Cost of Living Support Icon

Meysydd Pêl-droed A football match

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn darparu nifer o feysydd pêl-droed at ddefnydd y cyhoedd ledled y Fro.

 

Nod adran Cynnal Parciau a Meysydd yw sicrhau bod cynifer a phosib o feysydd pêl-droed ar gael i’w defnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y tymor pêl-droed.

 

 

 

 

Llogi maes

Os ydych chi’n dymuno rhagnodi maes i chwarae pêl-droed, e-bostiwch Gynghrair Uwch Bro Morgannwg:

 

Gemau elusennol 

Os ydych chi’n dymuno rhagnodi maes ar gyfer digwyddiad pêl-droed elusennol, cysylltwch ag adran Cynnal Parciau a Meysydd ar:

  • 01446 700111

Prisiau

Mae prisiau ar gyfer meysydd yn amrywio. Am wybodaeth bellach ar brisiau llogi, ewch i’n tudalen ffioedd a chyfraddau meysydd:

 

Ffioedd a chyfraddau meysydd

 

 

Meysydd yn y Fro

Y maesSeniorMini

Cae'r Bear, Y Bont-faen

1

 

Bryn y Don, Dinas Powys

3

3

Cae Buttrills, Y Barri

8

3

Celtic Way, Y Rhws - arolwg a, 08:00 ar fore dydd Sadwrn

 

2

Ceri Road, Y Rhws

2

 

Maes chwarae Cogan, Penarth

3

1

Canolfan Chwarae Colcot, Y Barri*

1

4

Corntwn - arolwg am 08:00 ar fore dydd Sadwrn         

2

 

Cwrt y Vil, Penarth         

1

 

Parc Jenner, Y Barri          

1

 

King George V, Llandochau

1

1

Parc Maslin, Y Barri

1

 

Murchfield, Dinas Powys - arolwg am 08:00 fore dydd Sadwrn         

1

 

Parc Pencoedtre, Y Barri

2

3

Maes chwaraeon Sain Tathan - arolwg am 08:00 ar fore dydd Sadwrn         

2

 

Maes chwaraeon Llansanffraid - arolwg am 08:00 ar fore dydd Sadwrn         

1

2

Severn Avenue, Y Barri - arolwg am 08:00 ar fore dydd Sadwrn         

2

 

Station Road, Gwenfô

2

2

Windmill Lane, Llanilltud Fawr - arolwg am 08:00 ar fore dydd Sadwrn

5

2

* Mae’r heddlu wedi gwneud cais i bobl sy’n defnyddio Canolfan Chwaraeon Colcot, yn enwedig ar ddiwrnod gemau, i ystyried y trigolion lleol. Peidiwch ag atal mynediad i fannau parcio, byddwch yn ofalus wrth gerdded rhwng cerbydau sy wedi’u parcio ac ewch â’ch sbwriel adre gyda chi. Bydd y camau syml yma’n gwella profiad diwrnod y gêm, ac osgoi cael eich dirwyo.

 

Caeau ysgol

Ar hyn o bryd rydym yn derbyn archebion cae ar gyfer Ysgol Whitmore a Phencoedtre:

 

Cae 3G Whitmore: Addas ar gyfer pêl-droed a rygbi (hyfforddiant yn unig dim cyswllt) - £80 yr awr

Aml-Neuadd Whitmore: Addas ar gyfer chwaraeon dan do - £45 yr awr 

I’w harchebu e-bostiwch: Whitmorebookingrequests@valeofglamorgan.gov.uk

 

Cae 4G Pencoedtre: Addas ar gyfer hoci, pêl-droed a rygbi (hyfforddiant yn unig dim cyswllt) - £80 yr awr

Noder: Nid oes mynediad i doiledau/cyfleusterau newid ar hyn o bryd.

I’w archebu e-bostiwch: Pencoedtrebookingrequests@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Polisi canslo

Y tywydd a chyflwr y maes

Nod adran Cynnal Parciau a Meysydd yw sicrhau bod cynifer a phosib o feysydd pêl-droed ar gael i’w defnyddio ar unrhyw adeg yn ystod y tymor pêl-droed. Ar adegau, bydd tywydd gwael a chyflwr y maes yn golygu na fydd hyn yn bosibl. Os oes problem debygol oherwydd y tywydd, bydd y meysydd yn cael eu harolygu gan staff adran Cynnal Parciau a Meysydd, a bydd y penderfyniad ar yr addasrwydd at chwarae neu fel arall yn cael eu seilio ar y canllawiau isod.

 

Parc Jenner

Penderfyniad y dyfarnwr yw hwn.

 

Cynghreiriau

Mae hawl gan y cynghreiriau isod asesu’r maes a gwneud penderfyniad ar ran y dyfarnwr.

Cynghrair Pêl-droed Cymru (McWhirter), Cymdeithas Pêl-droed de Cymru, Cynghrair Pêl-droed Amatur de Cymru (Grŵp Monnington) a Chynghrair Pêl-droed Ieuenctid de Cymru.

 

Cynhelir arolygon maes ar fore dydd Gwener, a thrafodir y mater gan swyddogion parthed defnydd meysydd chwarae Buttrills. Unwaith mae cytundeb ar ba feysydd sydd ar gael, dyroddir nhw ar sail blaenoriaeth gan swyddogion Cynghrair Uwch Bro Morgannwg.

 

Os yw’r amodau’n anaddas, ni chynhelir gemau i blant iau a phlant bach.

 

Safleoedd

Caiff y safleoedd eu harolygu gan adran Cynnal Parciau a Meysydd ac eithrio’r meysydd isod:

  • Celtic Way, y Rhws
  • Maes chwarae Sain Tathan
  • Maes chwarae Llansanffraid
  • Maes chwarae Severn Avenue
  • Maes chwarae Windmill Lane Meysydd chwarae Corntwn
  • Murchfield

 

Cynrychiolwyr lleol y clybiau sy’n asesu addasrwydd y meysydd at chwarae yn y lleoliadau yma.