Cost of Living Support Icon

Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro

Ffurfiwyd Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro ym 1996 a dyma’r corff cydnabyddedig sy’n cynrychioli llywodraethwyr ysgolion ledled Bro Morgannwg. Mae gan bob llywodraethwr ym mhob math o ysgol yn y Fro hawl i gymryd rhan yn y Gymdeithas.

 

Mae'r Pwyllgor Rheoli yn cynnwys 15 o lywodraethwyr etholedig ynghyd â 2 Gynrychiolydd Rhiant-lywodraethwyr.

 

Sefydlwyd y Gymdeithas i:

  • Hyrwyddo arfer gorau yn y maes llywodraethu ysgolion yn Awdurdod Lleol (ALl) Bro Morgannwg.
  • Hyrwyddo partneriaeth ymhlith ysgolion a rhwng ysgolion a’r ALl;
  • Cydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau adnoddau digonol ar gyfer yr ysgolion yn yr ALl; 
  • Cynrychioli barn y Gymdeithas ar faterion yn ymwneud â llywodraethu ysgolion a rheoli a sicrhau adnoddau ar gyfer ysgolion i awdurdodau a sefydliadau perthnasol.

 

Mae’r Gymdeithas ynghyd â chymorth gan yr Uned Cymorth Llywodraethwyr yn paratoi’r Cylchlythyr Llywodraethwyr misol. Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal y Diweddariad Addysg a Sesiynau Briffio i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion ac yn cwrdd â’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant, y Cyfarwyddwr Dysgu a Sgiliau a Phenaethiaid Gwasanaeth yn y Cyngor.

 

Cylchlythyr

Mae Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro yn cynorthwyo’r Uned Cymorth Llywodraethwyr i baratoi Cylchlythyr Llywodraethwyr misol sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i lywodraethwyr am faterion llywodraethu ysgolion lleol a chenedlaethol a newyddion am y byd addysg.

 

Lansiwyd y Cylchlythyr yn 2003 ac mae wedi datblygu dros y blynyddoedd â chyfraniadau gan Benaethiaid, staff eu hysgolion, cyrff llywodraethu ysgolion a’u Cadeiryddion yn ogystal ag Uwch Reolwyr a Swyddogion sy’n gweithio yng ngwasanaeth addysg Bro Morgannwg.

 

 

Os hoffech gyfrannu at y Cylchlythyr Llywodraethwyr nesaf, cysylltwch â Janine Hoare, Uned Cymorth Llywodraethwyr:

 

 

Os hoffech gysylltu â Chymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion y Fro, e-bostiwch: