Cost of Living Support Icon

Cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws

Vale Childcare and Early Years Logo

Mae'r grant hwn yn cyfrannu at gyflawni ystod o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru a blaenoriaethau Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar, a amlinellir yng Nghynllun Gweithredu’r Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant.

Un o flaenoriaethau Bro Morgannwg yw cynnig Cymorth Gofal Plant â Ffocws ar gyfer y meini prawf canlynol:

 

Mae'r cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws yn cefnogi dwy elfen:

  1. Plant cyn oed ysgol am un tymor (12 wythnos ar y mwyaf) am hyd at 10 awr yr wythnos cyn dechrau’r addysg gynnar yn yr ysgol, y mae hawl ganddynt i’w chael, y tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.   Gallai hyn fod ar gyfer:
    • Plentyn sydd ag angen ychwanegol sy'n dod i'r amlwg a/neu sydd â diagnosis - yn dibynnu ar amgylchiadau’r teulu, gallai hyn olygu ariannu'r lleoliad a chymorth ychwanegol (os bydd Fforwm y Blynyddoedd Cynnar yn cytuno)
    • Plentyn sydd mewn perygl o gael ei ynysu a/neu o ddiffyg cymdeithasu ac nad yw’n mynychu unrhyw ddarpariaeth gofal plant arall wedi'i hariannu neu heb ei hariannu h.y. Dechrau'n Deg, y cynnig i blant 2 oed, gofal dydd preifat ac ati

2. Plant 4 oed neu hŷn am hyd at 12 awr yr wythnos am uchafswm o 6 wythnos drwy gydol gwyliau'r ysgol (yn ystod un flwyddyn yn unig).  Gallai hyn fod ar gyfer:

    • Plentyn sydd mewn perygl o gael ei ynysu a/neu o ddiffyg cymdeithasu ac nad yw’n manteisio ar unrhyw gynllun arall a ariennir h.y. cynlluniau chwarae, y Cynnig Gofal Plant, y Rhaglen Hwyl a Bwyd ac ati oherwydd ariannu dwbl.

Noder: Mae llawer o gynlluniau a ariennir gan y Llywodraeth ar gael i rieni sy'n gweithio y mae'n rhaid eu hystyried cyn i atgyfeiriad gael ei wneud neu ei dderbyn drwy gynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws y Fro.

 

Am ragor o wybodaeth ynghylch cymorth ariannol ar gyfer gofal plant, cysylltwch â Chwmpawd Teuluoedd y Fro a dewis opsiwn 2 ar gyfer y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd neu ewch i'r dudalen 'Dewis Gofal Plant' ar wefan Cwmpawd Teuluoedd y Fro:

 

 

Atgyfeiriadau

Gall sefydliad/ysgol neu weithiwr proffesiynol y mae'r teulu yn gweithio gydag ef wneud atgyfeiriad.  Ni allwn dderbyn atgyfeiriadau gan rieni/gofalwyr.  Sicrhewch eich bod yn defnyddio’r ffurflen atgyfeirio cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws newydd, y mae angen i’r atgyfeirydd a’r rhiant/gofalwr ei llofnodi.  Dim ond gyda'r asiantaeth atgyfeirio a'r teulu y byddwn yn gallu trafod atgyfeiriadau.

 

Er mwyn sicrhau ffordd syml o adolygu atgyfeiriadau, bydd angen i atgyfeirwyr roi gwybodaeth gadarn am pam y mae atgyfeiriad yn cael ei wneud.

 

Caiff atgyfeiriadau eu trafod gan banel bob pythefnos (lle bo hynny'n bosibl), felly gadewch amser i hyn ddigwydd a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.  Mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth.  Ar ôl i atgyfeiriad gael ei gytuno gan y panel, byddwn yn sicrhau bod yr atgyfeirydd yn cael ei hysbysu o'r canlyniad. D.S. - Gall y broses hon gymryd amser wrth chwilio am ofal plant priodol.

 

Cynhelir ymweliadau monitro gyda'r lleoliad gofal plant i sicrhau bod anghenion y plentyn yn cael eu bodloni, bod y rhiant/gofalwr yn hapus a bod y plentyn wedi setlo.

 

Os bydd yr asiantaeth atgyfeirio'n tynnu ei gwasanaeth oddi ar y teulu, bydd dyletswydd arni i'n hysbysu fel y gellir trafod parhau / dileu’r lle Cymorth Gofal Plant â Ffocws. 

 

Nodwch y canlynol o ran y cynllun Cymorth Gofal Plant â Ffocws:

 

  • Mae’n lleoli’r plentyn mewn gofal plant cofrestredig, y tymor cyn iddo ddechrau ei le meithrin addysg gynnar.  Cofiwch hyn wrth wneud atgyfeiriad gan ei bod yn bosibl nad lleoliad gofal plant yw'r lle mwyaf priodol i'r plentyn/person ifanc rydych am ei atgyfeirio. 
  • Nid yw wedi'i ddylunio i gynnig gofal seibiant, i gynnig gofal plant brys neu i gael ei ystyried fel rhan o gynllun gofal y teulu.
  • Nid cefnogi anghenion rhieni/gofalwyr yw ei nod.
  • Nid yw’n gallu cefnogi plant ar y gofrestr Amddiffyn Plant.
  • Os yw presenoldeb plentyn yn afreolaidd, mae gan y cynllun bolisi cadarn y gellir atal y lle gofal plant gan fod rhaid i’r cynllun dalu am y sesiynau a gollwyd o hyd.

 I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch Tîm Gofal Plant a Blynyddoedd: 

 

Os ydych chi'n teimlo y gallai eich plentyn elwa o'r cynllun hwn ond nad ydych chi'n gweithio gyda'r asiantaethau a grybwyllir uchod ar hyn o bryd, cysylltwch â Chwmpawd Teulu'r Fro a dewiswch opsiwn 1 ar gyfer y Llinell Gyngor Cymorth Cynnar:

  • 0808 2816727