Cost of Living Support Icon

Dewisiadau Dyled

Nid yw'r dewisiadau a restrir yn gynhwysfawr. Weithiau gellir nodi gwahanol dewisiadau yn seiliedig ar amgylchiadau personol y cleient neu fanylion eu dyledion. Os oes unrhyw amheuaeth cyfeiriwch bob amser at ymgynghorydd dyledion.

 

Offeryn Atebion Dyled

Mae gan y wefan Canllawiau Cyngor Offeryn Atebion Dyled a all helpu cleient i adnabod eu dewisiadau dyled. Fodd bynnag, byddwch yn sicr cyn defnyddio hwn eich bod yn atebol i ad-dalu'r dyledion. Os oes unrhyw amheuaeth - ceisiwch gyngor yn gyntaf!

 

 

 Offeryn Atebion Dyled y Canllawiau Cyngor

Dewisiadau Anffurfiol

Mae amryw o ddewisiadau gwybodaeth ar gael y cytunir arnynt yn uniongyrchol gyda'r credydwr. Gelwir y rhain yn ddewisiadau anffurfiol gan nad ydynt yn cynnwys unrhyw achos llys. Mae'n rhaid i bob credydwr nad yw’n flaenoriaeth gael ei drin yn deg ac fel arfer ar sail pro rata. Golyga pro rata bod unrhyw incwm sydd ar gael yn cael ei rannu’n deg rhwng credydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth, felly mae pob credydwr yn cael canran o'r incwm ar gael, yn seiliedig ar y swm sy'n ddyledus. I gael cyngor cyffredinol am ddewisiadau dyled, gweler ein gwefan Canllawiau Cyngor:

 

Dewisiadau ar gyfer Delio â Dyled

 

Cynllun Talu

Os oes incwm ar gael, un opsiwn yw gwneud llai taliadau misol gyda chredydwyr i glirio'r dyledion yn llawn. Mae hyn yn addas pan fydd gan rhywun ddigon o incwm ar gael i dalu eu dyledion o fewn cyfnod rhesymol.  Y peth da yw ei fod yn seiliedig ar yr hyn y gall y cleient ei fforddio ac fel arfer rhewir llog a thaliadau.  Y peth drwg yw y gall gymryd peth amser i ad-dalu dyledion ac efallai y bydd angen ail-drafod cynigion mewn amser.  Os yw’r codi tâl yn parhau ar ôl taliad llai, gofynnwch am gyngor ar ddyledion.  

 

Gwneud ad-daliadau i gredydwyr nad ydynt yn Flaenoriaeth   Cynhyrchydd Llythyr Dyled i Gredydwyr

   
Gwefan My Money Steps website   Gwefan National Debtline   Pecyn Adnoddau National Debtline

Cynllun Rheoli Dyledion (CRhD)

Mae hyn yn yr un fath â'r uchod gan ei fod yn gytundeb anffurfiol i wneud taliadau llai i gredydwyr. Y gwahaniaeth yw bod cwmni Rheoli Dyled yn dosbarthu taliadau mewn Cynllun Rheoli Dyledion (CRhD) ac rydych yn gwneud un taliad misol i'r CRhD. 

 

Y peth da yw fel uchod, yn ogystal â gwneud un taliad yn lle rheoli taliadau lluosog i gredydwyr lluosog. 

 

Y peth drwg, yn ychwanegol at yr uchod, yw bod hyn yn aml yn costio a gall y ffioedd fod yn uchel. Nid oes unrhyw reswm i ddefnyddio CRhD sy’n codi tâl pan fo rhai ar gael am ddim!

