Cost of Living Support Icon

Cynllun Trafnidiaeth Lleol

Mae’r Cynllun Trafnidiaeth Leol yn gosod yr agenda trafnidiaeth ar gyfer Bro Morgannwg.

 

Cynlluniau Trafnidiaeth Leol (LTPs) yw’r cynlluniau awdurdod lleo a fydd yn cyflwyno’r cynlluniau blaenoriaeth y mae awdurdodau lleol yn bwriadu buddsoddi ynddynt.  Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i Gynghorau weithio gyda nhw i sicrhau system drafnidiaeth effeithiol ac effeithlon ar gyfer Cymru:  lle y bydd cysylltiadau da ar gyfer marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol yn caniatáu ffyniant a ble mae pawb yn gallu cael mynediad i’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau iach a chyflawn.

 

Mae’n broses y mae'n rhaid i awdurdodau trafnidiaeth lleol eu dilyn wrth ddatblygu eu Cynllun Trafnidiaeth Lleol wedi'i resymoli ar gyfer 2015 a’r tu hwnt.  Caiff awdurdodau trafnidiaeth lleol ddiweddaru cynlluniau neu flaenoriaethau a nodwyd yn eu Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol (LTPs) i addasu i newidiadau ers iddynt gael eu cyhoeddi, a gallant roi sylw i ganlyniadau a chynnwys astudiaethau a chynlluniau a ddatblygwyd ers y cyfnod hwn.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl y bydd LTPs yn canolbwyntio ar dargedu buddsoddiad mewn trafnidiaeth a fydd yn:

  • Cefnogi twf economaidd ac yn diogelu swyddi ar draws Cymru, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y Dinas-Ranbarthau, Ardaloedd Menter ac Ardaloedd Twf
  • Lleihau anweithgaredd economaidd drwy gyflawni mynediad diogel a fforddiadwy i safleoedd cyflogaeth ar draws Cymru
  • Mwyafu'r cyfraniad y gall gwasanaethau trafnidiaeth effeithiol a fforddiadwy ei wneud i fynd i'r afael â thlodi a thargedu buddsoddiad i gefnogi gwelliannau mewn hygyrchedd ar gyfer y cymunedau mwyaf difreintiedig
  • Annog teithio mwy diogel, mwy iach a mwy cynaliadwy

 

 

 

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol 

Mae’r ddogfen Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol flaenorol, ynghyd â’i bolisïau a chynigion, yn disodli'r Cynlluniau Trafnidiaeth Lleol unigol a ddatblygwyd gan y deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru.