Cost of Living Support Icon

Gwefannau i Ddarllenwyr

Cyfeiriadur i grwpiau darllen.

 

Ceir cyfoeth o wybodaeth ar y rhyngrwyd, o gyngor ar sut i sefydlu grwpiau darllen, pa lyfr i’w ddarllen nesaf, adolygiadau a blogiau darllen i grwpiau trafod ar-lein, lle gall darllenwyr leisio eu barn ac argymell llyfrau i’w gilydd. 

 

The Reading Aagency logo

Reading Agency

Elusen yw hon, a’i nod yw rhoi cyfle cyfartal mewn bywyd i bawb drwy helpu pobl i ddod yn ddarllenwyr hyderus a brwdfrydig. Gall darllen drawsnewid bywydau.

 

Reading Agency

Reading Groups for  Everyone logoReading Groups.Org

Ar y wefan hon cewch grwpiau ar-lein i oedolion, pobl ifanc a phlant – i ddarllenwyr hyderus a’r rhai sydd angen cynyddu eu hyder. Ceir yma hefyd gynigion am ddim gan gyhoeddwyr o lyfrau, posteri a digwyddiadau awduron y gallwch chi a’ch grŵp fanteisio arnynt. 

 

Reading Groups.Org

BBC logoClybiau Darllen y BBC a Chyngor ar Grwpiau Darllen

Cyngor defnyddiol gan y BBC ar sefydlu a rhedeg grwpiau darllen.

 

Rhedeg Clwb Darllen

Penguin books logoPenguin Readers Group

Penguin oedd y cyhoeddwr cyntaf i greu gwefan benodol oedd yn darparu gwasanaeth i Grwpiau Darllen.

 

Macmillan Reading Group logo

Macmillan Reading Group

Cyngor a gwybodaeth am ddechrau a chynnal diddordeb a difyrrwch mewn grwpiau darllen. Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys ryseitiau!

 

Macmillan Reading Group

Which Book logoWhich Book

Rhestr amlbwrpas, hawdd i’w chwilio yw Which Book, wedi’i threfnu yn ôl cynnwys, er enghraifft, hawdd neu ddyrys, doniol neu ddifrifol, rhagweladwy neu annisgwyl, traddodiadol neu arloesol, hir neu fyr est., a’r dewis gwych o gysylltu â chatalog llyfrgell eich awdurdod lleol i ragnodi llyfrau ar-lein.

 

Which Book

Richard and Judy Book Club logoRichard and Judy Book Club

Sefydlodd Richard a Judy eu Clwb Llyfrau pan roedden nhw’n cyflwyno This Morning ar ITV. Ers hynny, maen nhw wedi cydweithio’n agos â WHSmith i ddewis llyfrau maen nhw’n credu byddwn ni’n mwynhau eu darllen. Gallwch chi ymuno â nhw ar-lein drwy lwytho’ch adolygiadau a’ch sylwadau chi. 

 

Richard and Judy Book Club

Good Reads logoGood Reads

(Gwefan Americanaidd ag isadran ar gyfer y DU.) Gwefan am ddim i ddarllenwyr brwd. Meddyliwch amdani fel llyfrgell fawr gallwch grwydro drwyddi a gweld silffoedd llyfrau pawb. Gallwch lwytho adolygiadau a chatalogio’r hyn rydych chi wedi’i ddarllen, yn ei ddarllen ar hyn o bryd neu’n bwriadu ei ddarllen, ymuno â grŵp trafod, cysylltu ag awdur a hyd yn oed llwytho’ch cynnig chi ar ysgrifennu. 

 

Good Reads

Bookgroup logoBook Group Info

Gwefan annibynnol sy’n rhoi gwybodaeth i ddarllenwyr, grwpiau darllen a chlybiau llyfrau. Ein bwriad yw creu cymuned i bobl sy’n caru llyfrau, lle cewch adolygiadau diduedd, newyddion llenyddol, cyfweliadau ag awduron blaenllaw a chyfle i weld y diweddaraf am wyliau a digwyddiadau byd llyfrau.

 

Book Group Info

Lovereading logo

Love Reading

Roeddech chi wrth eich bodd â’r llyfr diwethaf ddarllenoch chi, ond be nesa? Drwy ddefnyddio ein canllaw arweiniad unigryw, gallwch ddod o hyd i lyfrau newydd i’ch ysbrydoli a’ch diddanu. Ac mae’r cyfan yn rhad ac am ddim!

 

Love Reading

Book Trust logoBooktrust Cymru

Mae Booktrust Cymru’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yn bennaf i gyflawni ei weledigaeth o gymdeithas lle mae pawb yn elwa ar botensial darllen i newid bywydau. Mae yma flogiau, adnoddau i ddarllenwyr o bob oed ac awdur preswyl. Mae’r wefan wedi’i gosod mewn ffordd sy’n ei gwneud yn hawdd dod o hyd i’r llyfrau sy’n iawn i chi yn y gwahanol grwpiau oedran.

 

Booktrust Cymru

Fantastic Fiction logoFantastic Fiction

Llyfryddiaethau ar gyfer dros 30,000 o awduron a gwybodaeth ar dros 350,000 o lyfrau. Drwyddi draw ar y wefan, cliciwch ar lyfr i weld ei glawr, disgrifiad ohono a’r manylion cyhoeddi. Ceir yma hefyd wybodaeth am lyfrau llafar a dolenni i lawrlwytho eLyfrau am ddim.

 

Fantastic Fiction

Six Book Challenge logoSix Book Challenge

Mae Her Chwe Llyfr yn digwydd bob blwyddyn mewn llyfrgelloedd, colegau, gweithleoedd a charchardai. Mae’n targedu darllenwyr newydd yn bennaf, ac mae’n eich gwahodd i ddarllen chwe llyfr a’u hadolygu, yna byddwch yn gymwys i ennill gwobrau ar hap.

 

Six Book Challenge

GWales logoGWales (dwyieithog)

Gwefan ddwyieithog sy’n cynnwys catalog cynhwysfawr o lyfrau yn Gymraeg ac am Gymru yn Gymraeg a Saesneg. Gwelir yma hefyd restrau gwerthwyr gorau i blant ac oedolion yn y ddwy iaith, yn ogystal â Llyfr y Mis.

 

GWales (dwyieithog)

Wonderbookland logoWonderbookland

Os ydych chi’n mwynhau darllen gwaith awduron arfaethedig a llai cyfarwydd, dyma i chi glwb darllen dethol a gwefan gymdeithasol i ddarllenwyr brwd o bob oed. Mae’n cynnig amrywiaeth eang a deallus o lyfrau newydd i bob darllenydd - plant, oedolion ifanc ac oedolion fel ei gilydd - yn ogystal ag adolygiadau, cyfweliadau ac awduron ac erthyglau, cystadlaethau ysgrifennu a newyddion am ddigwyddiadau, newyddion o’r byd cyhoeddi, cyfeiriaduron siopau llyfrau lleol a chlybiau darllen a llawer mwy.

 

Wonderbookland

Hay Festivals logoHay Festival / Gŵyl y Gelli

Sefydlwyd yr Ŵyl yn 1990, ac erbyn hyn mae’r trefnwyr yn cynnal gwyliau mewn deng dinas ym mhob cwr o’r byd yn ogystal â’r dathliad blynyddol yn y dref fach hudol ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog.

 

Hay Festival / Gŵyl y Gelli