Cost of Living Support Icon

Asesiadau Hyfywedd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN)

Mae'r Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle sy'n ymgeisio am ddatblygiad preswyl (ac eithrio llety sipsiwn a theithwyr) a datblygiad masnachol sy’n cael eu cyflwyno yn unol â'r trothwyon safle gofynnol rhagnodedig (a dwyseddau) gael eu hategu gan arfarniad cychwynnol o hyfywedd y safle. Ni fydd angen asesiad hyfywedd pan fydd cyflwyniad safle ymgeisydd yn ceisio diogelu tir er mwyn cadw’r defnydd presennol.

 

Trosolwg 

Mae cyflwyno arfarniad hyfywedd cychwynnol yn rhoi syniad o'r posibilrwydd o gyflawni safle yn ogystal â bwriadau hyrwyddwr safle i ddwyn y safle ymlaen yn ystod y cyfnod Cynllunio. Ar gyfer yr asesiad hyfywedd cychwynnol, efallai y byddwch am ystyried eich safle arfaethedig yn erbyn y gofynion polisi cyfredol a nodir yn y CDLl mabwysiedig a'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) perthnasol. Fodd bynnag, dylid ystyried hwn yn fan cychwyn ar gyfer asesiad; mae gan y Cyngor ddiddordeb cael gwybod a yw'r safle arfaethedig yn hyfyw ac yn bodloni canllawiau bras gyda digon o hyblygrwydd ariannol i fodloni holl ofynion polisi'r CDLl presennol.

 

Cydnabyddir efallai na fydd sicrwydd bob amser ynghylch pa mor bosib y bydd hi i gyflawni safle’n derfynol hyd nes y ceir gwybodaeth fanylach ynghylch hyfywedd wrth i'r Cynllun fynd rhagddo. Felly, gall y Cyngor ofyn am ragor o wybodaeth sy’n gymesur â natur a graddfa'r datblygiad arfaethedig er mwyn gallu asesu'r safle’n fanwl o ran ei addasrwydd i'w neilltuo yn y CDLlN ar Adnau.

 

Bydd y Cyngor yn hysbysu cynigwyr safleoedd ac yn gofyn iddynt am asesiad hyfywedd manylach os yw'n berthnasol. Mae’r broses hon er mwyn sicrhau y gall safleoedd sy’n symud ymlaen i’w neilltuo yn y CDLlN gwrdd â gofynion polisi newydd a pharhau yn hyfyw ac yn gyflawnadwy. Codir tâl ar y cam hwn am gael cyrchu’r model hyfywedd ac am amser staff ar gyfer dadansoddi'r wybodaeth hon. 

 

Mae'r Cyngor yn cydnabod y gall hyrwyddwr y safle ystyried bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ei hangen i brofi hyfywedd yn fasnachol sensitif. Fodd bynnag, fel y nodwyd yn Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Llywodraeth Cymru (Mawrth 2020), nid yw'r mater hwn o sensitifrwydd yn rheswm digonol dros osgoi darparu'r dystiolaeth briodol (gweler paragraff 5.96). Ni fydd pob Arfarniad o Hyfywedd Ariannol (AHA) a gyflwynir ar gael i'r cyhoedd a chaiff ei drin yn gyfrinachol rhwng y Cyngor a'r person neu'r sefydliad sydd wedi'i gyflwyno. Prif ddiben yr AHA yw dangos a yw cynnig datblygu a/neu safle arfaethedig i'w neilltuo yn debygol o fod yn "hyfyw". Lle y gall fod naill ai'n angenrheidiol neu'n briodol i wybodaeth gan yr AHA gael ei rhyddhau fel tystiolaeth, er enghraifft i gefnogi dyraniad safle penodol yn CDLlN y Cyngor, bydd y Cyngor yn trafod gyda hyrwyddwr y safle i ba raddau y gellir rhyddhau gwybodaeth o'r fath.

 

Camau Asesu Hyfywedd

Mae tri cham i'r broses asesu hyfwedd ar gyfer CDILN: 

 

  • Cam 1: Asesiad Cychwynnol o Hyfywedd y Safle (Cam Safle Ymgeisiol)

    Dylai'r asesiad hyfywedd cychwynnol nodi mewn modd cymesur, a yw'r safle'n hyfyw gan ystyried holl anghenion seilwaith y safle.  Ar y cam hwn, mae angen i’r Cyngor ddeall a yw'r safle arfaethedig yn hyfyw ac yn bodloni canllawiau bras gyda digon o hyblygrwydd ariannol i fodloni holl ofynion polisi'r CDLl.  Ar ôl y Cam Strategaeth a Ffefrir, cynhelir asesiadau safle-benodol pellach sy'n gwerthuso'r datblygiadau arfaethedig yn erbyn polisïau'r CDLlN.

