Cost of Living Support Icon

Dod yn Llywodraethwr

Os oes diddordeb gennych mewn dod yn llywodraethwr, cysylltwch â’r Uned Cymorth i Lywodraethwyr (UCL) ar 01446 709106/107 gan nodi lle yn y Fro yr hoffech chi fod yn llywodraethwr.

 

Pennir union faint a chyfansoddiad corff llywodraethu gan ei Offeryn Llywodraethu (OLl) sy’n ddatganiad cyfreithiol o aelodaeth y corff llywodraethu.

 

Y categorïau gwahanol o ysgolion yw:

Ysgol Gymunedol: Mae’r Awdurdod Lleol (ALl) yn berchen, rheoli, cynnal a staffio’r ysgol gan gynnwys y tir (yn amodol ar gyfrifoldebau wedi’u dirprwyo i gyrff llywodraethu)
 
Ysgol Arbennig Gymunedol: Ysgol ar gyfer plant gydag Anghenion Addysgol Ychwanegol. Mae’r ALl yn berchen, rheoli a staffio’r ysgol gan gynnwys y tir.
 
Ysgol Sefydledig: Mae’r corff llywodraethu yn berchen y safle, yn cyflogi’r staff ac yn bennaf gyfrifol am drefniadau derbyn. Bydd yn derbyn refeniw a chyfalaf gan yr ALl
 
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir: Mae gan yr ysgol ei safle ei hun, yn cyflogi'r staff ac yn delio â threfniadau derbyn. Mae’r ALl trwy raniad cyllideb yr ysgol yn darparu cyllid refeniw. Bydd y corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sefydledig. Bydd y rhain yn llenwi’r rhan fwyaf o leoedd ar y corff llywodraethu.
 
Ysgol Wirfoddol a Reolir: Mae sefydliad gwirfoddol yn aml yn berchen ar dir ac adeiladau’r ysgol. Fodd bynnag, bydd yr ALl yn cyflogi'r staff a bod yn bennaf gyfrifol am drefniadau derbyn. Mae gan ysgolion a reolir yn wirfoddol y Fro gysylltiad â’r Eglwys yng Nghymru at ddibenion rhoi addysg ffydd. Mae’r corff llywodraethu yn cynnwys llywodraethwyr sefydledig ond ni fyddan nhw'n llenwi mwyafrif y lleoedd.

Y mathau gwahanol o lywodraethwyr a sut maen nhw’n cael eu hethol/penodi:

Rhiant-Lywodraethwyr: Caiff y rhain eu hethol gan ac o blith rhieni holl ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol.  Pan fo lle gwag yn codi yn yr ysgol rhoddir y cyfle i bob rhiant enwebu ei hun i gael ei ethol.  Os ceir mwy o enwebiadau na nifer y lleoedd gwag sydd ar gael, cynhelir pleidlais ddirgel. Mae gan yr Uned Cymorth i Lywodraethwyr broses ar gyfer cynnal etholiadau rhiant-lywodraethwyr. (Mae Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir yn dilyn y gweithdrefnau Esgobaeth 
priodol).
 
Llywodraethwyr ALl: Hysbysebir lleoedd gwag ar wefan y Cyngor yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor a rhaid i unrhyw un sydd am ddod yn llywodraethwr ALl wneud cais trwy’r Uned Cymorth i Lywodraethwyr.  Ystyrir yr holl leoedd gwag am lywodraethwyr ALl gan Aelodau’r Cyngor ar y Panel Penodi Llywodraethwyr ALl a chaiff eu hargymhellion ar gyfer penodiadau eu cyfeirio at y Cabinet i’w cymeradwyo. 
 
Pennaeth ar y Corff Llywodraethu: Yn ogystal â’r uchod, mae’r Pennaeth (neu Bennaeth dros dro) yn aelod o’r corff llywodraethu oni bai ei fod yn dewis peidio â bod yn aelod. Nid oes darpariaethau ar gyfer llywodraethwr fel eilydd i gymryd lle Pennaeth sy’n penderfynu peidio â bod yn llywodraethwr. Rhaid i Bennaeth roi’r gorau i'w le ar y corff llywodraethu wrth adael yr ysgol.
 
Llywodraethwyr Athrawon: Caiff y rhain eu hethol gan ac o blith athrawon yn yr ysgol.
 
Llywodraethwyr Staff (cymorth / nad ydynt yn addysgu): Caiff y rhain eu hethol gan ac o blith yr holl staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol. 
 
Llywodraethwyr Cymunedol: Penodir y rhain gan y corff llywodraethu a dylen nhw fod yn berson sy’n byw neu’n gweithio yn y gymuned y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu neu dylen nhw ymrwymo i lywodraethiant da a llwyddiant yr ysgol.
 
Llywodraethwyr Cynrychiolydd Awdurdod Llai (CAL) (Ysgolion Cynradd yn unig): Penodir llywodraethwyr CAL gan gynghorau cymunedol a thref ac mae'r Uned Cymorth i Lywodraethwyr yn cyd-gysylltu â nhw pan fo lleoedd gwag yn codi a rhoddir gwybod i ysgolion am benodiadau fel sy'n briodol.
 
Llywodraethwyr Sefydledig (Ysgolion a Gynorthwyir ac a Reolir (Eglwys) yn unig): Penodir y rhain gan y bobl neu’r sefydliad a enwir yn offeryn llywodraethu’r ysgol. Rhaid iddynt gadw cymeriad crefyddol yr ysgol a sicrhau y cydymffurfir â'r weithred ymddiriedolaeth (os yw’n berthnasol).
 
Disgybl Lywodraethwyr Cysylltiol: Rhaid i bob ysgol uwchradd a gynhelir benodi Disgybl Lywodraethwyr Cysylltiol i'r corff llywodraethu. Rhaid i Bennaeth yr ysgol sicrhau bod gan gyngor yr ysgol y cyfle i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flynyddoedd 11 i 13 (cynhwysol) o blith ei aelodaeth.
 
Aelodau nad ydynt yn Llywodraethwyr: Gall corff llywodraethu benodi aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu neu i wasanaethau ar un neu fwy o bwyllgorau’r corff llywodraethu. Mae diffiniad o aelod nad yw'n llywodraethwr yn eang a gellir penodi disgyblion, staff ysgol a phobl sydd am gyfrannu'n benodol ar faterion sy'n ymwneud â'u harbenigedd (er enghraifft, cyllid) fel aelod nad yw’n llywodraethwr.  Ni all aelodau nad ydynt yn llywodraethwyr bleidleisio mewn cyfarfodydd corff llywodraethu ond gallan nhw bleidleisio mewn cyfarfodydd pwyllgor, pan fo’r corff llywodraethu wedi cytuno i hyn wrth sefydlu cylch gorchwyl y pwyllgor dan sylw.

 

Cyfnod y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn y swydd yw pedair blynedd o’r dyddiad penodi. Heblaw am y canlynol:

  • Llywodraethwyr a benodir fel llywodraethwyr yn rhinwedd eu swydd
  • Rhiant-Lywodraethwyr ysgol feithrin gymunedol, pan mai dwy flynedd yw'r cyfnod yn y swydd.
  • Disgybl lywodraethwyr cysylltiol, pan mai blwyddyn yw’r cyfnod yn y swydd
  • Llywodraethwyr sefydledig, llywodraethwyr ychwanegol a llywodraethwyr sefydledig ychwanegol pan fo'r corff/person sy'n penodi'n pennu'r cyfnod yn y swydd, hyd at bedair blynedd

 

Ni all person fod yn llywodraethwr ar fwy na dwy ysgol ar unrhyw un adeg.