Cost of Living Support Icon

FACT - Teuluoedd yn Cyflawni Newidiadau gyda’i Gilydd 

Mae Tîm FACT yn rheoli atgyfeiriadau, ac yn darparu tîm o weithwyr cefnogi a fydd yn cwblhau ‘Fframwaith i’r Teulu drwy Asesiad ar y Cyd’ i bob teulu sy’n derbyn atgyfeiriad.

 

Bydd hyn yn sicrhau y bydd y tîm yn cyflenwi cefnogaeth i’r teulu drwy wasanaeth cyfun, aml-asiantaeth wedi ei deilwra i anghenion yr unigolion a’r teulu yn ei gyfanrwydd.

 

Mae’r Tîm FACT yn seiliedig ar fodel ‘Tîm o Gwmpas y Teulu’ (TAF), a chaiff ei gefnogi gan ystod o gynlluniau cefnogaeth. Ceir mynediad i’r cynllun FACT drwy atgyfeiriad yn unol â meini prawf penodol. 

 

                                

Atgyfeirio i FACT

Ni allwch atgyfeirio i FACT oni bai eich bod yn weithiwr proffesiynol. Ni allwch hunan-atgyfeirio i FACT.

 

Meini prawf atgyfeirio:

  • Rhaid bod y plant a’r bobl ifanc rhwng 0 a 18 oed ac yn byw ym Mro Morgannwg
  • Ni ellir diwallu anghenion y teulu drwy un gwasanaeth yn unig
  • Os nad yw’r plentyn neu’r person ifanc yn agored i’r Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Os oes pryder am gynnydd neu lesiant plentyn neu berson ifanc, e.e. sefyllfa’r teulu, datblygiad plentyn/person ifanc, addysg plentyn/person ifanc, rhyngweithio cymdeithasol plentyn/person ifanc

 

  • 0800 0327322

  • familiesfirstadviceline@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

Families-First-logo 
Welsh Government Logo