Grantiau Cynaliadwyedd ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant Cofrestredig
Grantiau i sefydliadau anstatudol 2018/19 gan Bartneriaeth Datblygu’r Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Bro Morgannwg
Mae PSBCGP Bro Morgannwg wedi neilltuo cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol yma 2018/19 am grantiau i leoliadau gofal plant cofrestredig.
Cwblhawyd yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant mwyaf diweddar ym mis Mawrth 2016 yn unol â Deddf Plant 2006.
Tanlinellodd asesiad llawn 2016 yr angen i archwilio ymhellach awr o ofal plant annodweddiadol ar gyfer rhieni sy’n gweithio oriau annodweddiadol, archwilio gofal plant sy’n cefnogi plant ag anghenion ychwanegol a/neu anableddau ynghyd â pharhau i gefnogi lleoliadau gofal plant i godi safonau.
Parhau’n gyfyng mae’r cymorth grant sydd ar gael ar gyfer 2018-19. Noder: nid hawl blynyddol yw’r grant hwn, mae ar gael er mwyn cefnogi’r lleoliadau gofal plant hynny sydd â’r angen mwyaf. Gydag ambell gais efallai y gofynnir am wybodaeth ychwanegol.
Darllenwch y meini prawf yn ofalus cyn gwneud cais am grant am na fydd pob darpariaeth cofrestredig â hawl i gael grant.
Nodwch na fydd y lleoliadau yn gymwys i dderbyn grant:
- Darparwyr oedd yn hwyr yn cyflwyno, neu a fethodd gyflwyno, adroddiad derbyniol ar ddiwedd cyfnod grant yn ystod 2017/18.
- Gofalwyr plant sydd wedi cerdyn grant dechrau busnes o fewn y 12 mis diwethaf.
- Y rhai hynny sy'n dangos cronfeydd/elw sylweddol.
- Gofalwyr plant ychwanegol sy’n gweithredu yn yr un safle, e.e. un cais fesul aelwyd
- Darparwyr gofal plant, ar adeg gwneud y cais, sydd yn y broses o sefydlu eu busnes.
O.N.Yn sgil cyflwyno’r Grantiau Gofal Plant y Tu Allan i’r Ysgol, nid yw darparwyr Y Tu Allan i’r Ysgol bellach yn gymwys i wneud cais am y grant hwn.
Os oes diddordeb gennych wneud cais am grant cynaliadwyedd (lleoliad neu Ofalwr Plant), gallwch un ai lawrlwytho’r ffurflen gais a’r canllawiau priodol neu mae modd ei e-bostio atoch chi. Fel arall mae modd eu casglu’n bersonol neu eu postio atoch (nodwch: gall y broses yma gymryd 5-7 diwrnod gwaith).
Rhaid derbyn ffurflenni cais wedi eu cwblhau gan y Cydlynydd Partneriaeth Plant ddim hwyrach na Dydd Gwener 25ain Mai 2018, 12.00yp. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried.
Ni chaiff ceisiadau hwyr eu hystyried. Cysylltwch â: