Cost of Living Support Icon

Trosolwg ac Amserlen

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn helpu i siapio Bro Morgannwg am y 15 mlynedd nesaf (rhwng 2021 a 2036). Bydd yn ein helpu i benderfynu pa ddatblygiadau fydd ac na fydd yn cael eu caniatáu mewn gwahanol leoliadau, ac yn tynnu sylw at feysydd y mae angen i ni eu gwarchod.

 

 

Cam 1: Cytundeb Cyflawni - Cyflawn

 

Cam 1: Cytundeb Cyflawni
Camau’r broses Diben
Paratoi Cytundeb Cyflawni Drafft Gosod yr amserlen ar gyfer paratoi’r CDLlN a phroses / dulliau ymgysylltu â'r gymuned
Ymgynghoriad ar y Cytundeb Cyflawni Drafft Rhoi gwybod i randdeiliaid bod y Cyngor yn paratoi CDLlN a cheisio ymgysylltu â’r gymuned. Ceisio barn rhanddeiliaid ar gynnwys y Cytundeb Cyflawni drafft
Cyflwyno Cytundeb Cyflawni diwygiedig i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo Gofyn am gytundeb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru o'r Cytundeb Cyflawni yn dilyn ymgynghoriad, ystyried y sylwadau a dderbyniwyd a chymeradwyaeth gan y Cyngor
Cyhoeddi Cytundeb Cyflawni cymeradwy Rhoi gwybod i randdeiliaid am amserlen y Cytundeb Cyflawni y cytunwyd arni a'r CCG
Cyhoeddi Cytundeb Cyflawni diwygiedig cymeradwy Rhoi gwybod i randdeiliaid am amserlen y Cytundeb Cyflawni y diwygiedig arni a'r CCG

 

Cam 2: Paratoi a Chyfranogiad Cyn Adneuo - Ar y gweill

 

Cam 2: Paratoi a Chyfranogiad Cyn Adneuo
Camau’r broses Diben
Adolygu / diweddaru sylfaen dystiolaeth bresennol y CDLl Llywio strategaeth a fframwaith polisi'r CDLlN. Bydd unrhyw dystiolaeth berthnasol, wedi'i diweddaru neu newydd ar gael i roi sylwadau ar y cam CDLlN priodol e.e. Strategaeth a Ffefrir / Cam y Cynllun ar Adnau
Galwad am Safleoedd Ymgeisiol Sefydlu argaeledd tir , gan nodi ardaloedd y mae tirfeddianwyr yn ceisio eu datblygu. Nodi safleoedd datblygu posibl a llywio'r Strategaeth CDLlN
Paratoi Adroddiad Cwmpasu’r ACI Gosod y cyd-destun, sefydlu'r llinell sylfaen a phenderfynu ar amcanion a chwmpas yr ACI Yn cynnwys adolygu cynlluniau, rhaglenni a pholisïau perthnasol
Ymgynghoriad ar Adroddiad Cwmpasu’r ACI Er mwyn galluogi'r Cyrff Ymgynghori Amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill â diddordeb roi sylwadau ar yr adroddiad cwmpasu
Nodi / asesu gweledigaeth, materion ac amcanion Datblygu a chytuno ar weledigaeth ac amcanion clir ar gyfer y CDLlN
Nodi / asesu strategaethau amgen ac opsiynau twf Datblygu consensws ar opsiynau gan gynnwys lefelau twf a dosbarthiad gofodol i lywio'r Strategaeth a Ffefrir
Paratoi'r Strategaeth a Ffefrir, Adroddiad Cychwynnol ACI / Adroddiad ARhC Arfarnu opsiynau amgen ac asesu effeithiau
Ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, Adroddiad Cychwynnol yr ACI / ARhC I roi cyfle i randdeiliaid a phartïon â diddordeb gyfrannu at baratoi'r strategaeth a ffefrir, adroddiad cychwynnol yr ACI (AAS) ac Adroddiad Sgrinio ARhC ac awgrymu addasiadau
Dadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi Adroddiad Ymgynghori Cychwynno Ystyried a oes angen unrhyw newidiadau i'r Strategaeth a Ffefrir
Adrodd gwleidyddol – Y Cyngor i gymeradwyo'r Strategaeth a Ffefrir Cael cymeradwyaeth aelodau i'r Strategaeth a Ffefrir
Cais am ragor o wybodaeth mewn perthynas â safleoedd ymgeisiol yn unol â’r strategaeth (lle na chyflwynwyd gwybodaeth yn flaenorol) Galluogi darpar safleoedd i gael eu hystyried yn llawn