 

 

Canllawiau Cyngor: Cynlluniau Rheoli Dyledion   Esboniad ar Gynlluniau Rheoli Dyledion  

 

Taflen Ffeithiau Cynllun Rheoli Dyledion   Darparwr Cynllun Rheoli Dyledion am Ddim Paylan*

 

*Rydym yn dal i’ch cynghori i ddarllen y wybodaeth uchod cyn dilyn yr opsiwn hwn neu gyfeirio eich cleient at ymgynghorydd dyled i wirio’r hyn allai fod y dewis iawn ar eu cyfer. Gweler gwefan Payplan yn y ddolen isod:


Step Change (y Gwasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr yn flaenorol)

Gall Step Change helpu i sefydlu CRhD ond byddai'n rhaid eich cleientiaid wneud y taliadau gwirioneddol i'r credydwyr eu hunain

 

 

Gwefan Step Change

Rhan Daliadau

Mae'r opsiwn hwn yn golygu taliad bychan o £1 y mis i’r holl gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth. Yn gyffredinol mae hyn yn addas ar gyfer anawsterau ariannol dros dro. Po fwyaf o gredydwyr sydd gan eich cleient, y mwyaf y gall y rhan daliadau hyn adio’i fyny.  Y peth da yw y gall y rhan daliadau hyn gael eu derbyn yn gyffredinol ar gyfer anawsterau tymor byr (fel arfer 3-6 mis) ac fel arfer mae’r llog a’r taliadau yn cael eu rhewi.  Y peth drwg yw NAD yw hyn yn opsiwn tymor hir neu byddai'n golygu oes o ddyled a gallai gostio mwy i wneud y taliad

 

Dim arian i gynnig cyngor i gredydwyr nad y dynt yn flaenoriaeth   Taflenni Ffeithiau National Debtline

Dileu

Mewn rhai achosion bydd credydwr yn cytuno i ddileu’r ddyled. Golyga hyn eu bod yn cytuno i beidio mynd ar ôl y ddyled, yn enwedig os nad oes incwm neu asedau ar gael; bydd y sefyllfa yn aros yr un fath ar gyfer y tymor canolig i'r dyfodol tymor hir, ac mae tystiolaeth o sefyllfa'r cleientiaid. Y dystiolaeth fydd datganiad ariannol a llythyr meddyg teulu/ meddygol.  Mae hwn yn opsiwn ar gyfer y rhai o dan amgylchiadau anodd a/neu sy’n delio â salwch difrifol neu drychineb teulu. Y peth da yw os caiff ei dderbyn, nid oes rhaid i'r cleient ad-dalu'r ddyled. Y gorau’n y byd yw'r dystiolaeth: y gorau yw'r gobaith o lwyddo. Y peth drwg yw y gall gymryd peth amser i gytuno, mae’r ddyled yn dal i gael ei nodi fel un heb ei thalu ar yr adroddiad credyd, a gall credydwyr geisio eto i gasglu'r ddyled yn y dyfodol drwy gyfeirio’r cyfrif ymlaen i gasglwr dyledion gwahanol.  Gall adfer dyledion barhau tra bod y cais yn cael ei ymchwilio ac nid oes sicrwydd o ganlyniad llwyddiannus.  Gall cael llythyr gan eu meddyg teulu olygu cost i’r cleient, ac efallai na fydd y meddyg yn barod i wneud datganiad canolig i hirdymor am y posibilrwydd na fydd y cleient yn gwella.

 

 

Canllawiau Cyngor: Gofyn am ddileu dyled   Canllawiau Cyngor: Cais i ddileu dyled 

 

National Debtline: Dewisiadau i Ddelio â Dileu eich Dyled

Dileu Rhannol

Mae hyn fel arfer ar gyfer sefyllfaoedd lle y gall rhywun wneud taliadau llai am swm penodol o amser gyda gweddill y balans yna’n cael ei ddileu. Gallai hyn fod yn bosibl mewn sefyllfaoedd lle y gall rhywun wneud ad-daliadau fforddiadwy yn awr ond efallai na fyddant yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol, er enghraifft, pan fyddant yn agos at ymddeol. Mae'r goblygiadau yn debyg i’r rhaiar gyfer taliadau llai a cheisiadau i ddileu. Yn ogystal, mae gan y dyledwr darged i anelu ato, bydd yn gwybod pryd y byddant yn ‘rhydd o ddyledion’. Byddant hefyd yn lleihau eu dyled ar gyfradd y gallant ei fforddio a byddant yn ad-dalu llai ar y cyfan. Fodd bynnag, gall fod yn anodd cael credydwyr i gytuno a gall y ddyled ddal i ymddangos ar eu hadroddiad credyd.

