Cost of Living Support Icon

Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig

Mae gofyniad statudol i'r CDLlN fod yn destun Arfarniad Cynaliadwyedd i sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn sail i’r cynllun.

Trosolwg

Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) yn fecanwaith i ystyried a chyfathrebu'r effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol, a diwylliannol sylweddol tebygol yr hyn sy'n dod i'r amlwg, a dewisiadau amgen o ran materion cynaliadwyedd allweddol, gan sicrhau cyfraniad mwyaf posibl y cynllun newydd at ddatblygu cynaliadwy. Mae'r arfarniad hwn yn bwriadu lliniaru'r effeithiau negyddol a gwneud y mwyaf o effeithiau cadarnhaol y broses o wneud cynllun. Mae'r ACI ar gyfer y CDLlN  hefyd yn bodloni'r gofynion a'r dyletswyddau ar gyfer:

  • Arfarniad Cynaliadwyedd (AC) ac Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS); 

  • Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (AEG); 

  • Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI); 

  • Asesiad o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg (AEIG); a 

  • Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (LlCD). 

Mae 5 cam allweddol i'r broses ACI: 

 

  • Cam A: Gosod Cyd-destun a Chwmpasu

    Cwmpasu a gosod cyd-destun yw cam cyntaf y broses ACI, gyda'r nod a'r allbwn yn y pen draw o Adroddiad Cwmpasu cryno, hygyrch a chymesur. Bydd hyn yn cynnwys: adolygu cyd-destun polisi, gwybodaeth sylfaenol (gan gynnwys tueddiadau cyfredol a dyfodol), materion allweddol a fframwaith ACI y bydd y CDLlN  yn cael eu gwerthuso.

  • Cam B: Datblygu Opsiynau ac Asesu Dewisiadau Amgen

    Mae Cam B yn cynnwys ystyried y gwaith sy'n mynd i'r Strategaeth a Ffefrir, gan gynnwys: y materion a'r amcanion gweledigaeth arfaethedig; yr opsiynau twf sy'n cael eu ffafrio a; polisïau drafft.

    Bydd opsiynau amgen rhesymol i'r Strategaeth a Ffefrir hefyd yn cael eu datblygu a bydd eu heffeithiau'n cael eu hasesu. Yna caiff dewisiadau amgen a ffefrir eu dewis.

     

     

  • Cam C: Asesu'r Cynllun ar Adnau a Pharatoi Adroddiad ACI

    Yng Ngham C bydd effeithiau'r Cynllun ar Adnau yn cael eu hasesu gan ddefnyddio'r Fframwaith ACI a bydd hwn yn ceisio lliniaru unrhyw effeithiau negyddol sylweddol. Bydd mesurau i fonitro effeithiau sylweddol gweithredu'r CDLlN hefyd yn cael eu cynnig. Unwaith y bydd y Cynllun ar Adnau wedi'i asesu, ymgynghorir ar y canfyddiadau yn Adroddiad yr ACI. 

  • Cam D: Ymgynghoriad, Archwilio a Mabwysiadu

    Yng Ngham D, bydd newidiadau sylweddol i'r Cynllun ar Adnau sy'n dod i'r amlwg yn dilyn ymgynghoriad ac arno yn cael ei asesu trwy ddefnyddio Fframwaith ACI. Bydd Adroddiad ACI hefyd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol sy'n deillio o ymgynghoriad y Cynllun ar Adnau neu'r Archwiliad.

      

     

    Yn dilyn mabwysiadu, bydd Datganiad Ôl-fabwysiadu yn cael ei gyhoeddi, yn nodi sut y mae ystyriaethau amgylcheddol wedi cael eu hintegreiddio i'r cynllun, sut mae adroddiad ACI ac ymatebion ymgynghoriad wedi'u hystyried a'r rhesymau amlinellol dros ddewis y dewisiadau amgen a ffefrir yng nghyd-destun y dewisiadau amgen rhesymol a ystyriwyd.

     

     

  • Cam E: Monitro effeithiau sylweddol gweithredu'r CDLlN    

    Bydd y cam hwn yn datblygu'r nodau a'r dulliau ar gyfer monitro'r gwaith o weithredu'r CDLlN a sut bydd y Cyngor yn ymateb i effeithiau niweidiol

 

Cam A: Gosod Cyd-destun a Chwmpasu 

Paratoi’r Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft yw cam cyntaf y broses ACI ac mae'n amlinellu'r materion a'r amcanion y bydd cynaliadwyedd y CDLlN yn cael ei asesu yn eu herbyn. Mae’r Adroddiad Cwmpasu ACI drafft yn gam casglu tystiolaeth i raddau helaeth ac yn nodi'r cyd-destun lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol presennol gan gynnwys data llinell sylfaen ac mae’n canfod materion cynaliadwyedd sy’n berthnasol i'r ardal leol.  Mae hyn wedi cynnwys adolygiad o'r cynlluniau, y polisïau a’r strategaethau sy'n berthnasol i baratoi'r CDLlN, yn ogystal ag adolygiad o nodweddion sylfaenol amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd Bro Morgannwg.

 

Manylion Ymgynghori

Bu’r Adroddiad Cwmpasu ACI drafftyn destun ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 24/08/2022 a 29/09/2022. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r newidiadau arfaethedig yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.  Bydd y dogfennau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi maes o law.  

 

Mae’r Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft a ymgynghorwyd arno, a’i grynodeb annhechnegol cysylltiedig, i’w gweld isod:

 

Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft                              Adroddiad Cwmpasu ACI Drafft Annhechnegol

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech wneud sylwadau ar yr adroddiad hwn yn berson, gellir gwneud hyn trwy apwyntiad yn Swaddfa’r Doc. Ar gyfer apwyntiadau, cysylltwch â ni.