Cofrestru i bleidleisio
I bleidleisio yn etholiad y Senedd, rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 20 Ebrill 2026.
Dim ond unwaith mae angen i chi gofrestru - nid ar gyfer pob etholiad. Bydd angen i chi gofrestru eto os ydych wedi newid eich enw, eich cyfeiriad neu'ch cenedligrwydd.
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein. 5 munud mae’n ei gymryd i gofrestru.
I gofrestru gofynnir i chi am y manylion canlynol:
- eich enw llawn,
- eich cyfeiriad post,
- eich dyddiad geni, a’ch
- rhif yswiriant gwladol (os ydych yn 16 oed neu'n hŷn). Mae’n helpu i fod â’ch Rhif Yswiriant Gwladol wrth law, gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, eich P60 neu ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau.
Os na allwch roi unrhyw un o'r manylion hyn am unrhyw reswm, efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth.
Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad e-bost, dylech gael e-bost cadarnhau ar ôl i chi wneud cais i gofrestru.
Os nad ydych wedi rhoi cyfeiriad e-bost, byddwch yn derbyn llythyr drwy’r post.
I gofrestru i bleidleisio, rhaid i chi fod yn 14 oed neu'n hŷn (ond ni allwch bleidleisio nes eich bod yn 16 neu’n 18 oed yn dibynnu ar yr etholiad) ac yn un o'r canlynol:
- dinesydd o'r DU neu Iwerddon
- dinesydd cymwys o'r Gymanwlad sy'n byw yn y DU
- dinesydd cymwys o'r UE sy'n byw yn y DU
- dinesydd tramor cymwys
I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol:
Pwy all bleidleisio yn etholiadau’r DU
Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y cewch unrhyw broblemau.
Pleidleisio hygyrch
Gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod pawb yn gallu pleidleisio ym Mro Morgannwg.