Cynllun Hyfforddiant Llywodraethwyr
Mae hyfforddiant yn hanfodol wrth gefnogi llywodraethwyr unigol i ddod yn fwy effeithlon, a thrwy hynny, yn cryfhau’r corff llywodraethol cyfan yn y pen draw.
Mae’r Uned Cefnogi Llywodraethwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod cynllun hyfforddiant o safon yn cael ei ddarparu er mwyn galluogi cyrff llywodraethol i gyflawni eu swyddogaethau’n effeithlon. Rydyn ni wedi paratoi cynllun drwy ddilyn datblygiadau mewn rheolaeth ysgolion ac anghenion hyfforddi llywodraethwyr, a chynnig cyrsiau newydd yn ôl yr angen. Mae’r Uned hefyd yn adolygu ei gynllun hyfforddiant yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn diwallu anghenion y llywodraethwyr.
Mae pwysau cynyddol parhaus ar ysgolion erbyn hyn i ddangos cynnydd cyson. Mae hyn yn golygu bod angen i bib llywodraethwr, waeth pa mor brofiadol, barhau i fod yn rhan hanfodol o gyrraedd a chynnal y safonau uchaf.
Rydym yn argymell yn gryf y dylai pob llywodraethwr, waeth pa mor brofiadol, fynd ar gyrsiau hyfforddi i wella eu heffeithlonrwydd ac i ddysgu am y datblygiadau diweddaraf a allai fod yn berthnasol i’w hysgol nhw a’u swyddogaethau fel llywodraethwyr. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y cwrs cyflwyno; rydyn ni’n argymell i bob llywodraethwr fynd ar y cwrs cyflwyno.
Mae hyfforddiant yn eitem reolaidd ar agendâu cyfarfodydd llawn cyrff llywodraethol. Mae hyfforddiant yn cynnig cyfle i rannu gwybodaeth a syniadau sydd wedi codi yn sgil y cwrs, ac i adolygu hyfforddiant yn y dyfodol ac anghenion datblygu fel y cânt eu blaenoriaethu gan y corff llywodraethol.
Cynllun Hyfforddi Llywodraethwyr yn y Fro
Mae’r Uned Cefnogi Llywodraethwyr yn dosbarthu cynllun hyfforddiant i bob llywodraethwr yn y Fro ar ddechrau pob tymor drwy e-bost, neu’n anfon copi caled A4 at y llywodraethwyr ar eu cais. Wedi hynny, mae’r Uned yn anfon nodyn atgoffa at lywodraethwyr i amlygu’r sesiynau hyfforddiant nesaf.
Nodyn pwysig parthed cofrestru ar gyrsiau hyfforddi llywodraethwyr
Genwch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar bob cwrs rydych yn dymuno mynd iddo. Mae’r broses o gofrestru’n golygu y gallwn ni wneud yr holl drefniadau arlwyo, eistedd a chopïo priodol ar gyfer pob sesiwn hyfforddi. Mae hefyd yn golygu y gallwn gysylltu â phawb sydd i fod ar y cwrs petai’n cael ei ohirio am resymau na ellid mo’u rhagweld, er mai anaml iawn mae hyn yn digwydd.
Cofrestru ar gwrs
Gallwch gofrestru ar unrhyw gwrs drwy gysylltu â ni:
Bydd pob e-bost yn cael ei gydnabod, a byddwch chi’n derbyn neges atgoffa wythnos i 10 diwrnod cyn pob cwrs.