Cost of Living Support Icon

Cyllidebu a Datganiad Ariannol

Gwybodaeth ddefnyddiol, dogfennau a dolenni i helpu

 

Beth yw Cyllideb?

Mae cyllideb yn gynllun ariannol sy'n dangos o ble y daw eich arian, faint sydd yno ac i ble y mae i gyd yn mynd.

 

Mae'n gynllun i'w ddefnyddio fel sail ar gyfer cynilo, gwario a benthyca. Mae'n caniatáu i chi weld eich incwm yn erbyn eich treuliau fel bod modd i chi wneud penderfyniadau ariannol ystyrlon.

 

Mae creu cyllideb yn ateb 2 gwestiwn allweddol:

1. A oes gen i fwy o arian yn mynd allan nag sy'n dod i mewn?
2. Beth y gallaf fforddio ei wario?

 

Manteision Cyllidebu

Mae cyllideb yn caniatáu i chi gadw eich arian dan reolaeth. Gallwch o bosibl osgoi gwneud penderfyniadau ariannol gwael, ac yn ei dro, ddechrau cynilo mwy o arian.

 

Os byddwch yn cadw at gyllideb gallwch wneud diwygiadau mewn ymateb i newidiadau ac addasu'n haws. Efallai y byddwch yn teimlo dan lai o straen o ran rheoli eich arian. Gallwch hefyd basio beth bynnag a ddysgwch i'ch plant.

 

Nod cyllideb yw creu braslun i’ch arian sy’n rhoi’r rheolaeth drosto i chi, fel nad yw’r arian yn eich rheoli chi.

 

Beth yw datganiad ariannol?

Mae Datganiad ariannol yn ddogfen a ddefnyddir i roddi cyngor ar ddyled ac mae mwy iddi na chyllideb syml. Mae'n dal i ddangos incwm a gwariant ond mae’n fwy o arf cyfrifo sy’n rhoi i chi amcan o ffigyrau a gwariannau gwirioneddol.

 

Sut i wneud Cyllideb

Rydym wedi torri hyn i lawr i 6 cham hawdd:

  1. Nodwch yr holl incwm
  2. Nodwch bob gwariant
  3. Penderfynwch a ydyw’n wythnosol neu’n fisol ac addasu’r ffigyrau
  4. Ychwanegwch yr holl ffigyrau at y gyllideb neu'r datganiad a gwneud cyfanswm i’r incwm a’r gwariant
  5. Edrychwch yn ofalus ar y canlyniad gyda'ch defnyddiwr gwasanaeth/cleient
  6. Cynyddwch yr incwm a lleihau’r gwariant

Cam 1 – Nodi’r Incwm (mae’n bwysig cynnwys yr holl incwm yn eich cyllideb)

Mae hyn yn cynnwys incwm o’r holl fudd-daliadau, cynhaliaeth plant, cyflogau, credydau treth, pensiynau, incwm gan rai sydd ddim yn ddibynyddion a lletywyr, incwm o gyfalaf a chynilion. Nid yw hon yn rhestr gyflawn na therfynol.  

Gwiriwch eich datganiadau banc neu lyfrau allwedd i gyfrif gyda golwg ar ganfod y symiau a pha mor aml ydynt.

Cam 2 – Nodi pob Gwariant

Mae'n bwysig bod pob gwariant yn cael ei nodi a'i gynnwys yn y gyllideb neu ni fydd y gyllideb yn gwneud synnwyr ac efallai y bydd opsiynau dyled y cytunwyd arnynt yn anghywir. 

Gall datganiadau banc, derbynebau a dyddiadur gwario helpu i adnabod hyn. Mae rhai apps gwariant, megis y  as Spendometer a allai helpu. Efallai y bydd angen bod yn greadigol os yw cleient yn arbennig o anghenus, er enghraifft, a yw’n gallu ticio blwch siart gwariant sỳm?

 

Gweler Atodiad A am gofnod sampl o wariant.

