Ymgynghoriad ar Twf Tai yn y Barri
Mae’r ymgynghoriad hwn nawr wedi’i cau.
Mae'r Cyngor wedi ymgynghori ar gynigion ar gyfer safleoedd tai posib yn ardal y Barri fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.
Ym mis Medi 2024, cytunodd y Cyngor Llawn y dylai'r Strategaeth a Ffefrir fod yn sail i'r Cynllun ar Adnau, y cam nesaf o baratoi'r cynllun. Roedd y Strategaeth a Ffefrir yn cynnwys 5 safle allweddol, a fydd yn cyflawni rhan sylweddol o'r gofyniad tai cyffredinol ar gyfer Bro Morgannwg. Mae gwaith asesu pellach wedi codi pryderon ynghylch pa mor gyflawnadwy yw un o'r safleoedd allweddol hyn – Tir yng Ngogledd-ddwyrain y Barri, oddi ar Argae Lane – oherwydd materion perchnogaeth tir. O ganlyniad, cynigir peidio â bwrw ymlaen a’r safle hwn mwyach fel dyraniad o fewn y CDLlN ar Adnau.
Felly, roedd angen chwilio am safleoedd amgen i ddisodli'r safle allweddol hwn gyda safleoedd tai eraill yn y Barri, gan mai hwn yw'r anheddiad mwyaf cynaliadwy yn y Fro o ran cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da, cyfleoedd cyflogaeth ac ystod eang o wasanaethau a chyfleusterau, a dyma'r ardal sydd â'r angen mwyaf am dai fforddiadwy.
Yn dilyn asesiad manwl o'r safleoedd ymgeisiol sydd ar gael, nodwyd bod safle allweddol amgen yn addas i'w ystyried ymhellach:
- Tir yng ngogledd-orllewin y Barri – 376 o unedau
Yn ogystal, mae dau safle llai wedi'u nodi fel safleoedd tai posibl:
- Tir yn Hayes Lane, The Bendricks – 70 o unedau; a
- Thir yn Neptune Road, Glannau’r Barri - 40 o unedau
Gyda'i gilydd byddai'r safleoedd hyn yn darparu bron i 500 o gartrefi mawr eu hangen, gan gynnwys tai fforddiadwy, yn ogystal â gwella seilwaith.
Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol ei gynnal rhwng dydd Llun 16 Mehefin 2025 a dydd Llun 14 Gorffennaf 2025.
Cafodd digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ei gynnal yng Nghlwb Bowlio Millwood, Heol Pontypridd, Y Barri, CF62 7LX ddydd Mawrth 24 Mehefin 2025 rhwng 3pm a 7pm.
Fe wnaeth hwn roi cyfle i rannu barn a gofyn cwestiynau mewn perthynas â safleoedd arfaethedig yn y Barri.
Roedd hyrwyddwyr safle'r safle allweddol arfaethedig yng ngogledd-orllewin y Barri yn y digwyddiad i lywio gwaith uwch-gynllunio'r safle mawr hwn yn unol ag egwyddorion creu lleoedd.
Bydd yr holl sylwadau a gafwyd yn cael eu hystyried, a bydd adroddiad ymgynghori yn cael ei adrodd i'r Cyngor llawn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad ar gael ar y porthol ymgynghoriadau.
Ymgynghoriadau CDLl