Cost of Living Support Icon

Cylch Darllen y Sili

Adolygiadau Llyfrau gan Grŵp Darllen y Llyfrgell

 

Cyfarfod 25 Awst

Gone Girl gan Gillian Flynn

 

Gan fod ambell un heb orffen darllen y llyfr cyn y cyfarfod, roedd yn anodd trafod y diwedd, a oedd mor syfrdanol nes iddo newid barn un o’r darllenwyr am un o’r cymeriadau yn llwyr. Er bod y dechrau’n araf ac yn llafurus, nad oedd wrth fodd pawb, yn raddol bach, cewch eich tynnu i mewn i stori â sawl tro yn ei chynffon ac elfennau o ansicrwydd. Drwy gydol y stori, mae eich teyrngarwch i’r cymeriadau’n newid, rydych chi’n cwestiynu eich empathi eich hun ac yn teimlo tristwch dros gymeriadau sy’n cael eu cyffwrdd gan chwalfa bywydau’r prif gymeriadau.

 

Mae’n gipolwg cyfareddol i feddwl gwyrdroëdig, ystrywgar, ac os ydych chi’n dymuno cael y profiad gorau o’r darllen, PEIDIWCH â mynd i weld y ffilm gyntaf. Argymhellir y llyfr gan y grŵp. 

 

 

Teitlau blaenorol a ddarllenwyd gan y grŵp:

  • Rubbernecker gan Belinda Bauer
  • The Forgotten Waltz gan Anne Enright
  • The Song Before it is Sung gan Justin Cartwright
  • Mrs Sinclair's Suitcase gan Louise Walters
  • Educating Jack gan Jack Shepherd
  • The Secret Place gan Tana French
  • I Can't Begin to Tell You gan Elizabeth Buchan
  • Minerva gan M C Beaton
  • The Woman who Went to Bed for a Year gan Sue Townsend 

 

Am wybodaeth bellach, neu os hoffech chi ymuno â’r cylch darllen, siaradwch â’r Llyfrgellydd:

  • 029 2053 1267