Cost of Living Support Icon

Polisi Cynllunio

Cyngor a chyfarwyddyd i ddatblygwyr a’r cyhoedd ynghylch polisïau cynllunio lleol ym Mro Morgannwg. 

 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd 2021-2036

Mae'r Cyngor yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd i ddisodli'r CDLl mabwysiedig presennol. Enw'r Cynllun newydd fydd Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN). 

 

Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Cynllun Datblygu Lleol (CDLI)

Welsh LDP Front Cover

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Bro Morgannwg yn darparu’r fframwaith polisi cynllunio lleol ar gyfer Bro Morgannwg a chafodd ei fabwysiadu gan y Cyngor ar 28 Mehefin 2017.

 

Mae’r Cynllun yn nodi gweledigaeth, amcanion, strategaeth a pholisïau rheoli datblygiadau ym Mro Morgannwg, ac mae’n cynnwys nifer o bolisïau cynllunio lleol ac yn trafod defnyddio tir at ddibenion tai, cyflogaeth, manwerthu, hamdden, trafnidiaeth, twristiaeth, mwynau, gwastraff a defnydd cymunedol. Mae hefyd yn ceisio adnabod y seilwaith y bydd ei hangen i ateb y twf a ragwelir ym Mro Morgannwg hyd at 2026 ac mae’n cynnwys fframwaith fonitro i asesu pa mor effeithiol yw’r Cynllun.

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cynhyrchu map rhyngweithiol ar-lein sy'n cynnwys yr holl ddata mapio perthnasol ar gyfer ardal yr Awdurdod gan gynnwys haenau Map Cynnig y CDLl a'r haenau Cyfyngiadau diweddaraf. Fodd bynnag, gellir cyrchu fersiwn PDF o'r Mapiau Cynnig a Chyfyngiadau fel y'i mabwysiadwyd ym mis Mehefin 2017 gan ddefnyddio'r dolenni isod.

   

 

Canllaw Cynllunio Atodol

Mae’r Cyngor wedi paratoi a mabwysiadu dogfennau Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar wahanol bynciau.  Mae’r CCA yn rhoi cyngor polisi ychwanegol at y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Bydd y CCA hyn yn cael eu defnyddio fel ystyriaethau perthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.

 

 

 

   

 

  

  

Y Cyflenwad Tir Tai

Mae gofyn i ni sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y daw digon o dir ar gael, i gynnal cyflenwad tir ar gyfer tai am bum mlynedd.

 

I ddangos ein bod yn gwneud hyn mae cyd-astudiaeth argaeledd tir ar gyfer tai (CAATT) yn cael ei baratoi pob blwyddyn.  Gwneir yr astudiaeth hon ar y cyd â chynrychiolwyr cwmnïau adeiladu tai, darparwyr seilwaith a chyrff eraill megis cymdeithasau tai lleol. 

 

Welsh JHLAS 2018 Front CoverWelsh JHLAS 2019 Front Cover