 

Ffoniwch Adviceline Cymru 03444 77 20 20

 

National Debtline: Taflenni Ffeithiau Dileu Rhannol  Dod o hyd i'ch CAB agosaf

Talu Cyfandaliad mewn Setliad Llawn a Therfynol

Mae'r opsiwn hwn yn golygu talu cyfandaliad oddi ar y ddyled a'r credydwr yn dileu’r gweddill. Mae'r cyfandaliad fel arfer yn ddigon i ad-dalu cyfanswm y ddyled, ond bydd credydwyr yn aml yn derbyn llawer llai i gau'r cyfrif.  Os oes credydwyr lluosog, rhaid i unrhyw gyfandaliad gael ei dosbarthu ar sail pro rata.   Gall hyn fod yn addas pan dderbynnir cyfandaliad, er enghraifft ôl-ddyddio budd-dâl anaf personol, a'r cleient hed ddim, neu fawr ddim, incwm parhaus ar gael. Felly ni fyddent yn talu'r balans cyfan yn ôl. Y fantais yw, os derbynnir, nid oes dim byd pellach yn ddyledus.  Mae'n fwy uniongyrchol a chyfleus na thalu swm is yn ôl dros gyfnod hirach.  Y peth drwg yw y bydd y cleient yn colli budd y cyfandaliad; bydd eu statws credyd yn dal i gael ei effeithio am 6 blynedd gan y bydd y balans yn dal i ddangos fel un dyledus, ac mae credydwyr yn aml, er gwaethaf cytuno mewn ysgrifen i beidio â dilyn y ddyled, yn gallu gyfeirio'r cyfrif at wahanol gasglwyr dyledion ar ôl ychydig o flynyddoedd.   Mae'n bwysig bod eich cleient yn cadw unrhyw lythyrau yn derbyn y taliad llai yn ddiogel, a pheidio â gwneud taliad oni bai eu bod yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig.  Mae materion cyfreithiol ynghlwm sy'n cynnwys cyfraith contract. Fodd bynnag, os yw'r credydwr wedi cytuno, ni ddylai hyn fod yn broblem.  

Yn ymarferol, os yw hyn yn opsiwn, cyfeiriwch eich cleient bob amser at ymgynghorydd dyledion yn gyntaf cyn cymryd unrhyw gamau.

 

National Debtline: Cynigion setliad llawn a therfynol

Moratoriwm/dal

Mae hyn yn cynnwys y credydwyr yn cytuno bod unrhyw daliad yn cael ei wneud ac nad oes unrhyw log a thaliadau yn cronni am gyfnod penodol o amser. Y peth da yw na ofynnir am unrhyw daliad ac nad yw'r ddyled yn cynyddu am gyfnod penodol o amser. Gall hyn roi amser i’r ymgynghorydd a’r cleient i gasglu ffeithiau ac yn arbennig i sicrhau bod y datganiad ariannol mor realistig ag y bo modd. Gall hyn gael gwared â’r pwysau yn y tyor byr. Y peth drwg yw bod yn ymarferol, nid yw dal fel arfer ond yn para am fis er mwyn caniatáu amser i ddrafftio datganiad ariannol. Gall hyn fod yn hwy gyda thystiolaeth feddygol, ond dim ond am dymor byr iawn y mae credydwyr yn debygol o ddal cyfrif heb i log a thaliadau pellach gael eu cymhwyso.  Ni fydd pob credydwyr yn cytuno i ddal y ddyled, felly gallai’r ddyled barhau i dyfu ac nid yw'r dewis hwn yn datrys y broblem ddyled wirioneddol.

