Cost of Living Support Icon

LANDMAP

Mae landmap yn asesiad Cymru-gyfan sy'n cael eu trefnu gan Gyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Cymru

 

Adnodd tirwedd yn ymwneud â Chymru gyfan yw LANDMAP, lle y caiff nodweddion a phriodweddau’r dirwedd, a’r dylanwadau arni, eu cofnodi a’u gwerthuso.


Dyma offeryn sy’n helpu gyda phenderfyniadau cynaliadwy a chynllunio adnoddau naturiol ar sawl lefel, o’r lleol i’r cenedlaethol, gan sicrhau yr un pryd fod y broses benderfynu’n gwbl eglur.

 

Pump o setiau data gofodol y sicrhawyd eu hansawdd, sy’n genedlaethol gyson:

  • Tirweddau Daearegol
  • Cynefinoedd Tirwedd
  • Gweledol a Synhwyraidd
  • Tirweddau Hanesyddol
  • Tirweddau Diwylliannol

  

LANDMAP 

 

Tirweddau’n gweithio dros Fro Morgannwg

Comisiynodd Cyngor Bro Morgannwg, gyda chefnogaeth Asiantaeth Datblygu Cymru fel yr oedd, White Consultants ym mis Rhagfyr 1997 i baratoi strategaeth tirwedd ar gyfer y Fro.