 

Cam 3: Adneuo - Chwefror - Mawrth 2025

 

Cam 3: Adneuo
Camau’r broses Diben
Paratoi Cynllun ar Adnau / diweddaru Adroddiad yr ACI ac ARhC Paratoi’r CDLlN ar Adnau a dogfennau ACI / ARhC cysylltiedig ar gyfer ymgynghori statudol
Adrodd Gwleidyddol – Cyngor i gymeradwyo'r Cynllun ar Adnau / ACI / ARhC ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd Cael cymeradwyaeth aelodau i'r CDLlN ar Adnau / ACI / ARhC at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus
Ymgynghoriad ar y Cynllun ad Adnau / Adroddiad yr ACI / ARhC a dogfennau ategol perthnasol eraill Galluogi'r holl randdeiliaid a phartïon â diddordeb i gyflwyno sylwadau ar CDLlN y Cyngor a dogfennau ategol
Dadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad a pharatoi adroddiad ymgynghor Ystyried y sylwadau a dderbyniwyd i'r CDLlN ar Adnau

 

Cam 4: Cyflwyno - Tachwedd 2025

 

Cam 4: Cyflwyno
Camau’r broses Diben
Adrodd Gwleidyddol - Cyngor i gymeradwyo cyflwyno i Lywodraeth Cymru Hysbysu aelodau o gynnwys a chanlyniad yr ymgynghoriad ar y CDLlN ar Adnau
Cyflwyno’r CDLlN a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio i’w harchwilio Cyflwyno'r CDLlN a dogfennau cysylltiedig i Lywodraeth Cymru a'r Arolygiaeth Gynllunio i’w harchwilio’n annibynnol

 

Cam 5: Archwiliad Annibynnol - Rhagfyr 2025 - Chwefror 2026

 

Cam 5: Archwiliad Annibynnol
Camau’r broses Diben
Hysbysiad o Archwiliad Annibynnol yn unol â Rheoliad 23 Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael eu hysbysu bod archwiliad i'r CDLlN yn cael ei gynnal
Cyfarfod cyn y gwrandawiad Caniatáu i'r Arolygydd a benodir gan Lywodraeth Cymru hysbysu’r partïon â diddordeb am weithdrefnau a fformat yr archwiliad
Ystyried cadernid y Cynllun a'r holl sylwadau a wnaed i'r Cynllun gan yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol a benodwyd i ystyried y dystiolaeth Rhoi barn gynllunio ddiduedd ar gadernid y Cynllun, a'r sylwadau a wnaed arno
Adroddiad yr Arolygydd Arolygydd i ystyried tystiolaeth a gyflwynwyd yn yr Archwiliad ac mewn cyflwyniadau ysgrifenedig ffurfiol

 

Cam 6: Adroddiad yr Arolygwyr - Mawrth - Gorffennaf 2026

 

Cam 6: Adroddiad yr Arolygwyr
Camau’r broses Camau’r broses 
Adroddiad yr Arolygydd yn Cyrraedd Derbyn Adroddiad yr Arolygydd mewn perthynas â'r archwiliad i'r CDLlN. Bydd yr adroddiad yn manylu ar y newidiadau a argymhellir gan yr Arolygydd ac mae newidiadau o'r fath yn rhwymo'r awdurdod lleol
Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd Sicrhau bod Adroddiad yr Arolygydd ar gael i’r cyhoedd

 

Cam 7: Mabwysiadu - Awst - Medi 2026

 

Cam 7: Mabwysiadu
Camau’r broses  Diben
Mabwysiadu'n ffurfiol y CDLlN fel Cynllun Datblygu'r Cyngor Rhoi gwybod i'r holl randdeiliaid a phartïon â diddordeb bod y Cynllun wedi’i fabwysiadu
Cyhoeddi'r CDLlN a Fabwysiadwyd, Datganiad Mabwysiadu, Adroddiad Terfynol yr ACI Rhoi gwybod i'r holl randdeiliaid a phartïon â diddordeb bod y Cynllun wedi’i fabwysiadu