Cost of Living Support Icon

Prosiect Synnwyr o Chwarae Flying-Start

Ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol 0 - 4 oed, a'u teuluoedd sy'n byw ym Mro Morgannwg.

I blant ag anghenion dysgu ychwanegol 0-4 oed a’u teuluoedd sy’n byw ym Mro Morgannwg. 

 

Mae Synnwyr o Chwarae yn rhaglen o sesiynau chwarae wedi'u teilwra yn eich cartref gan ymarferydd medrus. Ar draws chwe sesiwn, byddwch yn cael cyfle i:  

  • Dreulio awr gyda'ch plentyn lle gallwch brofi syniadau a gweithgareddau chwarae newydd gyda'ch gilyddd
  • Ehangu ac adeiladu perthynas gadarnhaol gyda'ch plentyn trwy chwarae
  • Adnabod gwahanol gamau datblygu eich plentyn
  • Cynnig syniadau a rhannu gwybodaeth am ddatblygiad a chwarae plant

 

Cynhelir y sesiynau yng nghartref y teulu ar sail 1:1 ac mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar chwarae a datblygu. 

 Nod y sesiynau yw cefnogi rhieni i gydnabod gwahanol gamau datblygu plentyn a’r rôl y gallant ei chwarae i wella hyn ymhellach. 

 Mae sesiynau am awr yr wythnos am hyd at 6 sesiwn. Mae’r sesiynau hwyl a rhyngweithiol yn canolbwyntio ar: 

  • Chwarae Synhwyraidd
  • Chwarae Corfforol
  • Lleferydd, iaith a chyfathrebu 
  • Chwarae Blêr

Mae'r ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn dod ag amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau sy'n ysgogol, yn llawn hwyl ac yn gwella datblygiad plant. 

Gallwch ddod o hyd i’r adnoddau hefyd yn ein Llyfrgell Benthyca. 

 

Nod Synnwyr o Chwarae yw cefnogi plant sydd:

  • ag amhariadau corfforol a/neu synhwyraidd.  

  • ag anghenion cymdeithasol, cyfathrebu h.y. anhawster yn defnyddio iaith lafar a di-eiriau mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.  

  • ag oedi datblygiadol cyffredinol h.y. oedi sylweddol wrth gyrraedd dwy neu fwy o gerrig milltir datblygu.  

  • ar y llwybr niwro-ddatblygu.  

  • ag ymddygiadau neu ddiddordebau cyfyngedig neu ailadroddus e.e. rhoi teganau mewn rhes, diddordebau obsesiynol neu weithredoedd ailadroddus. 

 

Manylion Cyswllt 

Gall rhieni a gweithwyr proffesiynol gysylltu â'r Llinell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf i wneud atgyfeiriad: 

  • 0800 0327 322

 

Mae Synnwyr o Chwarae yn cael ei redeg gan Dechrau'n Deg: