Cost of Living Support Icon

Dyled – Pwyntiau i’w Nodi a Phroblemau Dyled Cyffredin

Gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer problemau dyled cyffredin

 

Mae’r Swyddfa Masnachu Teg wedi cynhyrchu Debt Collection Guidance.  Mae'r rhain yn ganllawiau y dylai’r credydwyr eu dilyn ac yn gynwysedig y mae arferion casglu y tybiant eu bod annheg (OFT664Rev2)

 

Gellir cael adroddiad credyd o’r tair Asiantaeth Gwirio Credyd yn y DU; Experian, Equifax a Call Credit.  Mae yna ffi statudol o £2 ar gyfer adroddiad credyd.

 

Beilïod

Newidiodd y rheolau ar feilïod ym  mis Ebrill 2014 i gynnwys sut cânt fynediad i’ch cartref, y nwyddau y gallant eu cymryd a’r ffioedd y gallant eu codi.

 

Canllaw Cynghori - Beilïod | National Debt Line

Benthycwyr Arian Didrwydded

Bydd Benthycwyr Arian Didrwydded yn aml yn gweithio o gartref, yn codi cyfraddau llog hynod uchel a heb ddarparu fawr ddim gwaith papur i gadarnhau y trefniadau a wnaed gyda chi.  Yn aml byddant yn cymryd camau anghyfreithlon i gael arian dyledus yn ôl a gallant ymddwyn yn fygythiol.

 

Nid yw'r benthycwyr hyn (siarcod) wedi eu hawdurdodi gan yr SMT i fenthyg arian ac felly maent yn fenthycwyr arian anghyfreithlon.

 

Os oes posib bod benthyciwr anghyfreithlon dan sylw yna ffoniwch Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ar eu llinell gymorth 24 awr:

 

  • 0300 1233311

 

Canllaw Cynghori - Fenthycwyr Arian Anghyfreithion

Taliadau a Dirwyon Parcio

Os derbynnir dirwy barcio ar ffordd gyhoeddus a honno heb ei thalu pan gyflwynwyd hi gan yr heddlu bydd hyn yn arwain at gael yr arian drwy’r llys ynadon ac felly rhoddir blaenoriaeth i’r ddyled.

 

Os mai'r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am gyflwyno'r ddirwy barcio ar ffordd gyhoeddus ac ni chaiff ei thalu, yna gall yr awdurdod lleol gofrestru’r ddirwy gyda’r Ganolfan Orfodi Traffig yn Nottingham a chasglu’r swm dyledus fel pe tai yn Ddyfarniad gan y Llys Sirol.  Mae hon felly yn ddirwy nad yw’n flaenoriaeth.

 

Os derbynnir dirwy barcio ar eiddo preifat, un ai drwy barcio heb ganiatâd  neu am aros yn rhy hir, gellir adennill hwn drwy’r Llys Sirol.  Ni chaiff cwmnïau parcio glampio ceir mwyach yn y sefyllfa hon.

 

Am ragor o wybodaeth ewch i gyngor defnyddiol y Canllaw Cynghori Taflen Gwybodaeth Parcio ar ddirwyon parcio sy'n gwahaniaethu rhwng y rhai hynny sy'n cael eu rhoi gan yr heddlu, yr awdurdod lleol a'r rhai hynny ar eiddo preifat.

If a parking fine on a public road is incurred and not paid where the police are responsible this will be recovered in the magistrates court and is therefore a priority debt.

Gwystlyddion

Mae gwystlydd yn benthyg arian yn unol â gwerth y nwyddau a adewir gyda nhw (arwystlo). Pan fyddwch yn gadael eich nwyddau cewch dderbynneb (tocyn ) ganddynt

 

Rhaid i’r gwystlydd gadw’r nwyddau am o leiaf chwe mis ond gallwch eu cael yn ôl ar unrhyw adeg drwy dalu’r benthyciad ynghyd â llog. Gellir ymestyn y trefniant hwn drwy dalu’r llog yn unig ac arwystlo’r nwyddau drachefn.  Os na chaiff y benthyciad ei ad-dalu gall y gwystlyddion werthu’r nwyddau i dalu’r ddyled.

 

Canllaw Cyngor: Wystlyddion  

Benthyciadau Diwrnod Cyflog

Mae benthyciad diwrnod cyflog yn fenthyciad a fwriedir fel un tymor byr i’w dalu y tro nesaf y derbyniwch gyflog neu fudd-dal

 

Canllaw Cyngor - Fenthyciadau Diwrnod Cyflog