Cost of Living Support Icon

Galwad am Safleoedd Ymgeisiol

Yn dilyn cyhoeddi’r Cytundeb Cyflawni, yr alwad am Safleoedd Ymgeisiol yw'r cam ffurfiol cyntaf o baratoi'r CDLlN. Gwahoddwyd partïon â diddordeb (e.e. datblygwr neu dir-berchennog) i gyflwyno safleoedd y cyfeirir atynt fel 'Safleoedd Ymgeisiol' i’r Cyngor i'w dyrannu o bosib yn y CDLlN rhwng 20/6/22 a 13/9/22. Bydd y Cyngor wedyn yn asesu pob safle ymgeisiol i benderfynu a yw'n addas.

 

Y Broses Safleoedd Ymgeisiol 

 

Mae'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol yn gam pwysig ym mhroses casglu tystiolaeth y Cyngor i lywio'r gwaith yn y dyfodol o ddrafftio'r CDLl newydd. Roedd yn ofynnol i gynigwyr safle ddarparu tystiolaeth addas i ddangos yn gadarn gynaliadwyedd, dichonoldeb cyflawni a hyfywedd ariannol safleoedd. Mae cyflwyno tystiolaeth fanwl ymlaen llaw ac yn gynnar ym mhroses llunio cynlluniau, fel rhan o'r cam Safle Ymgeisiol, yn hanfodol er mwyn llywio'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth a Ffefrir a chamau dilynol y cynllun.

 

Bydd cyflwyniadau Safleoedd Ymgeisiol yn cael eu hystyried ar gyfer o bosib  eu cynnwys o fewn y CDLlN a'u hasesu yn unol â'r Methodoleg Asesu (pdf) . Ni ddylid dehongli'r broses o gyflwyno safle ymgeisiol a'i gynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol fel gwarant y bydd y safleoedd hyn yn addas i’w datblygu nac y byddant yn cael eu dwyn ymlaen i'r CDLlN Adneuo.

 

Os ydych yn hyrwyddwr safle, gallwch weld eich safle ymgeisiol wrth ddefnyddio'r linc isod:

 

Porthle ar-lein 

 

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol

 

Mae'r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn gofnod o'r holl safleoedd a gyflwynwyd i'r Cyngor fel rhan o'r Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gynhaliwyd rhwng 17 Mehefin a 13 Rhagfyr 2022. Diben y gofrestr hon yw nodi pa dir a allai fod ar gael i'w ddyrannu yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN).

 

Mae'r safleoedd hynny sydd wedi methu asesiad cam 1 (hidlydd safleoedd cychwynnol) hefyd wedi'u nodi, ac maent ar gael i'w gweld yng Nghofrestr Asesu Safleoedd Ymgeisiol Cam 1. 

 

Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad yw cyflwyno safleoedd a’u cynnwys yn y Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol yn gwarantu y byddant yn cael eu dwyn ymlaen i'r CDLlN Ar Adnau. Bydd safleoedd ymgeisiol yn destun proses asesu gadarn i bennu eu haddasrwydd neu fel arall i'w dyrannu.

 

Nid dogfen ymgynghori yw’r gofrestr, mae ar gael er gwybodaeth yn unig ar hyn o bryd. Ceir cyfle ffurfiol i roi sylwadau ar Safleoedd Ymgeisiol yn y Cam Strategaeth a Ffefrir ar ddiwedd 2023; ar yr adeg hon, bydd y Cyngor hefyd yn cyhoeddi asesiad cychwynnol o'r safleoedd hyn.

 

Mae’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol, ynghŷd â’r Gofrestr Asesu Safleoedd Ymgeisiol Cam 1 ar gael i’w weld ar borthle ar-lein y Cyngor gan ddilyn y dolenni isod:  

 

 

Gall y fersiynau PDF gael eu gweld gan ddilyn y dolenni isod:

Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol 

Cofrestr Asesu Safleoedd Ymgeisiol Cam 1

 

Fel arall, mae modd gweld copi caled o'r gofrestr yn Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bro Morgannwg yn ystod oriau swyddfa arferol. 

 

Cysylltwch â ni:

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm CDLl ar: