Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Mwynhau
Byw
Cyngor
Gweithio
Browser does not support script.
Nodweddir ein hardal ddeniadol, fywiog gan gefn gwlad tonnog, cymunedau arfordirol, cyrchfannau glan môr, trefi marchnad prysur a phentrefi gwledig.
Bydd ein tîm profiadol ac ymroddgar iawn yn eich tywys trwy holl broses y seremoni – o’r cam cyntaf, sef dewis eich lleoliad i gynnal y seremoni ar eich diwrnod mawr.
Rydym yn ymfalchïo yn ein manwl gywirdeb a'n gwasanaeth croesawgar, gan roi’r holl ofal a’r sylw rydych yn eu haeddu er mwyn sicrhau eich bod yn cael diwrnod i’r brenin.
Hefyd gallwn gynnig ail-ddatgan addewidion priodas a phartneriaeth sifil a seremonïau enwi. Mae seremonïau dwyieithog ar gael ar gais (yn dibynnu ar argaeledd ein Cofrestryddion sy'n siarad Cymraeg).
Cyfeiriwch at ein Canllaw Seremoni isod, sy'n darparu rhagor o wybodaeth am y lleoliadau sydd ar gael ar gyfer seremonïau ym Mro Morgannwg a'r ffioedd cysylltiedig.
Canllaw i Seremoniau