Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Nod Polisi Gosod Tai’n Lleol yw sicrhau bod datblygiadau tai yng Nghymunedau Gwledig Bro Morgannwg yn gynaliadwy ac yn integreiddio i'r gymuned leol.
Dol Hafod, Llysworney
Cwrt Canna, Llangan
Cae Newydd, St Nicholas
Greenwood Close, Twyn yr Odyn
Clos Stabl, Wick
Mae’r polisïau yn cael eu datblygu a’u cytuno mewn partneriaeth â Chyngor Bro Morgannwg, y Gymdeithas Dai a’r Cyngor Cymuned sy'n cynrychioli preswylwyr y gymuned lle mae’r eiddo’n cael eu datblygu.
Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer ar gyfer eiddo, bydd Galluogydd Tai Gwledig o Gyngor Bro Morgannwg yn cysylltu â chi i wirio cywirdeb y wybodaeth. Ar ôl dilysu hyn, bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i'r Gymdeithas Dai berthnasol fydd yn gofyn am dystiolaeth ddogfennol gyfreithiol o'r cysylltiad a nodwyd. Bydd y Galluogydd Tai Gwledig yn rhoi gwybod i chi pa dystiolaeth bydd angen i chi ei chasglu ar gyfer y Swyddog Tai.
Mae'r Polisi Gosod Tai’n Lleol yn parhau yn ei le am oes yr eiddo. Bob tro y bydd yn cael ei ail-osod yn y dyfodol, bydd yn cael ei ddyrannu yn unol â'r Polisi Gosod Tai’n Lleol.
Mae Polisïau Gosod Tai’n Lleol ein holl safleoedd i'w gweld uchod. Dilynwch y ddolen ar gyfer y polisi gosod tai’n lleol penodol ar gyfer y safle hwn.