Cost of Living Support Icon

Swyddi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol (ALl) - Hydref 2026

Mae Cyngor Bro Morgannwg yn gwahodd Ymgeiswyr sy'n dymuno cael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag presennol fel llywodraethwyr ysgol Awdurdod Lleol (ALl).

 

Gwahoddir ceisiadau oddi wrth y rhai yr hoffent gael eu hystyried ar gyfer y swyddi presennol i lywodraethwyr ysgol yr Awdurdod Lleol (ALl).  Bydd y Panel Penodi Llywodraethwyr ALl yn ystyried y ceisiadau ar sail y cyfraniad y mae modd i ymgeiswyr ei wneud i ysgol o ran eu sgiliau a'u profiad.

 

 Mae'r ffactorau i'w hystyried yn cynnwys:

 

  • Profiad fel llywodraethwr ysgol effeithiol wedi ei fesur o ran meddu ar sgiliau, gwybodaeth a phrofiad perthnasol gan gynnwys sgiliau sy'n cyd-fynd â heriau'r ysgol unigol.
  • Y cyfraniad a wneir yn ystod cyfnod yn y swydd a phresenoldeb rheolaidd.
  • Awydd gwirioneddol i helpu i wella safonau addysg o fewn yr ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth a gweddill y corff llywodraethu.
  • Gwybodaeth a diddordeb yn y gymuned y mae'r ysgol wedi'i lleoli ynddi.
  • Gwybodaeth am faterion addysg fodern.
  • Ymrwymiad i fynychu cyfarfodydd corff llywodraethu llawn yn rheolaidd yn ogystal â chyfarfodydd unrhyw bwyllgorau o'r corff llywodraethu y maent yn cael eu hethol iddynt.
  • Ymrwymiad i fynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr i ddiweddaru eu sgiliau a'u gwybodaeth i wella eu gallu a'u heffeithiolrwydd fel llywodraethwr.

Mae swyddi ar gael i lywodraethwyr ar hyn o bryd yn yr ysgolion canlynol: 

 1    Ysgol Gynradd Tregatwg  13   Ysgol Gynradd Sain Helen  
 2  Ysgol Gynradd Dinas Powys  14  Ysgol Gynradd Sain Illtyd 
 3  Ysgol Gynradd Gwenfo C/W  15  Ysgol Gynradd Sain Nicolas (2) 
 4  Ysgol Gyfun High Street  16  Ysgol Gynradd Sili 
 5  Ysgol Gynradd Holton   17  Ysgol Gyfun y Bont-Faen (2) 
 6  Ysgol Gynradd Parc Jenner (2)  18  Ysgol Gymraeg Dewi Sant 
 7  Ysgol Gyfun Llanilltud Fawr  (2)  19  Ysgol Gymraeg Gwaun Y Nant (2) 
 8  Ysgol Gynradd Palmerston  20  Ysgol Gymraeg Iolo Morganwg (2)        
 9  Ysgol Gynraff Peterston-S-Ely C/W        21  Ysgol Gymraeg Sant Baruc 
 10  Ysgol Gynradd Rhws (2)  22  Ysgol Gymraeg Sant Curig (2) 
 11  Ysgol Gynradd Sain Tathan (2)  23  Ysgol Y Deri
 12  Ysgol Gyfun St Cyres  24  Ysgol Gyfun Romilly 

 

Sylwer na fydd yr Ysgolion Cymraeg yn cynnal eu holl gyfarfodydd yn Gymraeg a phan fydd hynny’n digwydd, bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael. 

 

Os ydych yn teimlo y gallech fodloni’r meini prawf uchod ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn cael eich ystyried ar gyfer swydd llywodraethwr yn un o’r ysgolion uchod, cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr drwy e-bost yn governors@valeofglamorgan.gov.uk neu ffoniwch 01446 709125 (llinell uniongyrchol)

 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn pecynnau cais wedi'u cwblhau yw Dydd Gwener, 18 Medi 2026.