 

Canllawiau Cyngor: Dim arian i'w gynnig i Gredydwyr nad ydynt yn flaenoriaeth  

 

National Debtline: Gwybodaeth a Llythyr Enghreifftiol

Tâl Gwirfoddol

Y dewis hwn yw lle mae'r cleient yn cytuno’n wirfoddol i warantu'r ddyled ar ased, fel arfer ar eu heiddo, os ydynt yn berchen arno. Gall hyn fod yn opsiwn os oes gan y cleient ddyledion mawr a heb unrhyw ffordd arall o’u talu neu fod y cleient eisiau osgoi camau gweithredu eraill gan gredydwr. Y peth da yw ei fod yn gallu dod ag achos ansolfedd ffurfiol i ben, neu draddodi i garchar, neu adfeddiannu.  Gall y cleient ddal i wneud ad-daliadau bach yn seiliedig ar yr hyn y gallant ei fforddio i leihau'r ddyled. Y peth drwg yw mai anaml iawn y mae’n fuddiol i’r cleient i wneud dyled nad yw’n flaenoriaeth yn un flaenoriaeth trwy ei gwarantu. Defnyddir llog statudol ar 8% y flwyddyn, felly gallai'r ddyled dyfu, neu byddai'n rhaid i'r cleient dalu mwy na'r swm ychwanegol i sicrhau fod y ddyled yn lleihau. 

Os ydych yn meddwl am warantu'r ddyled ar eich cartref rydym yn eich cynghori i geisio cyngor ar ddyledion ynglŷn â hyn.  

 

Dod o hyd i'ch CAB agosaf   Gwefan Llinell Ddyled Genedlaethol

Benthyca Arian i Dalu Dyledion

Mae'r opsiwn hwn yn golygu benthyg mwy o arian i dalu dyledion sy'n bodoli eisoes. Weithiau gelwir hyn yn fenthyciad cyfunol.  Y peth da yw bod yr holl adennill dyledion blaenorol yn dod i ben, gan y bydd y dyledion hyn yn cael eu had-dalu o gyfandaliad. Y peth drwg yw nad yw fel arfer yn syniad da i fenthyca arian i dalu dyledion gan fod hyn yn gwneud y sefyllfa ddyled yn waeth. Yn aml, yr ad-daliad ar y benthyciad newydd yw’r hyn a oedd yn cael ei dalu ar yr hen ddyledion (neu fwy). Bydd cyfanswm y ddyled yn cynyddu, a gall y gyfradd llog fod yn uwch oherwydd yr hen ddyledion a'r effaith ar statws credyd. I bob pwrpas, mae’r cleient yn talu llog ar ben llog. Gwiriwch nad yw unrhyw fenthyciad newydd wedi'i warantu ar unrhyw eiddo, gan y byddai hyn yn troi’r dyledion yn ddyledion blaenoriaeth, a byddai’n debygol o fod yn fwy costus yn y tymor hir os y caiff ei adeiladu i dymor y morgais sy'n weddill. 

Os nodir hyn fel opsiwn, dylai’r cleient ofyn am gyngor ariannol pellach ynglŷn â hyn ac, ar y lleiaf, weithio allan faint sydd angen iddynt ei fenthyca a p’un a all fforddio gwneud yr ad-daliadau gofynnol. Gweler y ddolen isod i gyfrifiannell benthyciadau’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

 

Cyfrifiannell benthyciadau'r Gwanasnaeth Cynghori Ariannol 

 

 

Am ganllawiau ariannol cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori Ariannol a byddant yn rhoi eich cleient mewn cysylltiad ag Ymgynghorydd Ariannol yn eu hardal:

  • 0300 500 5000

Opsiynau ffurfiol

Mae'r rhain yn opsiynau sy'n cynnwys camau Llys Sirol ffurfiol neu ryw fath o ansolfedd.

