Cost of Living Support Icon

 

GALLWCH OFYN AM Y DDOGFEN HON MEWN FFURFIAU ERAILL

ER ENGHRAIFFT: FFONT MWY; AR BAPUR LLIW GWAHANOL

 

Hysbysiad o Gyfarfod     Y CYNGOR

 

Dyddiad ac amser          DYDD LLUN, 18 GORFFENNAF, 2022 AM 6.05 P.M.

y Cyfarfod                      

 

Lleoliad                         CYFARFOD O BELL

 

GOFYNNWYD I AELODAU NODI AMSER Y CYFARFOD. 

GWEDDÏWN AM 6.00 P.M.

 

 

Agenda

 

 

RHAN 1

 

1.         Ymddiheuriadau am absenoldeb.

[Gweld Cofnod]

 

2.         (a)       Clywed rhestr yr aelodau.

            (b)       Datgan buddiannau dan God Ymarfer y Cyngor.

(Noder:Gofynnir i Aelodau sy’n ceisio cyngor ar yr eitem hon gysylltu â’r Swyddog Monitro o leiaf 48 awr cyn y cyfarfod).

[Gweld Cofnod]

 

3.         I gymeradwyo Cofnodion:

[Gweld Cofnod]

           

4.         Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Maer, yr Arweinydd, Aelodau’r Cabinet a Phennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig a derbyn unrhyw ddeisebau a gyflwynwyd gan Aelodau.

[Gweld Cofnod]

 

5.         Ystyried yr Hysbysiad o Gynnig canlynol [a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr G.D.D. Carroll, R.E. Godfrey ac R.R. Thomas] –

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg:

 

-           Yn gresynu bod Cyngor Bro Morgannwg, yn wahanol i Gynghorau eraill yng Nghymru, ar hyn o bryd yn cynnal holl gyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Cabinet a’r Pwyllgorau o bell ac nid mewn fformat hybrid;

-           Yn cydnabod bod cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn caniatáu ar gyfer craffu a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol na chyfarfodydd a gynhelir yn rhithwir;

-           Yn galw am i gyfarfodydd y Cyngor Llawn, y Cabinet a Phwyllgorau gael eu cynnal mewn fformat hybrid yn y dyfodol, ac i'r holl gamau angenrheidiol gael eu cymryd i ganiatáu i hyn ddigwydd.

[Gweld Cofnod]

 

Adroddiad yr Prif Weithredwr –

6.         Defnydd o Bwerau Brys y Prif Weithredwr.

[Gweld Cofnod]

 

7.         I hysbysu’r Cyngor o’r Defnydd o’r Weithdrefn Benderfynu Frys yn unol ag Erthygl 14.14 y Cyfansoddiad.

 

Eitem

Dyddiad y Cyfarfod

Rhif Cofnod.

(a)       Polisi Cyfarfodydd Amlleoliad Diwygiedig.

[Gweld Cofnod]

25 Ebrill, 2022

C922

(b)       Canllaw Cyfansoddiad Model Drafft.

[Gweld Cofnod]

25 Ebrill, 2022

C926

(c)       Trwyddedau Masnachu Priffyrdd Dros Dro.

[Gweld Cofnod]

23 Mehefin, 2022

C26

(d)       Y Gronfa Lefelu i Fyny (Rownd 2) a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

[Gweld Cofnod]

23 Mehefin, 2022

C28

 

8.         I dderbyn cwestiynau ac atebion yn ymwneud ag Adran 4.19.2 – 4.19.7 o Gyfansoddiad y Cyngor (h.y. cwestiynau ar unrhyw fater mewn perthynas â lle mae gan y Cyngor rymoedd neu ddyletswyddau neu sy’n effeithio ar Fro Morgannwg). 

[Gweld Cofnod]

 

9.         Cwestiynau gan y cyhoedd –    

            Derbyniwyd 7 cwestiwn.

[Gweld Cofnod]

 

10.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan I).

 

RHAN II

GALL Y CYHOEDD A’R CYFRYNGAU GAEL EU GWAHARDD O’R CYFARFOD WRTH YSTYRIED YR EITEM(AU) GANLYNOL YN UNOL AG ADRAN 100A(4) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972.

 

11.      Unrhyw eitemau eraill y mae’r Maer wedi penderfynu eu bod yn rhai brys (Rhan II).

 

 

Rob Thomas

Prif Weithredwr

 

12 Gorffennaf, 2022

 

 

Mae’r Agenda hon ar gael yn Saesneg.

 

Deddf Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) 1985 -

Arolygu papurau cefndir – Yn yr achos cyntaf dylid ymholi J. Rees, Ffôn: Y Barri (01446) 709413

E-bost: JERees@valeofglamorgan.gov.uk

 

Dosbarthu:  I Holl Aelodau’r Cyngor.

 

SYLWCH: Mae’r Cyngor yn cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â risgiau iechyd y cyhoedd.  Mae mesurau Covid 19 y Cyngor yn cael eu hadolygu’n barhaus yn seiliedig ar ganllawiau a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru a Thîm Iechyd a Diogelwch y Cyngor ac wrth wneud hynny yn ystyried asesiadau risg perthnasol.  Ni chynhelir cyfarfodydd y Cyngor yn eu lleoliad arferol hyd nes y clywir yn wahanol.  Bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithwir a bydd ‘presenoldeb’ yn cael ei gyfyngu i Aelodau’r Cyngor, swyddogion perthnasol ac unrhyw ‘partïon â diddordeb’  sydd wedi cofrestru i siarad lle bo’n briodol.  Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu ffrydio’n fyw a’u recordio i’w darlledu wedyn drwy wefan gyhoeddus y Cyngor.

 

Bydd cyfarfodydd Cyngor Bro Morgannwg yn cael eu ffrydio’n fyw, ac eithrio lle mae materion Rhan II yn cael eu hystyried yn gyfan gwbl neu’n rhannol ac yn unol â Pholisi Cyfarfodydd Aml-leoliad y Cyngor, sydd i’w weld yn https://www.valeofglamorgan.gov.uk/Documents/_Committee%20Reports/Remote-Procedures-COVID-19/Multi-Location-Meetings-Policy-WELSH.pdf.  Os ydych chi'n cymryd rhan, mae hyn yn golygu eich bod chi'n cael eich recordio'n weledol ac mewn sain gyda'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a budd y cyhoedd.  Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Swyddfa Cofnodion Morgannwg i’w gadw’n barhaol.   Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn. Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk/.  Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk.

 

Yn gyffredinol ni fyddwn yn ffilmio’r oriel gyhoeddus. Ond drwy ddod i’r ystafell gyfarfod a defnyddio’r ardal eistedd gyhoeddus rydych yn cydsynio i gael eich ffilmio ac i’r delweddau neu recordiadau sain o bosibl gael eu defnyddio ar we-ddarllediad a/neu at ddibenion hyfforddi.

 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am hyn, cysylltwch â Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd o fewn oriau swyddfa. 

Rhif Ffôn (01446) 709413 neu drwy e-bost – jerees@valeofglamorgan.gov.uk

 

 

https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/our_council/Council-Structure/minutes,_agendas_and_reports/minutes-agendas-and-reports.aspx