.

     

    Cytunodd y grŵp bod y llyfr yn ddifyr iawn, a bod ffeithiau a rhyddid artistig wedi eu hasio’n berffaith. Mae’n adrodd stori angerdd a thwyll yng nghyfnod Harri VI, a dau unigolyn estron o fewn ei lys – ei fam a’i chariad. 

     

    Mae Grŵp Darllen Llyfrgell Llanilltud Fawr yn argymell y llyfr ardderchog hwn.

  • Saturday gan Ian McEwan

    Yn anffodus, derbyniad gwael gafodd y llyfr hwn gan y grŵp, a methodd sawl aelod ei orffen. Wedi dweud hynny, sbardunodd trafodaeth hynod fywiog! Er ei fod wedi’i lunio’n gelfydd, ac arwyddocâd i bob tudalen, nid yw’r strwythur yn ei wneud yn hawdd i’w ddarllen. Ychydig iawn o ofod gwyn sydd ynddo, ac nid oedd y paragraffau hir a diffyg deialog yn symud pethau yn eu blaen yn ddigon cyflym. Mae’r plot yn digwydd dros ddiwrnod ym mywyd y prif gymeriad, Henry Preowne. Mae un ffrwgwd mae’n ei gael yn arwain at uchafbwynt hynod ddramatig, ond yn ôl rhai, roedd y diweddglo hwn yn afrealistig.

     

    Er bod un neu ddau wedi’i fwynhau, a bod y llyfr yn gwella wrth fynd rhagddo, mae yna bob amser gymaint o bellter rhwng y darllenydd ac adroddwr y stori nes i un adolygiad ddweud ‘mae ei gelfyddyd yn beryglus o agos at fygu bywyd yn gyfan gwbl’ (New York Times), ac fe gytunodd rhai aelodau â hyn.  

  • The Rosie Project gan Graeme Simsion 

    Cytunodd holl aelodau’r grŵp fod hon yn nofel ddifyr, ddoniol; mi chwarddodd ambell un yn uchel. Mae gan Don, y prif gymeriad, syndrom Asperger gweithrediad uchel heb ddiagnosis, ac mae e’n chwilio am wraig. O’i safbwynt e, buan iawn y gwelwch mai drwy ddefnydd rhesymeg mae’n ffafrio gwneud penderfyniadau. O bryd i’w gilydd, fodd bynnag, roedden ni’n teimlo nad oedd y llais yn gyson, a bod rhai gweithredoedd allan o gymeriad.

     

    Er ein bod yn deall y gallai ‘ymddygiad dysgedig’ newid rhai agweddau o’i fywyd, roedd ambell olygfa’n teimlo’n fwy gweledol ei natur (at ddiben ffilm/drama yn hytrach na nofel, efallai?), neu i ddod i ben â llinyn penodol yn y stori. Buom yn holi beth oedd bwria y llyfr, yn enwedig o ystyried bod nifer o lyfrau eraill ar gael sy’n ymwneud â syndrom Asperger, a daethom i’r casgliad mai’r hyn mae’r llyfr hwn yn ei wneud yn dda yw rhoi cipolwg i ni ar y ffyrdd gwahanol mae pob cymeriad yn mynd i’r afael â’i fyd emosiynol astrus. Mae Ton yn gwneud pethau yn ei ffordd ei hun. Defnyddiwyd yr ymadrodd ‘normaleiddio’r cyflwr’ fwy nag unwaith yn ystod y drafodaeth gan wahanol aelodau o’r grŵp, ond dilynwyd hyn bob tro gan gytgan o ‘beth bynnag yw normal!

     

    ’Er mai’r themâu sy’n arwain y stori, mae’n llyfr ysgafn ac ymylu ar genre llên y genod. Roedd y grŵp yn unfrydol wrth argymell The Rosie Project fel llyfr da.

  • The Legacy of Elizabeth Pringle gan Kirsty Wark

    Cafwyd cymeradwyaeth unfrydol  i hon. Cytunodd pawb ei bod yn nofel ysgafn a difyr. Dyma lyfr cyntaf Kirsty Wark, ac oherwydd ei chefndir newyddiadurol, roedd disgwyliadau’n uchel. Nid oedd neb o’r grŵp wedi ymweld ag ynys Aran Mor, ac roedd y disgrifiad ohoni’n ardderchog - hysbyseb dda i’r bwrdd croeso lleol! Roedd hyndrwydd bywyd ar yr ynys yn gwrthgyferbynnu’n effeithiol â realiti caled bywyd llwyd dinas Glasgow.

     

    Roedd y grŵp yn hoffi’r ffaith fod enwau Elizabeth a Martha ar ddechrau’r penodau i helpu gyda’r newid cyfnodau. Mae Wark wedi ysgrifennu Elizabeth yn y person cyntaf a Martha yn y trydydd person, sy’n atgyfnerthu statws Martha fel un sydd ar y cyrion. Ar y llaw arall, mae Elizabeth yn trosglwyddo ei threftadaeth i ni drwy roi manylion mwyaf personol y digwyddiadau mwyaf cofiadwy yn ei bywyd. Roedden ni o’r farn y gellid bod wedi ysgrifennu pennod olaf Martha yn y person cyntaf i ddangos ei bod wedi cael ei derbyn yn ôl i’w gwreiddiau. 

     

    Roedd tinc o siom yn y modd y daeth y llinynnau at ei gilydd mewn diweddglo ychydig yn rhy gyfleus o dynn, ond roedd y cymeriadau’n wahanol ac yn ddifyr ac roedd gan bob un ei stori i gyfleu themâu caru a cholli.

     

    Rhoddodd y grŵp sgôr o 7/10 i’r llyfr hwn.

  •  The Little Paris Bookshop gan Nina George

    Nifer fach o aelodau oedd yn bresennol y mis hwn, ond er gwaethaf hyn, roedd tipyn o wahaniaeth barn am The Little Paris Bookshop. Bu Chris yn ei dagrau, ond roedd Ruth a Lynn yn ddiamynedd â’r prif gymeriad, ac yn teimlo y gallai fod wedi arbed cryn dipyn o drafferth i’w hun tasai e wedi agor y llythyr! Roedd yn hunandosturiol heb fod angen, a gwastraffodd ugain mlynedd o’i fywyd Roedd Ruth a Lynn yn meddwl ei fod yn anodd credu y byddai Luc yn cydsynio i anffyddlondeb ei wraig. 

     

    Hoffodd pawb y dsigrifadau o’r siwrnai drwy Ffrainc a’r dirwedd newidiol. Cafodd Chris rannau o’r stori’n hynod emosiynol, yn enwedig ei siwrnai o anobaith i fywyd a gobaith. Roedd yr argymelliadau ar y diwedd yn hynod ddoniol.