Gorchymyn Gweinyddu (GG) 
Gorchymyn gweinyddu yw gorchymyn y llys sy'n cyfuno dyledion. Golyga hyn fod y cleient yn gwneud un taliad i'r llys bob mis ac wedyn mae'r llys yn ei ddosbarthu'r i'r credydwyr ar sail pro rata. Gall y llys hefyd wneud gorchymyn cyfansoddiad. Golyga hyn mai dim ond cyfran o'r ddyled sy’n cael ei had-dalu. 

 

I gael GG, rhaid i chi gael:

  •  Dyledion nad ydynt yn fwy na £5000 fel cyfanswm
  • Dyfarniad Llys Sirol heb ei dalu (CCJ). Mae hyn yn cynnwys cosb traffig sydd wedi ei chofrestru ar gyfer ei gorfodi yn y Ganolfan Gorfodi Traffig yn Llys Sirol Northampton.
  • Dwy ddyled neu fwy.

Nid oes ffi ymlaen llaw. Mae'r llys yn cadw 10% o'ch taliad misol i dalu eu costau.  Bydd y Gorchymyn Gweinyddu yn parhau hyd nes bod y dyledion wedi’u clirio a ffioedd y llys wedi’u talu, oni bai fod gorchymyn cyfansoddiad yn cael ei wneud pan fydd cyfyngiad amser ar ba mor hir yr ydych yn talu, sy’n dair blynedd fel arfer. Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw, ni fydd y dyledion sydd yn y gorchymyn gweinyddu gennych bellach. Effeithir ar eich statws credyd.

 

Canllawiau Cyngor: Gorchmynion Gweinyddu   Llinell Ddyfed Genedlaethol: Taflen Ffeithiau Gorchymyn Gweinyddu

 

 

Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD)

Mae gorchymyn rhyddhau o ddyled yn orchymyn y gallwch wneud cais amdano os na allwch fforddio talu eich dyledion. Caiff ei roi gan y Gwasanaeth Ansolfedd ac mae’n ddewis rhatach na mynd yn fethdalwr. Fel arfer, mae gorchymyn rhyddhad o ddyled yn parhau am flwyddyn ac yn ystod y cyfnod hwnnw, ni all yr un o'r bobl sydd ag arian yn ddyledus iddynt gymryd camau i gael eu harian yn ôl. Ar ddiwedd y flwyddyn, mae’r dyledwr yn cael ei ryddhau o'r holl ddyledion a restrir (ac sydd wedi’u cynnwys) yn y gorchymyn.

 

I gael GRhD, rhaid i chi gael:

  •  Dyledion o £15,000 neu lai ar y dyddiad pan fydd y cais yn cael ei benderfynu gan y Derbynnydd Swyddogol (nid yw dyledion a eithrir yn cael eu cyfrif yn y cyfanswm hwn)
  • Bod ag incwm ar gael, ar ôl talu costau arferol y cartref, o £50 y mis calendr neu lai
  • Bod ag asedau sydd â gwerth gros o £300 neu lai. Anwybyddir cerbydau sy'n werth llai na £1,000 pan gaiff asedau eu prisio. Fodd bynnag, gall gwerth cerbyd sy'n fwy na £1,000, ond sydd wedi cael ei addasu ar gyfer y cleient i’w ddefnyddio oherwydd anabledd, gael ei anwybyddu.

 

I wneud cais am GRhD, bydd angen i chi gysylltu ag ymgynghorydd awdurdodedig sy'n gwirio a ydych yn bodloni'r amodau, ac a fydd wedyn yn gwneud cais am y gorchymyn ar eich rhan. Bydd y gorchymyn yn costio £90 ond gallwch ei dalu mewn rhandaliadau dros chwe mis.

 

Os yw eich amgylchiadau'n newid ac nad ydych bellach yn gymwys i gael GRhD o fewn y cyfnod o flwyddyn, yna gallai eich GRhD gael ei ddiddymu, ac fe allech golli eich ffi o £90.  Effeithir ar eich statws credyd.