Cam 3 – Addasu’r Ffigyrau 

Er mwyn sicrhau bod y gyllideb mor gywir ag y bo modd rhaid i’r holl ffigyrau a ddefnyddir fod naill ai'n wythnosol neu’n rhai mis calendr. Nid oes ots os yw'r ffigyrau wedi'u talgrynnu i fyny neu i lawr, cyn belled ag y byddwch yn gwneud yr un peth gyda’r holl incwm a’r gwariant ar draws y cyfan o’r gyllideb neu'r datganiad.

 

Os ydych yn gwneud cyllideb wythnosol, trowch:

  • y misol yn wythnosol = x12 yna ÷ gyda 52
  • y chwarterol yn wythnosol = x4 ÷ 52
  • y blynyddol yn wythnosol = ÷ 52
  • bob pythefnos yn wythnosol = ÷ 2
  • dyddiol yn wythnosol = x7
  • bob 4 wythnos yn wythnosol = ÷ 4
Os ydych yn gwneud cyllideb fisol, trowch:
  • wythnosol yn fisol = X52 yna ÷ gyda 12
  • chwarterol yn fisol = x4 yna ÷ gyda 12
  • blynyddol yn fisol = ÷ 12
  • bob pythefnos yn fisol = X26 yna ÷ gyda 12
  • dyddiol yn fisol = x7, yna X52, yna ÷ gyda 12
  • bob 4 wythnos yn fisol = X13, yna ÷ gyda 12

Cam 4 – Ychwanegu'r Ffigyrau at y Gyllideb

Yna mae angen ychwanegu’r ffigyrau hyn at daflen gyllideb neu offeryn cyllideb. Os ydych ar grwydr a heb gyfleuster ar-lein gallwch argraffu a defnyddio'r daflen gyllideb yn Atodiad B.

 

Mae yna hefyd nifer o offerynnau cyllideb sydd ar gael ar-lein, rhai y gallwch fwydo'r wybodaeth hon iddynt, ac sy'n gallu gweithio allan y symiau i chi! Mae'n fater o ddewis yr opsiwn gorau i chi a/neu eich sefydliad.

 

Rhai Awgrymiadau Cyllideb

  • Gwnewch yn siŵr bod symiau yn realistig
  • Gwnewch gopi bras yn gyntaf
  • Peidiwch ag anghofio taliadau unwaith am byth na rhai blynyddol
  • Cofiwch gynnwys swm ar gyfer argyfyngau a phethau fel y Nadolig a Phen-blwyddi
  • Ailwampiwch y gyllideb pan fo pethau'n newid, er enghraifft; os byddwch yn newid eich swydd neu’n rhoi’r gorau i waith, os ydych yn gorffen talu dirwy neu ddyled, neu os ydych yn cymryd benthyciad.

Cam 5 – Edrychwch ar y canlyniad gyda'ch defnyddiwr gwasanaeth/ cleient

  • A yw eich cleient yn cytuno â chanlyniad y gyllideb? Os yw, byddwch yn gwybod eich bod ar y trywydd iawn. Os nad yw, pam? A ydynt yn gwario mwy neu lai? 
  • A oes unrhyw wariant wedi bod dros neu o dan amcangyfrif?
  • A oes unrhyw beth ar goll? A yw'r swm a nodir yn ddigon?

 

Os oes unrhyw beth na ellir ei esbonio, gofynnwch i'ch cleient. Os nad ydych yn sicr neu od yw’r gyllideb yn gymhleth, er enghraifft, oherwydd incwm hunangyflogedig neu sefyllfa deuluol gymhleth, yna cysylltwch gydag asiantaeth gynghori am gyngor pellach.

Cam 6 – Cynyddu Incwm a Lleihau Gwariant

Cynyddu Incwm

Mae sawl ffordd bosibl i’ch cleient a'i deulu gynyddu eu hincwm sy'n amrywio o wirio'r hawliau budd-dal i gael ail swydd. Gweler isod am ddolenni i ragor o wybodaeth a chymorth ynghylch ffyrdd eraill o gynyddu incwm.

 

Lawrlwythwch Canllaw PDF i Gynyddu eich incwm