     

  • Cam 2: Asesiad Hyfywedd Eang o'r Cynllun Lefel Uchel (Strategaeth a Ffefrir – Y Cam Ar Adnau) 

    Bydd gwybodaeth a ddarparwyd yng Ngham 1 yn cael ei defnyddio i lywio asesiad hyfywedd ar lefel uchel ar draws y cynllun cyfan.  Bydd Cam 2 yr asesiad hwn yn llywio'r gwaith o ddatblygu polisïau o fewn y CDLlN (e.e. trothwyon tai fforddiadwy, ac ati).

  • Cam 3: Asesiad Hyfywedd Safle-benodol (Strategaeth a Ffefrir – Y Cam ar Adnau) 

    Mae Cam 3 yn cynnwys asesiadau safle-benodol ar gyflwyniadau y mae'r Cyngor yn bwriadu eu dyrannu o fewn y CDLlN.  Ar y cam hwn, bydd y Cyngor yn cysylltu â cynigwyr safleoedd i roi gwybod iddynt am yr angen am asesiad o'r fath.  Mae angen y cam hwn yn y broses er mwyn sicrhau bod safleoedd sy'n symud ymlaen i'w neilltuo o fewn dyraniad y CDLlN yn gallu bodloni gofynion polisi newydd a pharhau i fod yn hyfyw ac yn gyflawnadwy. 

     

    Sylwer - Codir tâl ar y cam hwn am gael cyrchu’r model hyfywedd ac am amser staff ar gyfer dadansoddi'r wybodaeth. 

 

Model Hyfywedd Datblygu (MHD)

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cydweithio â Chynghorau eraill ar draws y rhanbarth, yn ogystal ag ymgynghorwyr yn Burrows-Hutchinson Ltd, i greu’r offeryn asesu Model Hyfywedd Datblygu (MHD).  Crëwyd yr MHD hwn fel model cynhwysfawr sy'n hawdd ei ddefnyddio y gall cynigwyr safleoedd a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ei ddefnyddio er mwyn asesu hyfywedd ariannol cynigion datblygu. 

 

Mae Canllaw Defnyddiwr manwl wedi'i greu sy'n egluro sut mae'r MHD yn gweithio; mae hefyd yn nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid i ddefnyddwyr ei rhoi yn y celloedd perthnasol.  Mae pob copi o'r MHD yn cynnwys 'Canllaw Cyflym' hefyd, sydd wedi'i anelu at y rhai sy'n cynnal asesiad o safle datblygu cwbl breswyl nad yw'n llawer mwy na 5 erw (2 Hectar).  At hynny, mae 'Nodiadau Cymorth' yn atgoffa defnyddwyr o'r hyn i'w wneud wedi'u cynnwys yn y model ac wedi'u hymgorffori yn y taflenni gwaith eu hunain.

 

Mae hefyd ddolen ar sut i ddefnyddio'r model ar gael isod. Darperir rhain fel modd arall i sicrhau bod y defnyddiwr yn deall sut mae'r model hyfywedd datblygu (DVM) yn gweithio cam wrth gam. 

 

Mae'r defnydd o'r MHD yn ystod yr Alwad gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol yn rhad ac am ddim.  Fodd bynnag, codir ffi am ddefnyddio'r model ar gam 3 ar gyfer y safleoedd hynny y mae'r Cyngor yn gofyn am wybodaeth ychwanegol ganddynt. Cysylltwch â'r Tîm CDLl i ofyn am gopi o'r DVM.

 

Noder - Bwriad y Cyngor yw defnyddio'r model hwn ar gyfer yr holl asesiadau hyfywedd sy'n gysylltiedig â'r CDLlN, fel rhan o'r Safle Ymgeisiol a'r Strategaeth a Ffefrir - Y Camau ar Adnau.  Felly, er mwyn sicrhau cysondeb, byddem yn annog pob un sy'n cynnig safleoedd i ddefnyddio'r model hwn.  

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y MHD, cysylltwch â Thîm Polisi Cynllunio'r Cyngor:

 

1. Cyflwyniad 

 

2. Trosolwg Preswyl

 

3. Elfennau Preswyl

 

4. Costau

 

5. Arfarnu a Llif Arian