 

 

Canllawiau Cyngor: Gorchmynion Rhyddau o Ddyled  

 

Llinell Ddyled Genedlaethol: Taflenni Ffeithiau Gorchymyn Rhyddau o Ddyled 


BIS: Cyhoeddiadau Ansolfedd

Methdaliad

Methdaliad yw ffordd o ddelio â dyledion pan fo’r llys yn gwneud gorchymyn methdaliad yn erbyn dyledwr nad yw'n gallu talu ei ddyledion. Penodir ymddiriedolwr i gymryd drosodd y gwaith o reoli materion ariannol y dyledwr am gyfnod cyfyngedig ac i ddefnyddio incwm ac asedau sydd ar gael gan y dyledwr, os o gwbl, i dalu'r credydwyr. Yr ymddiriedolwr yw naill ai'r Derbynnydd Swyddogol neu'r ymarferydd ansolfedd. Unwaith y bo’r dyledwr wedi cael ei wneud yn fethdalwr, mae ganddo ddyletswydd i gydweithredu â'r ymddiriedolwr a gwneud datgeliad llawn o’i holl faterion ariannol.  

Pan fydd y dyledwr wedi ei ryddhau o fethdaliad, fel arfer mae’r arian sy'n ddyledus yn cael ei ddileu. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall hyn fod ar ôl dim ond blwyddyn. Rhaid i gredydwyr roi'r gorau i’r rhan fwyaf o fathau o achosion llys i gael eu harian yn ôl yn dilyn gorchymyn methdaliad.

Fodd bynnag, mae anfanteision o fynd yn fethdalwr, gan gynnwys y gost o hyd at £700, colli eich cartref os ydych yn berchen arno, a cholli eiddo gwerthfawr arall hefyd. Effeithir ar eich statws credyd.

Mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor llawn ar ddyledion ar bob un o'ch opsiynau, gan gynnwys goblygiadau llawn methdaliad a sut y bydd hyn yn effeithio arnoch chi, cyn penderfynu ar y camau hyn.

 

Canllawiau Cyngor: Methdaliad   Llindell Ddyled Genedlaethol: Taflenni Ffeithiau Methdaliad 

 

BIS: Canllawiau Methdaliad

Trefniant Gwirfoddol Unigol (TGU)

Trefniant Gwirfoddol Unigol (TGU) yw cytundeb ffurfiol a chyfreithiol rwymol rhyngoch chi a'ch credydwyr i dalu eich dyledion yn ôl dros gyfnod o amser. Rhaid i TGU gael ei sefydlu gan Ymarferydd Ansolfedd. Gall TGU fod yn hyblyg i weddu i'ch anghenion, ond gall fod yn ddrud ac mae risgiau i'w hystyried. Gellir talu’r rhan fwyaf o ddyledion trwy TGU ond ceir rhai eithriadau.

Efallai y gallwch wneud TGU os:

  • oes gennych o leiaf £100 o incwm dros ben bob mis
  • oes gennych o leiaf ddwy ddyled ar wahân
  • oes gennych ddyledion gwerth cyfanswm o fwy na £10,000
  • oes gennych o leiaf ddau gredydwr gwahanol.

Fel arfer cyfyngir ar amser TGU i 5 neu 6 blynedd ac, ar ôl yr amser hwn, bydd credydwyr yn derbyn mai dim ond rhan o'r dyledion gaiff eu had-dalu. Bydd y gweddill yn cael eu dileu. 

 

Gall fod yn opsiwn drud oherwydd ffioedd yr Ymarferydd Ansolfedd a ffioedd gweinyddol, a allai fod yn fwy na £5,000. Gallai fod rhai goblygiadau os ydych yn berchen ar nwyddau o werth, ac effeithir ar eich statws credyd.

 

Canllawiau Cyngor: Tregniadau Gwirfoddol Unigol Dyledion  

 

Llinell Ddyled Genedlaethol:Taflenni Ffeithiau Trefniadau Gwirfoddol Unigol  

 

BIS: Trefniadau Ansolfedd Llwybr Carlam